Llandaf: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth noswyl Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Llandaf

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yng Nghaerdydd ar noswyl Nadolig.

Fe wnaeth Dylan Thomas, 23 ac o Landaf, ymddangos o flaen ynadon fore Iau.

Cafodd ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Llandaf ar 24 Rhagfyr, a gafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu fel ymsodiad difrifol.

Cafodd dyn arall 23 oed ei ddarganfod ag anafiadau mewn adeilad ar Stryd y Capel.

Ni wnaeth Mr Thomas gyflwyno ple i'r cyhuddiad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddechrau Ionawr.