Ffermydd solar mawr yn bygwth dyfodol 'Amazon Cymru'

Mae 'na gynlluniau i godi chwe fferm solar yn ardal Gwastadeddau Gwent
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr cadwraeth yn rhybuddio y bydd ffermydd solar mawr yn dinistrio Gwastadeddau Gwent.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn poeni am gynlluniau ar gyfer chwe fferm solar yn yr ardal a allai olygu y byddai 19% o'r gwastadeddau yn cael eu datblygu.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, mae Fferm Solar Llanwern eisoes wedi gwneud niwed i fywyd gwyllt ar y gwastadeddau - sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae Fferm Solar Llanwern wedi cael cais am ymateb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, gan mai nhw fydd yn penderfynu ar nifer o'r ceisiadau ar gyfer ffermydd solar ar Wastadeddau Gwent, ei bod hi'n amhriodol iddyn nhw wneud sylw.

Mae'r Gwastadeddau yn ymestyn o Gas-gwent yn y dwyrain i gyffiniau Caerdydd yn y gorllewin.
Mae'r gwlypdir a'r ffosydd ar y safle yn cael eu hystyried yn gynefinoedd pwysig.
"Mae'r system nentydd sy'n bodoli ar Wastadeddau Gwent yn gartref i gannoedd o wahanol rywogaethau o bryfed, planhigion, adar fel y gornchwiglen a dyfrgwn. Llawer iawn o rywogaethau sy'n brin iawn mewn llefydd eraill," meddai Mike Webb o'r ymddiriedolaeth.
"Mae'n le unigryw ac mae pobl yn galw'r gwastadeddau yn 'Amazon Cymru' oherwydd hynny."

Un o'r ffosydd ar y gwastadeddau sy'n "gartref i gannoedd o wahanol rywogaethau"
Fe agorodd Fferm Solar Llanwern yn 2020. Nododd adroddiad monitro gan Lywodraeth Cymru y llynedd fod poblogaethau'r gornchwiglen, ystlumod a rhai mathau o wenyn wedi gostwng yno.
Mae'r Gwastadeddau hefyd yn bwysig fel tir amaethyddol, ac mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn poeni am effaith caniatáu ffermydd solar arno.
"Mae'n hurt bod cymaint o gwmnïau yn edrych i ddatblygu yn yr ardal hon, ardal sydd i fod dan warchodaeth gan Lywodraeth Cymru," ychwanegodd Mr Webb.
"Fydd yna ddim Gwastadeddau Gwent os yw'r cynlluniau sydd ar y gweill yn mynd ymlaen. Mae'n rhaid i ni gofio mai'r don gyntaf yw'r rhain. Os bydd y cynlluniau yma yn cael caniatâd, bydd yna gwmnïau eraill wedyn yn plymio i mewn.
"Bydd hi'n andros o drist os yw Gwastadeddau Gwent yn diflannu dan wydr a phlastig," meddai Mr Webb.

Mae'r defnydd o dir amaethyddol gan gwmnïau ynni yn anorfod, yn ôl Huw Michael
Mae dros 6,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r datblygiadau.
Nid hon ydy'r unig ardal un lle mae ffermydd solar yn bwnc dadleuol.
Fis Awst cafodd cynllun Fferm Solar Alaw Môn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Fe fydd hwnnw ddwywaith maint Fferm Solar Llanwern ac yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer bob cartref ar yr Ynys.
Mae na bryder yn Sir Fôn fod ffermydd solar yn cael eu codi ar dir amaethyddol da.
Yn ôl yr arbenigwr ynni Huw Michael mae hynny'n anorfod, oherwydd targedau llywodraethau yn Llundain ac yng Nghaerdydd i fwy na dyblu faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu gan ynni solar.
"Mae'n fwy costus i ddefnyddio 'tir brown' (hen safleoedd diwydiannol) nag yw e' i ddefnyddio tir amaethyddol da. Mae hynny'n sicr yn ystyriaeth gan y cwmnïau solar 'ma," eglura Mr Michael.
"Mae uchelgais y llywodraeth o ran faint o ffermydd solar maen nhw am eu datblygu yn golygu na fydd dewis gyda nhw ond defnyddio peth tir amaethyddol da er mwyn cyrraedd y nod."

Mae'r map uchod yn dangos ble fyddai'r ffermydd solar newydd yn cael eu codi
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi fod datblygu ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn annerbyniol fel mater o egwyddor.
Mae canllawiau newydd yn cael eu paratoi a fydd yn ystyried yr angen i ddiogelu ecoleg a chynefinoedd Gwastadeddau Gwent.
Yn y cyfamser mae cefnogwyr y dechnoleg yn dadlau y dylai'r broses gynllunio warchod natur a bod angen i fudiadau cadwraeth edrych ar y darlun ehangach.
'Angen bod yn ofalus'
Mae cwmni cydweithredol Awel ar fin codi fferm solar ger eu tyrbinau gwynt ar Fynydd y Gwrhyd ger Pontardawe.
Fe fyddan nhw'n plannu coed a bydd defaid yn parhau i bori ar y ddau gae fydd yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Dan McCallum, un o sylfaenwyr Awel Aman Tawe: "Mae newid hinsawdd yn cael llawer mwy o effaith ar fywyd gwyllt yng Nghymru a dros y byd i gyd ond mae'n bwysig bod y system gynllunio yn edrych i weld a ydyn nhw [ffermydd solar] yn mynd i gael effaith ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig."
"Mae angen bod yn ofalus rhag dweud – 'dy'n ni just ddim yn licio'r prosiect hwn' - ac wedyn defnyddio'r impact ar yr amgylchedd i ddweud na."

Roedd Dan McCallum yn un o sylfaenwyr cwmni Awel Aman Tawe sydd ar fin codi fferm solar ger Pontardawe
Yr un yw neges Llywodraeth Prydain sy'n dweud mai'r argyfwng hinsawdd yw'r bygythiad tymor hir mwyaf i fyd natur.
Maent yn amcangyfrif y gallai'r sector ynni solar fod yn cynnal 35,000 o swyddi erbyn 2030.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn dweud y bydd datblygu ynni glan yn help i ddod a biliau ynni lawr yn barhaol.
Ond mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn dadlau bod rhaid gwarchod byd natur.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur gan ddweud fod y ddau argyfwng ynghlwm wrth ei gilydd.
"Fedrwch chi ddim dinistrio'r amgylchedd er mwyn achub yr amgylchedd."
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.