Ffoi o Brâg i fferm yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Doreen Warriner yn One LifeFfynhonnell y llun, Warner Bros
Disgrifiad o’r llun,

Mae Doreen Warriner yn cael ei phortreadu gan yr actores Romola Garai yn y ffilm One Life

Mae Tom Pollak, ffermwr o orllewin Cymru yn cofio aberth Doreen Warriner, y ddynes a greodd ddogfennau ffug i'w deulu ffoi o Brâg i Lundain tra roedd tiroedd Tsiecoslofacia dan reolaeth yr Almaen.

Mae Doreen Warriner yn un o arwyr y ffilm One Life sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd. Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes Syr Nicholas Winton; gŵr o Loegr a achubodd 669 o blant Iddewig rhag y Natsïaid yn 1938-39.

Fe weithiodd yn ddiflino er mwyn codi arian a ffeindio cartrefi i ffoaduriaid oedd yn teithio ar drenau'r Czech Kindertransport; trenau a drefnwyd gan Doreen Warriner a Trevor Chadwick i gludo plant o Brâg i Loegr.

Ond fe lwyddodd Doreen Warriner, pennaeth Pwyllgor Prydain i Ffoaduriaid o Tsiecoslofacia ym Mhrâg, i drefnu trenau i filoedd ar filoedd yn rhagor o ffoaduriaid Almaenig, Tsiec ac Iddewig o Tsiecoslofacia; yn ferched, dynion a phlant o bob oed.

Ar un o'r trenau hynny y daeth rhieni Tom Pollak i Brydain gyda'i frawd a'i chwaer fawr, cyn ymgartrefu ar fferm Brynmawr ar gyrion pentref Ffarmers, Sir Gaerfyrddin.

Mae Tom yn dal i ffermio ym Mrynmawr heddiw, ond mae'n dal i gofio sut y dihangodd ei deulu yma pan feddiannodd y Natsïaid eu tiroedd ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.

Gwreiddiau yng Ngweriniaeth Tsiec

Disgrifiad o’r llun,

Tom a'i wraig Christine tu allan i gartre'r teulu ar y Nové Město ym Mhrâg sy' nawr yn siop 'boutique' a 'pizzeria'

Ym mhrif-ddinas Gweriniaeth Tsiec, Prâg mae gwreiddiau Tom Pollak. Yno roedd ei dad-cu Alois Pollak yn feddyg uchel ei barch.

"Roedd Dad-cu yn cael ei alw yn doctor free of charge achos ro'dd e byth yn hela biliau mas," meddai Tom.

Yn ogystal â thrin cleifion tlawd yn ddi-dâl, roedd Alois Pollak hefyd yn ffrind i arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia Tomas Mazaryk, ac yn byw mewn cartre' oedd mewn gwirionedd yn fwy o balas yn Prâg... ond roedd newid ar droed.

Galwadau gan Doreen Warriner

Roedd y Natsïaid ar fin chwalu'r heddwch, gan feddiannu Prâg ym Mawrth 1939. Ac fel Tsieciaid balch roedd mab Alois, Fred - tad Tom - am wneud popeth yn ei allu i atal yr Almaenwyr yn y dirgel, tra ei fod hefyd yn rhedeg ffarm fawr oedd yn cyflogi 40 o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Rhieni Tom; Hede a Fred Pollak

"Ro'dd e yn gwitho hefyd fel skiing instructor ac ro'dd e'n mynd â bobl ar yr hyn oedd yn edrych fel rhyw fath o holidays, mynd â nhw lan i'r border a bant â nhw wedyn yn y gobaith o groesi i ddiogelwch," meddai Tom.

Ffynhonnell y llun, wikimedia, getty
Disgrifiad o’r llun,

Doreen Warriner (chwith), Trevor Chadwick (dde)

"Roedd e arfer derbyn galwade' ffôn am dri o'r gloch bob bore gan Doreen Warriner. Ro'dd hi a bachan o'r enw Trevor Chadwick yn trefnu trenau i gael bobl mas o'r wlad cyn y bydde'r Germans yn eu dala nhw. Ro'dd hi'n ffonio 'nhad amser yna o'r bore achos ro'dd hi'n gwbod bydde'r Germans ddim yn gwrando mewn ar y ffôn."

Ffynhonnell y llun, Warner Bros
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Alex Sharp (canol) yn chwarae rhan Trevor Chadwick yn y ffilm One Life

Dal y trên ola' o Brâg

Er y risg anferthol, rhyngddyn nhw fe lwyddodd yr unigolion yma, ynghyd â phobl fel Nicholas Winton, trefnydd y Kindertransport, i achub miloedd o dan drwynau'r Almaenwyr.

Ffynhonnell y llun, Warner Bros
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cymro Anthony Hopkins a Johnny Flynn yn chwarae rhan yr arwr Nicholas Winton yn One Life

Llwyddodd y teulu; Fred, ei wraig Hede a'r plant Maggie a Charlie, i ddianc rhag yr awdurdodau. Teithio ar draws gwlad wedyn, cyn dal llong o borthladd yng ngogledd Gwlad Pwyl i ddociau Tilbury ger Llundain. Ond ar ôl dianc rhag ffasgwyr y cyfandir, roedd y British Union of Fascists i'w croesawu nhw yn Lloegr, yn ôl Tom.

"Meddyliwch, ar ôl trafaelu ar draws Ewrop, dala'r trên dwetha mas o Prâg a dal cwch wedyn i Lunden, pwy o'dd yna i roi croeso iddyn nhw o'dd blackshirts Oswald Mosley."

Disgrifiad o’r llun,

Bywyd ym Mhrydain. O'r chwith; Tom, Hede, Fred, Maggie a Charlie Pollak

Prynu fferm Brynmawr

Erbyn i'r rhyfel gychwyn ym Medi 1939 roedd y teulu yn byw yng Nghaint cyn symud wedyn i Hampshire.

Ymhen amser fe ymunodd Fred Pollak â'r frigâd Tsiec oedd yn gweithio o fewn byddin Prydain gyda'r diben o darfu ar waith yr Almaenwyr ar y cyfandir. Cafodd swydd hefyd yn hyfforddi ffoaduriaid eraill ar dechnegau amaethu cyn cael swydd yn godro ar fferm yn New Forest.

Erbyn dechrau haf 1945 daeth y brwydro yn Ewrop i ben. Cafodd Fred Pollak gynnig swydd Gweinidog Amaeth Tsiecoslofacia ar ddiwedd y rhyfel - cynnig a oedd yn brawf o'i allu amaethyddol, ond cynnig a wrthododd. Cafodd y teulu hefyd gyfle i ymfudo i Ganada, Uruguay a hyd yn oed Rhodesia.

Disgrifiad o’r llun,

Charlie a Fred ar fferm Brynmawr

Ond roedd y teulu wedi magu gwreiddiau ym Mhrydain ac roedd galwad y pridd yn rhy gryf i Fred Pollak. Yn enwedig pan glywodd am bris tir ym mherfeddion cefn gwlad Cymru.

"Dath e i Gymru a helodd e bythefnos i rowndio tamed bach a dewis ffarm. Pan welodd e'r ffarm hyn odd e'n gwybod straight away taw fan hyn oedd e am ddod," meddai Tom.

Prynodd fferm Brynmawr dros 70 mlynedd yn ôl, ac yma bu Fred Pollack a'i wraig yn magu gwartheg, defaid, moch, ieir a hyd yn oed cwningod. Roedd hyd yn oed yn dal i farchogaeth ei feic modur ymhell yn ei nawdegau. Bu farw yn 2000 yn 97 mlwydd oed.

Ffawd y teulu?

Ond beth ddigwyddodd i Ida, mam-gu Tom, a wrthododd adael Prâg adeg y rhyfel? Ar ôl blynyddoedd lawer, cafodd y teulu wybod ei ffawd, meddai Tom.

"Fe helodd y Germans hi i Auschwitz, ond fe aeth hi'n sâl ar y ffordd ac fe daflon nhw hi allan o'r cattle truck a fuodd hi farw yn yr eira. Ro'dd hi flynyddoedd wedyn pan dda'th nhad i wybod beth ddigwyddodd iddi hi."

Bydd Tom yn fythol ddiolchgar am yr aberth a'r risg enfawr a gymrodd Doreen Warriner wrth greu dogfennau ffug i helpu'r teulu Pollak i ddianc o Prâg i Wlad Pwyl ar y trên ola' allan wrth i gymylau'r rhyfel gronni.

"Ga'th hi bapurau iddo fe i ddianc o'r wlad drwy dwyllo taw nhad oedd ei mab hi ei hunan. Tase hynna heb ddigwydd a bod nhw heb ddala'r trên dwetha' mas, basen nhw wedi mynd i concentration camp hefyd siŵr o fod."

(Lluniau'r teulu drwy garedigrwydd Tom Pollak. Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn wreiddiol yn 2019.)

Hefyd o ddiddordeb: