Llandaf: Cyhuddo dyn 23 oed o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal am tua 11:30 fore Sul

Mae dyn 23 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd ar noswyl Nadolig.

Cafodd swyddogion arfog eu galw i ardal Llandaf am tua 11:30 fore Sul yn dilyn adroddiadau fod dyn 23 oed wedi ei ddarganfod ag anafiadau mewn cyfeiriad ar Stryd y Capel.

Bellach mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod Dylan Thomas, o Landaf, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Nid yw dyddiad ei ymddangosiad o flaen y llys eto wedi ei gadarnhau.

Er nad yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu'r dyn wedi eu hysbysu ac yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: "Mae ein meddyliau gyda theulu'r dioddefwr sy'n parhau i gael eu diweddaru a'u cefnogi gan swyddogion cyswllt teulu.

"Mae cordonau'r heddlu yn parhau yn eu lle yn Llandaf, gan gynnwys ym maes parcio'r Stryd Fawr, tra bod ymholiadau'n parhau.

"Bydd y cordonau'n cael eu codi cyn gynted â phosib. Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sydd angen mynediad i'w cerbydau yn y maes parcio fynd at swyddogion gwarchod y safle i gael mynediad.

"Mae cefnogaeth a dealltwriaeth y gymuned leol yn cael ei werthfawrogi'n fawr."

Pynciau cysylltiedig