Rhieni'n mynd i ddyled oherwydd cost gofal plant

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn chwarae

Mae rhieni'n mynd i ddyled - yn enwedig mamau sengl - oherwydd cost uchel gofal plant, mae Aelodau'r Senedd wedi clywed.

Mae'r cyllid ar gyfer cynllun gofal plant wedi cael ei dorri gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i wario rhagor o arian ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen.

Dywed y llywodraeth fod y galw am ofal wedi bod yn is na'r disgwyl.

Ond dywedodd elusen cydraddoldeb rhyw bod yr ymateb yn "anghywir" ac y dylai'r llywodraeth sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth.

Toriad £16.1m i'r Cynnig Gofal Plant

Ym mis Hydref, datgelodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, doriadau hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol fel y gallai mwy o gyllid gael ei drosglwyddo i'r GIG a'r cwmni rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru.

Roedd yn cynnwys toriad o £16.1m i'r Cynnig Gofal Plant sy'n darparu 30 awr o ofal yr wythnos i blant tair a phedair oed.

Dywedodd y llywodraeth fod yr arian ar gael ar ôl ail-edrych ar y galw gan rieni.

Bydd £11.2m arall yn cael ei dynnu allan o'r cynllun flwyddyn nesaf, unwaith eto yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf, gyda'r llywodraeth yn dweud na fydd yn cael "unrhyw effaith uniongyrchol".

Ond dywedodd Jessica Laimann, o'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, fod y gostyngiad yn y galw "o ganlyniad i gam-gymharu rhwng yr hyn sydd angen ar deuluoedd a'r hyn sydd ar gael mewn gwirionedd".

"Yn sicr, torri'r gyllideb yw'r ymateb anghywir i hynny," meddai wrth Bwyllgor Cyllid y Senedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jessica Laimann, o'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, fod torri'r gyllideb yn "anghywir"

Dangosodd ymchwil gan Oxfam Cymru y llynedd fod "galw hanfodol am ofal plant fforddiadwy yng Nghymru", meddai.

Ychwanegodd: "Mae costau gofal plant uchel yn gwaethygu'r pwysau ariannol ar deuluoedd, gan yrru rhieni - yn enwedig mamau sengl - i ddyled a thlodi."

Dywedodd hefyd fod menywod yn fwy tebygol o weithio mewn gwasanaethau gofal a dibynnu ar y gwasanaethau.

"Felly os ydyn ni'n dal i weld toriadau i'r gwasanaethau hyn, menywod sydd am gael eu heffeithio waethaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynnig Gofal Plant yn raglen sy'n cael ei harwain gan y galw ac mae cymorth ar gael i bob rhiant cymwys sy'n gwneud cais."

"Rydym wedi blaenoriaethu cyfathrebiadau ledled Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth ac annog rhieni cymwys i fanteisio arnynt, a byddwn yn parhau â hyn yn 2024/25."​

Pynciau cysylltiedig