Y gwynt a'r glaw yn effeithio ar drefniadau teithio

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, PA/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybuddion mewn grym ar gyfer 19 o siroedd - pob un oni bai am Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam

Mae'r gwynt a'r glaw trwm yn cael effaith ar nifer o drefniadau teithio ddydd Sadwrn wrth i nifer o drenau beidio â rhedeg ac mae dŵr sylweddol ar lawer o ffyrdd.

Dywed Trafnidiaeth Cymru nad oes yna wasanaeth trên rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Does yna ddim gwasanaeth trên chwaith rhwng Abertawe ac Amwythig na rhwng Caerfyrddin a Hendy-gwyn ac mae'r gwasanaeth rhwng Caerfyrddin a Phenfro, a rhwng Abergwaun ac Aberdaugleddau i'r ddau gyfeiriad yn gyfyngedig.

Mewn mannau mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu ffordd arall o deithio ond mae 'na rybudd y gall teithiau gymryd mwy o amser.

Ffynhonnell y llun, Rob Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Y dŵr ar y ffordd yng Nghwm-ann yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn

Nos Sadwrn fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod y ffordd rhwng Aberaeron ac Ystrad Aeron ar gau dros nos yn sgil llifogydd.

Cyn hynny roedd adroddiadau ar gyfrif teithwyr yng Ngheredigion yn nodi bod y glaw trwm yn achosi problemau teithio yn Felinfach ac roedd nifer mewn ardaloedd cyfagos yn pwysleisio yr angen i fod yn ofalus.

Mae rhybuddion am wynt a glaw mewn grym i'r mwyafrif helaeth o Gymru.

Mae'r rhybuddion melyn yn weithredol ar gyfer 19 o siroedd - pob un oni bai am Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r rhybudd am law mewn grym rhwng 10:00 a 18:00 ddydd Sadwrn, tra bo'r rhybudd am wyntoedd cryfion rhwng 11:00 ddydd Sadwrn a 03:00 fore Sul.

Daw wedi i Storm Gerrit achosi trafferthion mewn sawl ardal nos Fercher a dydd Iau.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai hyd at 30mm o law ddisgyn ledled Cymru, ond y gallai hynny gyrraedd 50mm yn y gogledd-orllewin, ble mae disgwyl y glaw trymaf.

O ran gwyntoedd, mae rhybudd y gallai hyrddiadau gyrraedd hyd at 75mya mewn mannau arfordirol.

Pynciau cysylltiedig