Osian Roberts: 'Diolch i Thierry Henry am roi fy enw mlaen'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu Osian Roberts yn trafod ei her newydd gyda gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr

Mi oedd Osian Roberts wedi cymryd cam yn ôl o hyfforddi am naw mis, ond mae o wedi cael ei demtio'n ôl i'r byd pêl-droed gan hen ffrind.

Fis diwetha' cafodd Osian ei benodi'n rheolwr dros dro ar Como 1907 yn Yr Eidal tan ddiwedd y tymor, diolch yn bennaf i un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Uwch Gynghrair Lloegr.

"Mae Thierry Henry yn un o berchnogion y clwb a fo mewn gwirionedd roddodd y gair cyntaf i mewn," meddai Osian mewn cyfweliad â BBC Cymru.

"Trafod wedyn gyda pherchnogion y clwb, ond diolch i Thierry am roi fy enw ymlaen."

Mae Osian a Thierry Henry yn 'nabod ei gilydd ers rhai blynyddoedd bellach, a hynny ar ôl i gyn-ymosodwr Ffrainc wneud ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd.

Mi oedd y cyrsiau yn cael eu rhedeg gan Osian, oedd yn gyfarwyddwr technegol CBDC ar y pryd.

"Dyna sut ddois i i nabod Thierry, sawl blwyddyn yn ôl bellach. Mae'r cyfeillgarwch yna a chyd-weithio ar ambell i beth wedi parhau ers hynny," meddai.

"Digwydd bod mi oedd 'na angen yn y clwb yma felly gafon ni sgwrs reit dda am y sialens sydd 'na, ac fe wnaeth bob dim ddisgyn i'w le."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thierry Henry bellach yn rheoli tîm dan-21 oed Ffrainc

Roedd swydd ddiwethaf Osian yn Crystal Palace fel is-reolwr i Patrick Vieira, ond fe ddaeth eu cyfnod gyda'r clwb i ben ym mis Mawrth 2023.

Mi oedd o hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Cymru rhwng 2010 a 2019, ac yn ddirprwy i Chris Coleman pan lwyddon nhw i gyrraedd Euro 2016, a chyrraedd rownd gynderfynol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Rhwng ei gyfnod gyda Chymru a Crystal Palace mi dreuliodd ddwy flynedd fel cyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Morocco rhwng 2019 a 2021.

"Dwi wedi dweud o'r dechrau fod yn rhaid i'r rôl nesaf fy nghyffroi i," meddai Osian.

Ffynhonnell y llun, Como 1907
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gêm gyntaf Osian Roberts fel rheolwr Como 1907 yn erbyn Spezia ar 13 Ionawr

"Mae 'na sawl elfen sy'n fy siwtio fi. Yn gyntaf dwi am fod yn rheolwr, ac mi oedd o yng nghefn fy meddwl i fod hynny'n rhywbeth o'n i eisiau ei wneud unwaith eto.

"Mae 'na rôl ehangach hefyd i adeiladu'r clwb, a dwi wastad yn licio'r sialens yna i adeiladu clwb ar gyfer y dyfodol a gadael sylfaen i rai eraill adeiladu arno.

"Ac wrth gwrs gweithio'n Yr Eidal am y tro cyntaf yn fy ngyrfa. Dwi wastad yn licio herio fy hun mewn gwahanol wledydd a gwahanol gyfandiroedd.

"Mae byw yn rhywle mor bleserus â Como hefyd yn apelio i Lynne fy ngwraig a'r teulu i gyd."

'Gweledigaeth i fynd i Serie A'

Mi fydd Osian hefyd yn gweithio fel pennaeth datblygiad i Como 1907.

Mae'r clwb yn dweud y bydd yn canolbwyntio'n llawn ar y swydd honno ar ôl i'r tymor ddod i ben, pan fydden nhw'n penodi rheolwr parhaol.

Mae Como 1907 yn y trydydd safle yn Serie B, yr ail haen, gyda dau glwb yn ennill dyrchafiad yn awtomatig ar ddiwedd y tymor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd Osian Roberts ei swydd gyda Crystal Palace ym mis Mawrth y llynedd

Felly be' fydd yn digwydd os fydd Osian yn eu harwain nhw i Serie A? Fydd o'n cael ei demtio i barhau fel rheolwr?

"Mae'n eithaf clir mai fy rôl i tan ddiwedd y tymor ydi rheoli'r tîm. A wedyn gawn ni weld. Dwi ddim yn meddwl dim pellach 'na hynny.

"Dwi'n teimlo fod y rhan fwyaf ohonom ni fel rheolwyr yn rheolwyr dros dro.

"Ella fod gen ti gytundeb tair blynedd, ond dros dro ti yna go iawn. Amser a ddengys. Mae chwe mis yn y byd pêl-droed yn amser hir iawn felly gawn ni weld sut mae pethau'n mynd.

"Da ni'n gwybod fod y clwb gyda gweledigaeth i fynd fyny i Serie A, ac wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth dwi'n hapus iawn eu bod nhw anelu ato fo oherwydd dwi efo'r un targed a breuddwyd.

"Boed hynny'n digwydd tymor yma neu tymor nesaf, gawn ni weld. Ond yn sicr dyna'r weledigaeth i'r clwb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd cyn-chwaraewr canol cae Sbaen, Cesc Fabregas, yn rhan o dîm rheoli Osian

Mi fydd Osian yn cael ei gynorthwyo gan gyn-chwaraewr canol cae Arsenal, Chelsea a Barcelona, Cesc Fabregas, sydd wedi bod yng ngofal y tîm ers mis Tachwedd.

Fe chwaraeodd y Sbaenwr 17 gêm i Como 1907 y tymor diwethaf cyn ymddeol a dechrau hyfforddi'r timau ieuenctid a'r ail dîm.

Fel Thierry Henry, mae Fabregas hefyd yn un o berchnogion y clwb.

'Wedi dechrau dysgu'r iaith'

"Yn barod mae gen i berthynas dda iawn efo Cesc. Mi oedd o'n chwaraewr arbennig ei hun," meddai Osian.

"Mae o wrthi'n gwneud ei gymwysterau hyfforddi ac yn gallu hyfforddi'n dda iawn ar y gwair.

"Ac wrth gwrs mae o'n un o'r perchnogion, felly mae hi'n bwysig iawn fod pobl fel Cesc ynghlwm â'r clwb ac ein bod yn eu defnyddio nhw.

"Mae o'n union yr un fath efo Thierry. Dwi'n gwybod ei fod o'n edrych ymlaen i fod yn rhan o be 'da ni'n anelu tuag ato fo ac mae ei brofiad a'i gyngor o yn mynd i fod yr un mor bwysig hefyd. Felly edrych ymlaen yn arw.

"Dwi wedi dechrau ar y gwaith o ddysgu'r iaith ac mae hynny'n bwysig i mi fel Cymro Cymraeg.

"'Dan ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi hi i barchu ieithoedd pobl eraill felly yn sicr mi fyddai'n dysgu'r iaith yn drwyadl i'r gorau a medra i."

Pynciau cysylltiedig