Osian Roberts yn gadael ei rôl gyda Crystal Palace
- Cyhoeddwyd
Mae Osian Roberts wedi gadael ei rôl fel is-reolwr Crystal Palace, wedi i'r rheolwr Patrick Vieira gael ei ddiswyddo.
Cafodd Vieira y sac yn dilyn rhediad o 12 gêm heb ennill, gyda'r clwb bellach dim ond tri phwynt uwchben safleoedd y cwymp yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Pan gafodd Vieira ei benodi yn 2021, fe ddaeth â chyn is-reolwr Cymru gydag ef i'w gynorthwyo ar y staff hyfforddi.
Cyn hynny roedd Osian Roberts wedi treulio cyfnod fel Cyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Bêl-droed Moroco, cyn iddyn nhw fynd ymlaen i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd Qatar 2022.
Bu'n gwneud rôl debyg gyda Chymru am flynyddoedd, gan gynnwys gofalu am y timau ieuenctid, a threulio 12 mlynedd fel hyfforddwr ac is-reolwr i'r tîm cenedlaethol dan Ryan Giggs, Chris Coleman a Gary Speed.
Cafodd Roberts gyfweliad ar gyfer swydd rheolwr Cymru wedi ymadawiad Coleman, cyn i Giggs gael ei benodi a'i gadw fel aelod o'r tîm hyfforddi.
Ond fe wnaeth y gŵr o Fôn adael ei swydd gyda Chymru yn 2019 i ymuno â Moroco, gan gyfaddef wedi hynny bod dal ganddo "freuddwyd" o reoli'r tîm cenedlaethol ryw ddydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019