Casnewydd: Person yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A48

  • Cyhoeddwyd
Police officerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r gwrthdrawiad, ar yr A48 rhwng Caerdydd a Chasnewydd nos Fawrth

Mae unigolyn wedi ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad, yn ôl Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Heddlu De Cymru y bydd yr A48, rhwng Canolfan Arddio Caerdydd a Pharc Cleppa, Casnewydd, ar gau am beth amser.

Cafodd criwiau ambiwlans eu gyrru i'r safle am 17:19, cyn i un claf gael ei gludo i'r ysbyty.

Mae'r heddlu wedi cynghori pobl i osgoi'r ardal gan fod disgwyl oedi hir ar y ffordd.