Ateb y Galw: Tudur Huws Jones
- Cyhoeddwyd
Y cerddor a'r newyddiadurwr Tudur Huws Jones sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos hon.
Mae Tudur yn wreiddiol o Langefni ac dros y blynyddoedd wedi chwarae'r banjo, mandolin, a'r bouzouki i fandiau fel Gwerinos, 4 yn y Bar, Cilmeri a Branwen. Mae hefyd wedi chwarae gyda artistiaid fel Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Tecwyn Ifan a Siân James.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Roedd traed y cloc mawr oedd yn nhŷ Nain Niwbwrch wedi cael eu cerfio ar ffurf traed llew, a dwi'n cofio cropian ar y llawr yn eu teimlo, a rhyfeddu atyn nhw. Wn i ddim fasa fy oedran ar y pryd, ond go brin mai babi oeddwn i.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n hoffi pob rhan ohoni, ond oherwydd cysylltiadau teuluol mae gan Llangefni a Niwbwrch - yn enwedig Llanddwyn - le arbennig yn fy nghalon.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae 'na lwythi o nosweithiau cofiadwy efo teulu a ffrindiau, ac mae'n anodd meddwl am un yn benodol, ond roedd cael cyfle i gyfeilio - ynghŷd â'm cyfaill Tudur Morgan - i'r anfarwol Ronnie Drew o'r Dubliners mewn cyngerdd yng Nghaerdydd, a threulio diwrnod yn ei gwmni, yn ymarfer a sgwrsio a chwerthin, yn brofiad bythgofiadwy. Arwr!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gwyllt (weithia), gwirion (yn aml) a gofalgar (bob amser gobeithio).
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan ddaru Wil Art ddod â phen mochyn efo fo i gig Y Cynghorwyr yng Nghlwb Ifor Bach. Mi gafodd ei luchio i'r gynulleidfa (y pen mochyn, nid Wil) ond 'daeth o ddim yn bell achos roedd o'n blydi trwm!
Roedd y cyw iâr a giblets gafodd eu taflu at y gynulleidfa yn y Marine yn Aberystwyth y penwythnos cynt yn llawer haws i'w trin. 'Dwn i ddim be oedd yr eglurhad tu ôl i'r fath ymddygiad ffiaidd, ond Wil oedd o de?
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan oeddwn i'n olygydd ar bapur wythnosol Yr Herald, mi sgwennais bennawd i fynd efo stori'n ymwneud â'r argyfwng clwy traed a'r genau a achosodd cymaint o anhrefn yn 2001. A dyna oedd y pennawd ar ein prif stori yr wythnos honno - 'ANHREFN!', mewn llythrennau bras, anferthol.
Roedd o'n eitha' trawiadol, ond och a gwae, pan ddaeth y papur allan y bore wedyn mi welais fy nghamgymeriad yn syth. Roeddwn i wedi camsillafu'r gair, a be oedd ar flaen y papur mewn teip bras, 200pt, ond y gair 'ANRHEFN'. Os am wneud camgymeriad, waeth iddo fo fod yn un mawr ddim!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan welais y pennawd hwnnw! Na, yn lansiad albym ddiweddaraf Meinir Gwilym, Caneuon Tyn yr Hendy, yn Llofft, Felinheli, pan ganodd hi 'Hon yw Mharadwys i'.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Llwyth!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Cwestiwn anodd i rywun sy'n caru llyfrau a ffilms, ond am rŵan mi wnâi ddewis llyfr: Lonesome Dove gan Larry McMurtry, a ffilm: Pulp Fiction.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Earl Scruggs - arloeswr yr arddull banjo 5-tant sydd mor nodweddiadol mewn cerddoriaeth Bluegrass - er mwyn dysgu gan y meistr.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Fy mrawd, Ems, dynnodd y llun yma o'n chwaer, Gwenda. Mi gollon ni Gwend yn 2007, a fy mam yn 2009, a dwi'n colli'r ddwy bob dydd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi oedd y person cyntaf yn Ysgol Gyfun Llangefni i fethu arholiad Lefel 'O' Ffrangeg. Dwi'n cofio'r athro, Mr G I Jones yn fy hysbysu o'r ffaith alaethus honno. Roedd o'n fwy siomedig na fi, ond dwi'n difaru heddiw, na fyswn i wedi gwneud mwy o ymdrech i ddysgu'r iaith.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael picnic a gwin neis mewn lle braf efo teulu a ffrindiau. Wedyn cael sesiwn gerddorol, (a fel arall), efo ffrindiau, gyda chyri da i orffen y noson.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rhywun hollalluog fyddai'n medru sicrhau'r canlynol: heddwch parhaol bydeang a diwedd ar dlodi am byth; Cymru i ennill cwpan pêl-droed y byd a lot o bethau eraill; y tîm rygbi i ennill y Gamp Lawn bob yn ail tymor (s'dim isio bod yn farus nagoes?) a Chwpan Rygbi'r Byd, ac yn bennaf oll rhyddid neu annibyniaeth i Gymru.
Hefyd o ddiddordeb: