Apêl heddlu am ddynes ar goll ym Mangor Is-coed
- Cyhoeddwyd

Cafodd Lucy Charles, 39, ei gweld ddiwethaf nos Wener cyn y Nadolig
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio o'r newydd am wybodaeth am ddynes 39 oed o Fangor Is-coed ger Wrecsam sydd wedi bod ar goll ers 22 Rhagfyr.
Cafodd Lucy Charles ei gweld ddiwethaf gan gamera cylch cyfyng yn cerdded ar hyd Ffordd yr Orsaf yn y pentref am 17:34.

Mae plismyn bellach wedi datgelu bod eiddo personol Lucy wedi cael eu canfod ar lan Afon Dyfrdwy - yn agos i'r gwaith trin dŵr.
Ers iddi fynd ar goll mae hofrennydd yr heddlu a'r tîm chwilio o dan ddŵr wedi archwilio'r ardal yn drylwyr, a hynny yn ystod tywydd garw.
Mae Lucy Charles yn 5 troedfedd 6 modfedd o ran taldra, mae ganddi wallt brown hyd at ei hysgwyddau, mae'n gwisgo sbectol ac roedd hi'n gwisgo siaced lachar.