'Galw mawr' am wasanaeth cwmni ambiwlans preifat o Fôn
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr cwmni ambiwlans preifat ar Ynys Môn yn dweud bod gofyn mawr am y gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig.
Cafodd Môn Medics ei sefydlu nôl ym mis Ebrill er mwyn cefnogi cleifion a cheisio lleddfu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Huw Williams a Meilyr Hughes wnaeth sefydlu'r cwmni ambiwlans preifat - sy'n mynd â chleifion ar draws Cymru a thu hwnt i apwyntiadau neu'n eu cludo adref ar ôl cael llawdriniaeth ysbyty.
Yn ôl Mr Williams, un o gyfarwyddwyr y cwmni sydd wedi ei leoli ym Modffordd ger Llangefni, mae'r gwasanaeth yn "hanfodol".
Gyda phwysau digynsail ar y gwasanaeth iechyd, a disgwyl i'r pwysau hwnnw gynyddu dros fisoedd y gaeaf, mae yna bryder ymysg rhai ynglŷn â sut fydd gwasanaethau yn ymdopi.
Ond mae Mr Williams yn credu y gallai'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan gwmnïau preifat fel Môn Medics fod yn "bwysig iawn".
"Mae'r gwaith yn dod gan y gwasanaeth ambiwlans, a 'da ni'n 'neud gwaith preifat hefyd i gleifion sydd â'r modd o dalu eu hunain. Mynd â nhw i apwyntiadau neu i'r ysbyty.
"Mae'r bobl 'da ni'n eu cludo, dydyn nhw ddim yn gweld ni fel cwmni preifat, maen nhw'n gweld ein staff ni fel bod nhw'n gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans.
"Ein nod ni ydy cyd-weithio, dyna ydy bwriad sefydlu'r busnes."
Un sydd wedi ymuno â'r cwmni eleni ydy Sian Lloyd Jones, sy'n gyfrifol am ddarparu cludiant i gleifion amrywiol.
Mae Ms Lloyd Jones wedi bod yn gweithio yn y maes iechyd yn y gorffennol, ond fe ymunodd hi â Môn Medics er mwyn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
"Mae'r cleifion yn hollol wahanol, rhai yn cael eu transffyrio i ysbytai, eraill adra i'r gymuned neu i gartrefi gofal," meddai.
"Mae bob dydd yn wahanol gennym ni, ac mae'n braf.
Gwasanaethu yn y Gymraeg
"Mae'n braf cael rhoi yn ôl, a phan 'da ni'n cyflwyno'n hunain i gleifion ac yn d'eud ein bod ni'n siarad Cymraeg, 'da chi'n gweld y wên fawr yma er eu hwynebau.
"Mae hynny'n bwysig iawn - maen nhw mor ddiolchgar a 'da ni'n cael hwyl ar y ffordd adra efo nhw."
Ond er yn cynnig gwasanaeth i gleifion, dydi'r gwasanaeth ddim yn dod heb gostau.
Gyda'r esgid yn gwasgu ar y pwrs cyhoeddus, mae yna rai yn cwestiynu a ydy hi'n economaidd ymarferol i'r gwasanaeth iechyd dalu cwmnïau preifat i wneud gwaith ar eu rhan.
Dywedodd Dr Edward Jones, uwch ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Bangor, bod yna agweddau cadarnhaol a negyddol.
"Os ydy'r math yma o gytundebau yn cael eu gwneud yn gywir, yn sicr mae 'na fuddion economaidd i'r sector gyhoeddus, oherwydd y syniad yw, drwy gael cwmnïau preifat i wneud y math yma o waith, mi fyddan nhw'n gallu ei wneud am gost llawer is.
"Ond i gael y gost is yna, mae'n rhaid bod yna gystadleuaeth rhwng busnesau yn y sector breifat i dendro am y gwaith, ac yn anffodus beth yda ni'n ei weld yn aml yw nad oes y math o gystadleuaeth sydd ei angen er mwyn 'neud y gost mor isel â phosib.
"Hefyd, mae'n rhaid neud yn siŵr nad ydy'r sector gyhoeddus yn mynd yn or-ddibynnol ar y cwmnïau o'r sector breifat, gan fod hynny'n rhoi'r pŵer iddyn nhw yn y tymor hir i godi pa bynnag bris maen nhw isio er mwyn cynnal y gwasanaeth."
Gyda'r pwysau yn cynyddu dros y gaeaf, mae'r gwaith yn prysuro i gwmni Môn Medics - â'r gofyn felly am fwy o staff.
Dywedodd Huw Williams: "Mae gennym ni dri o staff ar hyn o bryd, a 'da ni'n gobeithio bydd gennym ni dri arall yn fuan.
"'Da ni'n gobeithio, yn y flwyddyn newydd, cynnig gwasanaethau gwahanol - gofal diwedd oes, sydd yn rhywbeth pwysig.
"'Da ni hefyd yn datblygu'r ochr cymorth cyntaf er mwyn cynnig cymorth cyntaf i ddigwyddiadau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023