Y Cymro Gerwyn Price allan o bencampwriaeth dartiau'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Gerwyn Price allan o bencampwriaeth dartiau'r byd y PDC ar ôl cael ei drechu gan Brendan Dolan o Ogledd Iwerddon nos Iau.
Cafodd Price, sy'n bumed yn rhestr detholion y byd ac a enillodd y bencampwriaeth yn 2021, ei drechu o 4-2 gan Dolan yn y drydedd rownd - un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl y gystadleuaeth hyd yma.
Colli hefyd wnaeth y Cymro Jim Williams yn erbyn Raymond van Barneveld o'r Iseldiroedd o 4-1.
Ond mae gobeithion Cymru o gael enillydd yn parhau, ar ôl i Johnny Clayton sicrhau ei le yn y bedwaredd rownd.
Bydd Johnny Clayton yn herio Rob Cross - a enillodd y gystadleuaeth yn 2018 - ar ôl iddo drechu Krzysztof Ratajski o Wlad Pwyl o 4-2.