Dyn yn pledio'n euog i basio dŵr ar glaf canser

  • Cyhoeddwyd
Leigh BrookfieldFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Leigh Brookfield yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli fis nesaf

Mae dyn o Sir Gâr wedi cyfaddef pasio dŵr ar glaf canser mewn clwb chwaraeon, a phostio fideo o'r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae Leigh Bookfield, DJ 40 oed o Lanelli, wedi pledio'n euog i ymosod yn dilyn y digwyddiad yng Nghlwb Tenis a Sboncen Llanelli ar ddydd San Steffan.

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd Brookfield ei fod yn "rhywbeth 'dw i a'r bois yn gwneud pan ni'n feddw".

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli fis nesaf.

Yn y fideo mae Brookfield yn ffilmio ei hun yn sefyll drws nesaf i Peter Barton yn nhoiledau'r clwb, tra bod Mr Barton yn siarad am ei broblemau iechyd difrifol.

Mae Brookfield yn dweud "sori i glywed hynny, mêt", tra'n pasio dŵr arno, ond dyw Mr Barton ddim yn sylweddoli'r hyn sy'n digwydd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leigh Bookfield wedi pledio'n euog i ymosod yn dilyn y digwyddiad yng Nghlwb Tenis a Sboncen Llanelli

Mewn datganiad ar Facebook dywedodd Brookfield ei fod yn ymddiheuro am ei ymddygiad.

"Tan i fi wylio'r fideo yn ôl, do'n i ddim yn sylweddoli fod y dyn gŵr wrth fy ymyl yn mynd trwy broblemau iechyd," meddai Brookfield, cyn dileu ei gyfrif.

Dywedodd Lucy Mansfield ar ran yr erlyniad fod Mr Barton newydd ddweud wrth Brookfield ei fod wedi cael diagnosis o ganser y prostad cyn y digwyddiad.

"Ar y pryd doedd yr achwynydd ddim yn sylweddoli fod rhywun yn pasio dŵr arno," meddai.

Cafodd Brookfield ei ryddhau ar fechnïaeth, ond cafodd rybudd y byddai'r barnwr yn ystyried "pob opsiwn" pan fydd yn cael ei ddedfrydu ar 19 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig