Cofio rôl y wasg Gymraeg ar ddechrau sgandal Swyddfa’r Post

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o'r T9 cyntaf
Disgrifiad o’r llun,

(clocwedd, o'r top chwith), Lee Castleton, Noel Thomas, Alan Bates a Jo Hamilton ar raglen Taro 9 yn 2009. Mae'r pedwar yn brif gymeriadau yn nrama ITV am sgandal Swyddfa'r Post

Mae drama ar ddechrau 2024 wedi arwain at bwysau enfawr ar wleidyddion i sicrhau cyfiawnder i'r rhai gafodd eu heffeithio gan sgandal Swyddfa'r Post - ond mae'r pryderon yn gyhoeddus ers 2009.

Wrth i'r rhaglen gyntaf wnaeth ymchwilio i mewn i'r honiadau gael ei darlledu eto ar S4C, yma mae un o'r newyddiadurwyr fu'n gweithio arni, Bryn Jones, yn cofio nôl i gyfnod pan nad oedd llawer o ddiddordeb yn y stori.

Pan dorrodd stori Swyddfa'r Post gynta' nôl yn 2009, doedd 'na'm llawer o ddrama.

Cylchgrawn cyfrifiadurol wthiodd y cwch i'r dŵr. Roedd y Computer Weekly wedi holi saith is-bostfeistr efo stori debyg iawn: eu bod nhw wedi eu cyhuddo ar gam wedi i arian fynd ar goll o'u cyfrifon, ond mai'r system gyfrifiadurol oedd ar fai go iawn.

Mae miliynau wedi bod yn gwylio'r foment yma yn cael ei ail-chreu yn y gyfres ddrama diweddar Mr Bates vs The Post Office ar ITV, ond fis Mai 2009 wnaeth y stori ddim creu stŵr mawr. Ond gyda Chymro Cymraeg oedd yn adnabyddus yn ei ardal ymysg y saith enghraifft, roedd gan y wasg Gymraeg ddiddordeb.

Heddiw, mae Noel Thomas yn adnabyddus iawn am ei frwydr am gyfiawnder. Yn 2009 roedd o'n gyn-gynghorydd Môn oedd wedi dwyn gwarth ar ei hun ar ôl ei garcharu am gadw cyfrifon ffug yn ei swyddfa bost yng Ngaerwen. Mae'r farn amdano wedi newid erbyn heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas yn cael ei arwain i'r carchar yn 2006, ar ôl dedfryd o naw mis. Bu o dan glo am dri mis. Cafodd ei euogfarn ei ddileu gan y Llys Apêl yn 2021

Sion Tecwyn, gohebydd newyddion Cymraeg yn BBC Bangor, oedd y cyntaf i ymateb i ymchwiliad Computer Weekly gan wneud adroddiad am yr erthygl a'r cyfweliad gynta' o nifer gyda Noel.

Tynnwyd sylw tîm materion cyfoes BBC Bangor at ei adroddiad ac ar ôl sêl bendith y golygydd fe aeth fy nghyd-weithiwr Anna-Marie Robinson a finnau ati i ffonio, e-bostio, llythyru a gŵglo i drio dod o hyd i fwy o eisiamplau bosib.

Diodde'n dawel

O fewn wythnosau o ddechrau ymchwilio roedd hi'n amlwg bod 'na rywbeth i'r stori wrth i un ar ôl y llall sôn am brofiadau tebyg iawn. Bywydau wedi eu chwalu a phawb wedi meddwl mai nhw oedd yr unig rai oedd wedi cael y fath drafferth. Roedd rhai wedi diodde'n dawel ac yn gwybod dim am achosion eraill tan y sgwrs ffôn honno.

Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas yn cyfarfod Jo Hamilton am y tro cyntaf ar ôl teithio i'w gweld hi ar gyfer rhaglen Taro 9 yn 2009, y gyntaf o ddwy raglen i'r gyfres wneud ar y pwnc. Mae'r cyfarfod yn cael ei ail-greu yn nrama Mr Bates vs The Post Office

Roedd eraill yn dal i weithio i Swyddfa'r Post, yn dal i gael trafferthion ac wedi talu miloedd o'u harian eu hunain i wneud yn iawn am y 'golled' oedd y system gyfrifiadurol Horizon yn ei dangos. Ond roedden nhw'n ofn siarad allan rhag cael eu cosbi gan Swyddfa'r Post ac yn pryderu am siarad yn gudd efo newyddiadurwyr.

Roedd eraill yn barod iawn i ddweud eu stori, fel Lee Castleton, Alan Bates a Jo Hamilton, sy'n brif gymeriadau yn nrama ITV erbyn hyn.

Darlledwyd y Taro 9, gyda Dylan Jones yn cyflwyno, ar S4C fis Medi 2009, y rhaglen gyntaf i ymchwilio i'r stori, gan ddatgelu bod 36 o achosion tebyg ar draws Prydain.

Ymateb

Fel rheol ar ôl darllediad unrhyw raglen, does na'm llawer o ymateb. Neges sydyn o longyfarch gan Mam os yn lwcus, ac ymlaen i'r rhaglen nesaf. Ar ôl y Taro 9 yma fe gysylltodd chwe is-bostfeistr oedd wedi cael profiadau tebyg.

Er i ambell raglen Saesneg adnabyddus ddangos diddordeb, ddaethon nhw i ddim byd ar y pryd a doedd yna ddim llawer o sylw ehangach. Un rheswm oedd bod nifer o'r bobl gafodd eu herlyn wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad o gadw cyfrifon ffug.

Heddiw, mae pawb yn deall eu bod wedi gwneud hynny ar sail cyngor cyfreithiol i geisio cadw allan o'r carchar. Bryd hynny roedd yn codi aeliau.

Roedd hefyd yn stori gymhleth, efo risg cyfreithiol a'r Swyddfa'r Post yn pwyntio at y miliynau o weithiau roedd y system Horizon yn cael ei ddefnyddio i brynu a gwerthu bob dydd heb unrhyw broblem. Mae'n bosib hefyd nad oedd stori am bostfeistri a chyfrifiaduron yn apelio pan fo gymaint o straeon eraill o gwmpas.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Toby Jones sy'n portreadu Alan Bates yn nghyfres drama ITV

Un oedd ddim am gadw'n dawel wrth gwrs oedd Alan Bates, y gŵr o Landudno sy'n ganolbwynt i ddrama ITV. Roedd o'n benderfynol o ddod â'r is-bostfeistri at ei gilydd ac ar ôl y rhaglen fe geisiodd gael neges allan i drefnu cyfarfod.

Daeth digon at ei gilydd mewn neuadd bentref yng nghanolbarth Lloegr ym mis Tachwedd 2009 iddyn nhw sefydlu'r grŵp Justice for Subpostmasters Alliance.

Nick Wallis a Private Eye

Efo ymgyrch ar y gweill a'r is-bostfeistri yn dechrau dod i wybod am ei gilydd, newidiodd pethau yn raddol. Roedd mwy o straeon personol am unigolion yn y wasg leol, fe wnaeth y newyddiadurwr Nick Wallis raglen i BBC Surrey yn 2011 gan ddechrau dros 10 mlynedd ohono'n gwthio'r stori yn ei blaen, yn cynnwys sefydlu blog, sgwennu llyfr a chyfres podlediad.

Dechreuodd gylchgrawn Private Eye ymchwilio'r mater yn 2011, arweiniodd at fwy o sylw ar draws y DU gan bapurau fel y Daily Mail a'r Times, a rhaglen Panorama y BBC yn 2015. Erbyn hyn roedd cannoedd o is-bostfeistri yn dweud eu bod wedi cael eu heffeithio.

Ers hynny bu'r stori yn codi'n gyson, ond weithiau roedd arafwch y datblygiadau yn arwain at golli momentwm i'r ymgyrchwyr.

Newidiodd hynny yn 2019 pan oedd y stori ymhobman. Cafwyd sylw mawr i fuddugoliaeth yr is-bostfeistri yn erbyn Swyddfa'r Post yn yr Uchel Lys wnaeth arwain at hyd yn oed mwy o gyhoeddusrwydd pan wnaeth y Llys Apêl ddileu euogfarnau nifer ohonyn nhw yn 2021 - gan gynnwys Noel Thomas.

Ond er bod yr achosion llys yma yn brif stori papurau newydd a rhaglenni newyddion ar draws Prydain mae wedi cymryd drama i ddod â'r stori yn fyw i nifer o bobl, a rhoi pwysau na all y rhai mewn grym ei anwybyddu.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas a'i ferch Sian tu allan i'r llys yn Llundain ar ôl i'w euogfarn gael ei dileu yn 2021, 15 mlynedd ers ei erlid a'i garcharu ar gam

Fel gyda chyfresi am Hillsborough a Jimmy Saville, mae drama weithiau yn gallu dweud stori gymhleth yn fwy syml a'r gwyliwr yn 'byw y foment' yn lle clywed gan rywun yn cofio'n ôl. Mae'n haws hefyd dweud y stori gyfan pan mae'r ddadl wedi ei hennill a heb fod ofn derbyn llythyr gan gyfreithwyr yr 'ochr arall'.

Ond, er ei llwyddiant ysgubol, does 'na ddim ffeithiau newydd yn nrama ITV. Mae'r ddadl wedi ei hennill ers achosion llys 2019 a 2021, mae'r pryderon a'r honiadau yn gyhoeddus ers 2009 ac mae nifer o unigolion wedi ymgyrchu'n barhaus am ddau ddegawd.

Dyna sy'n gwneud yr ailddarllediad o Taro 9 yn fwy pwerus rŵan na'r darllediad cyntaf. Mae'n dangos cymaint gafodd ei ddatgelu 15 mlynedd yn ôl. A dylid nodi bod Swyddfa'r Post wedi cysylltu ddiwrnod wedi'r rhaglen wreiddiol fynd allan i ofyn am gyfieithiad Saesneg ohoni.

Mae'r pwysau gwleidyddol yn sgil Mr Bates vs Post Office yn siŵr o arwain at gyfiawnder, ond tybed faint o ddrama a thrasedi byddai pobl wedi gallu osgoi yn eu bywydau petai'r rhai mewn grym wedi gwrando'n gynt ar bobl fel Mr Bates yn y byd go iawn?

Hefyd o ddiddordeb: