Trafod cais tai dadleuol fyddai'n 'dinistrio' coetir yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr Caerdydd yn penderfynu'n ddiweddarach ar gais cynllunio dadleuol i adeiladu tai cymdeithasol ar ran o dir rhwng Afon Taf a Danescourt.
Mae'r cynllun ar gyfer 36 o dai wedi arwain at brotestiadau a deiseb yn gwrthwynebu.
Er i swyddogion cynllunio argymell cymeradwyo'r cynlluniau, cafodd y penderfyniad ei ohirio fis Rhagfyr ar ôl i'r cynghorwyr godi pryderon ynglŷn â cholli ardal werdd a pha mor ymarferol oedd y safle.
Bydd cyfarfod bore dydd Iau yn cynnwys opsiwn i wrthod y cais.
'Lot o hanes yma'
Mae Cymdeithas Dai Taf, a gyflwynodd y cais, wedi dadlau y byddai'r datblygiad yn fodd o gyflwyno tai fforddiadwy allweddol ar gyfer yr ardal.
Ond lleisiodd nifer o bobl eu gwrthwynebiad mewn ymgynghoriad lleol, ac fe gafodd y ddeiseb dros 2,300 o enwau.
Mae cynghorwyr lleol a rhai mewn wardiau cyfagos hefyd yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Mae Helen Lloyd Jones yn cynrychioli Radur a Threforgan ac yn gwrthwynebu gan nad yw'n teimlo mai dyma'r lle cywir ar gyfer tai cymdeithasol.
Dywedodd: "Mae eisiau sicrhau bo' amenities gyda nhw a dim yn rhoi nhw mas o olwg… Mae'n lle ynysig ac mae'n anodd iawn mynd lan y tyle. Os bydd gyda chi blentyn neu pushchair neu berson mewn cadair olwyn bydd hi'n anodd iawn.
"Mae'n goridor gwyrdd ac mae'n bwysig cael lle ble mae pobl yn gallu dod a mwynhau bod yn yr awyr iach."
Datblygiad 'diangen' yn ôl pobl lleol
Mae cefn tŷ Geoff Lloyd yn cefnu ar y llwybr.
"Mae ceisio gwasgu ystâd dai i ardal lle does 'na ddim mynediad boddhaol yn ymddangos yn ddiangen," meddai, "ac yn dinistrio'r ardal wyrdd mae'r cyngor wedi dweud eu bod am ei gadw."
Mae Yvonne Price, sy'n byw yn lleol, yn cytuno.
Dywedodd: "Yn ystod Covid roedd yn fendith i'r plant lleol. Fe wnaethon nhw lwybr tylwyth teg i lawr yno - fe wnaethon nhw baentio cerrig mân ac addurno'r coed felly mae'n bwysig iawn fel man agored naturiol i ni gyd."
Roedd adroddiad swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo'r cynllun, gydag un swyddog yn nodi na fyddai pryderon am golli coetir yn ddigon o reswm i wrthod y cais.
Dywedodd Helen White, Prif Weithredwr Asiantaeth Dai Taf eu bod wedi gwrando ac yn ceisio cydweithio â'r gymuned gan gynnig coetir newydd yn lle'r safle.
"Mi oedd nifer y tai wedi gostwng o'r cynllun gwreiddiol," meddai.
8,000 teulu yn aros
Mae Helen White yn dadlau fod 'na alw sylweddol am dai fforddiadwy yng Nghaerdydd.
Dywedodd: "'Dan ni'n dallt bod dros 8,000 o deuluoedd ar y rhestr aros yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae dros 1,700 o bobl mewn llety dros dro a mwy hefyd mewn gwestai. Dydy hynny ddim yn gynaliadwy."
"Mae angen sicrhau fod y tai cywir yn cael eu hadeiladu, tai fforddiadwy."
Ond ar ôl gweld datblygiad Plasdwr yn cael ei adeiladu yn ei ward, dydy'r Cynghorydd Helen Lloyd Jones ddim yn cytuno.
Dywedodd: "Ar hyn o bryd maen nhw wedi cael cynllun am bron 1,000 o dai cymdeithasol gyda Plasdwr a hen safle'r BBC felly mae 'na lot o dai yn mynd i gael eu hadeiladu ar gyfer tai fforddiadwy yn yr ardaloedd hynny."
Roedd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Coedwig Danescourt, yn 2020, yn cynnig adeiladu 45 o dai.
Mae dau gais blaenorol ar gyfer tai ar yr un safle - un ar gyfer pum tŷ yn 2002 ac un ar gyfer 48 o dai yn 2012 - hefyd wedi cael eu gwrthod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019