Ateb y Galw: Ywain Myfyr

  • Cyhoeddwyd
ywain myfyr

Ywain Myfyr sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, yn dilyn ei fab Gruff, a wnaeth yr wythnos ddiwethaf.

Mae Myfyr yn wyneb cyfarwydd yn ardal Dolgellau, yn gyn-athro lleol, yn aelod o'r band Gwerinos, ac yn un o sylfaenwyr y Sesiwn Fawr.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi ddim yn siwr beth ydy'r atgof cyntaf, ond dwi'n cofio cuddio dan y bwrdd pan wnaeth Bob Lloyd (Llwyd o'r Bryn) alw i weld mam ymhell cyn i mi gychwyn ysgol.

Roedd fy mam yn enedigol o Gefnddwysarn ac felly yn ei 'nabod yn iawn. Roedd o'n ddipyn o gymeriad ac roedd ganddo daran o lais ac yn amlwg yn codi ofn arna i.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae'n rhaid i mi ddweud Dolgellau yn does! Ers adeiladu'r ffordd osgoi yn niwedd y 70au mae tueddiad gan bawb i fynd heibio ar yr A470. Mae 'na lecynau hanesyddol hyfryd yn y dref ac o'i chwmpas. Mae Copa Moel Ispri yn lle arbennig

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Wedi cael llawer un, roedd geni'r plant yn brofiad rhyfeddol. Rwyf wedi cael sawl noson i'w chofio wrth ddilyn Cymru fel aelod o'r wal goch. Roedd bod yn Lille yn gweld Cymru'n curo Belg yn yr Ewros yn arbennig!

Ffynhonnell y llun, Ywain Myfyr
Disgrifiad o’r llun,

Myfyr yn mwynhau ar noson fythgofiadwy yn Lille yn 2016

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Breuddwydiwr. Brwdfrydig. Byrbwyll.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Wedi gigio efo Gwerinos am flynyddoedd mae sawl digwyddiad yn codi gwên ac mae anturiaethau Jôs Giatgoch fel arfer yn gysylltiedig! Cofio fo'n dod i gig unwaith ac wedi anghofio'i ffyn i ddrymio, doedd dim amdani ond mynd allan i dorri brigau o'r gwrych, wnaeth neb sylwi am wn i!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae sawl un, gormod i'w rhestru.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wnes i grio'n hidl wrth wrando ar Dafydd Iwan yn canu 'Wyt ti'n Cofio?' dro 'nôl. Wnaeth y llinell 'Wyt ti'n cofio mynd am brotest i dref Dolgellau deg?' yn fy ngwneud yn emosiynol wrth feddwl faint o newid fu yn fy nhref enedigol ers hynny.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Sawl un... be ... oes rhaid dweud? Dwi'n un drwg am dorri ar draws, heb wrando yn aml, dwi yn trio peidio. Dwi hefyd yn hwmian canu byth a beunydd sy'n mynd ar nerfau pobl…

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi ddim yn ddarllenydd mawr er wedi cael boddhad o ambell lyfr. Dwi wedi mwynhau hunangofiant dau gerddor yn ddiwrddar Breuddwyd Roc a Rôl gan Cleif Harpwood a Crazy Dreams gan y Gwyddel Paul Brady. Dau hanes gwahanol iawn ond difyr iawn.

Ffilm wnaeth argraff arna'i yn fy arddegau oedd Kes, a dwi dal i chwerthin ar olygfa'r wers bêl droed, gwych! O ran podlediad dwi'n mwynhau Elis James Feast of Football.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Byddai noson yn ngwmni Eirwyn Pontshân, Shane MacGowan a Dylan Thomas yn siwr o fod yn hwyl!

Disgrifiad o’r llun,

Y diddanwr Eirwyn Pontshân, a fu farw yn 1994

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Dan ni reit hunangynhaliol fel teulu a dwi'n hoffi garddio ac yn cael hwyl yn tyfu ambell lysieyn. Mae gennym hefyd ieir yng ngwaelod yr ardd… er dwi ddim yn bwyta wyau!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am dro efo'm gwraig i ben Moel Offrwm efo picnic a gwylio'r haul yn machlud am y tro olaf.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae celf yn bwysig i ni fel teulu. Roedd fy nhaid yn artist a'i fab Ifor Owen hefyd. Yn fy nghenhedlaeth i mae Gareth Owen yn enwog fel artist a mae gennyf i ambell lun i lenwi lle gwag ar y wal. Mae'r genhedlaeth nesaf hefyd yn cadw'r traddodiad, Gruffydd y mab a Mari Gwent ei gyfyrder.

Y llun sy'n bwysig i mi yw un a wnaed gan fy nhaid JF Owen. Tirlun syml ond hynod o drawiadol o Gastell Caernarfon.

Ffynhonnell y llun, Ywain Myfyr
Disgrifiad o’r llun,

Llun gan daid Myfyr, JF Owen

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Gottfried Dienst, Gorffennaf 30ain 1966. Pwy? Fo oedd dyfarnwr ffeinal Cwpan y Byd rhwng Yr Almaen a Lloegr. Doedd trydedd gôl Lloegr ddim wedi croesi'r llinell ac faswn i ddim wedi'i chaniatáu.

O ganlyniad, fasan nhw ddim wedi sgorio'r bedwaredd a fyddem ni ddim wedi gorfod clywed hyd syrffed am 'gamp Lloegr yn '66'.

Disgrifiad o’r llun,

Gottfried Dienst, y gŵr a oedd yn y canol yn ystod rownd derfynol Cwpan y Byd 1966

Hefyd o ddiddordeb: