Ymchwiliad newydd i achos menyw, 22, aeth ar goll ger Caergybi

Y tro diwethaf i unrhyw un weld Catrin Maguire oedd 21 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd
Mae achos menyw, 22, aeth ar goll ar Ynys Môn bron i bedair blynedd yn ôl yn cael ei ymchwilio o'r newydd gan elusen.
Cafodd Catrin Maguire, myfyrwraig iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, ei gweld am y tro diwethaf yng Nghaergybi ar 15 Tachwedd 2021.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod gan ei theulu y diwrnod canlynol am ei diflaniad a dyw hi ddim wedi cael ei gweld ers hynny.
Mae Locate International, elusen sy'n canolbwyntio ar ddod o hyd i bobl sydd ar goll, yn cynnal ymchwiliad annibynnol eu hunain i achos Catrin a hynny ar gais ei theulu.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd modd symud yr achos ymlaen ar hyn o bryd gan "nad oes mwy o wybodaeth wedi dod i'r golwg".
Ond maen nhw'n pwysleisio "nad yw unrhyw achos yn ymwneud â pherson sydd ar goll yn cael ei gau".

Roedd Catrin yn ei thrydydd blwyddyn ym Mhrifysgol Bangor pan aeth hi ar goll
Ddydd Llun, 15 Tachwedd, 2021, teithiodd Catrin Maguire o'i chartref ym Mangor i Gaergybi ar y trên.
Gwelwyd hi ar gamera cylch cyfyng (CCTV) yn cerdded ger cartref y teulu yng Nghaergybi ond ni alwodd yn y tŷ.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw gwelodd llygad-dyst Catrin ym maes parcio gwarchodfa'r RSPB ger goleudy Ynys Lawd ychydig filltiroedd o ganol y dref.
O fewn awr iddi gael ei gweld roedd ei ffôn symudol wedi ei diffodd â llaw. Ni chafodd Catrin ei gweld eto.
Ers hynny, mae ambell lygad-dyst arall wedi rhannu gwybodaeth gan ddweud eu bod o bosib wedi gweld Catrin yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.
Adeg ei diflaniad roedd Catrin yn gwisgo cot dywyll ac yn cario bag lliw golau.
Roedd hi'n denau, tua 5' 5" (165cm) o daldra ac roedd ganddi wallt syth, tywyll hyd at ei hysgwyddau.
'Dal i chwilio am atebion'
Bydd Catrin wedi bod ar goll am bedair blynedd ym mis Tachwedd 2025.
Mae ei theulu yn dal i chwilio am atebion. Mae ei thad, Gerry Maguire, yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad newydd hwn yn dod â'r gwirionedd iddyn nhw.
"Ers i Catrin fynd ar goll, mae wedi dod yn amlwg i ni mai dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud fel teulu," meddai.
"Nid oes gennym yr amser na'r sgiliau i wneud y cysylltiadau sydd angen eu gwneud trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Y cyfan yr ydym ei eisiau yw atebion.
"Mae wedi bod, ac yn parhau i fod, yn anodd ac yn flinedig.
"Unwaith eto, hoffem ddiolch i'r holl bobl sydd wedi ein cefnogi ac sy'n parhau i'n cefnogi."
Fel rhan o'u hymchwiliad, mae Locate International yn gofyn i dystion posibl neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dywedodd Freya Couzens, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Locate International: "Mae modd rhannu gwybodaeth gyda ni yn gyfrinachol, a gallwch aros yn ddienw os dymunwch.
"Rydym hefyd yn croesawu gwybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi ceisio rhannu gwybodaeth o'r blaen ac sy'n teimlo bod nhw ddim wedi cael ystyriaeth lawn.
"Ry'n yn ymrwymo i ddarparu lle diogel a chyfrinachol lle mae pob llais yn cael ei glywed."

Mae tad Catrin yn gobeithio bydd yr ymchwiliad newydd yn dod ag atebion i'r teulu
Pan ddaeth i'r amlwg gyntaf bod Catrin ar goll yn 2021, bu ymdrech aml-asiantaeth i geisio dod o hyd iddi a oedd yn cynnwys timau chwilio ac achub, yr heddlu, gwylwyr y glannau a gwirfoddolwyr.
Nawr bydd Locate International yn dibynnu ar eu tîm arbenigol eu hunain, sy'n cynnwys ymchwilwyr, arbenigwyr ac arbenigwyr fforensig, i geisio darganfod beth sydd wedi digwydd i Catrin.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Locate International, Mark Greenhalgh: "Bydd hwn yn ymchwiliad annibynnol i'r ffeithiau ynghylch diflaniad Catrin, ac nid yw'n disodli ymchwiliad yr heddlu sy'n parhau, ond yn ategu ato."
Mewn datganiad dywedodd Uwch-arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Arwel Hughes: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu Catrin ond ar hyn o bryd nid oes mwy o wybodaeth wedi dod i'r golwg i'n helpu i symud ymlaen gyda'r achos.
"Nid yw unrhyw achos yn ymwneud â pherson sydd ar goll yn cael ei gau a byddwn yn parhau i adolygu unrhyw wybodaeth pellach.
"Rydym hefyd yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth nad ydym yn ymwybodol ohoni eisoes i gysylltu gyda ni gan ddyfynnu 40695."