Treffynnon: Anafiadau difrifol i feiciwr modur
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur 18 oed wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Parc y Fron yn Nhreffynnon am 20:04 nos Sadwrn yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ac yn awyddus i siarad a gyrrwr car Vauxhall Corsa gwyrdd.
Yn ôl yr heddlu fe stopiodd y gyrrwr a dod allan o'i gerbyd, ond gadawodd wedyn heb wirio lles y beiciwr na gadael ei fanylion.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ac bu i'r ffordd ail agor am tua 22:00.
Dywedodd y Sarjant Steve Richards o'r Uned Troseddau Ffyrdd: "Mae'r beiciwr yn parhau i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol. Mae ein hymholiadau ar y gweill i ddod o hyd i'r gyrrwr, ond rwy'n apelio'n uniongyrchol ato i wneud y peth iawn a dod ymlaen.
"Rwyf hefyd yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yng nghyffiniau Ffordd Parc y Fron ac all fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad, neu unrhyw un a allai fod â lluniau camera cerbyd neu deledu cylch cyfyng preifat i gysylltu â ni."