Ymosodiad Caerdydd: Teyrnged i ddyn 'ffyddlon a doniol'

  • Cyhoeddwyd
William BushFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae teulu dyn 23 oed a fu farw yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd ar noswyl Nadolig wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd William Bush ei ddarganfod ag anafiadau ar Stryd y Capel yn Llandaf am tua 11:30 fore Sul, Rhagfyr 24.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Yr wythnos hon fe gollon ni ein Will mewn ffordd mor greulon.

"Roedd Will yn ffyddlon, yn ddoniol; yn fab, brawd a chariad gofalgar.

"Rydym wedi digalonni'n llwyr fel teulu ac yn gofyn am breifatrwydd yn yr amser caled hwn."

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad.

Fe ymddangosodd Dylan Thomas, 23 oed o Landaf, gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore Iau ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddechrau Ionawr.

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion i gysylltu â nhw gan ddyfynnu 2300436163.

Pynciau cysylltiedig