Cyn-isbostfeistr yn galw am gosbi penaethiaid Swyddfa'r Post

  • Cyhoeddwyd
Lorraine Williams tu allan i'r swyddfa bost yn Llanddaniel Fab
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mehefin 2011 cafodd Lorraine Williams ei chyhuddo o ddwyn £14,600 o Swyddfa'r Post Llanddaniel-fab

Mae cyn-isbostfeistr o Gymru a gafodd ei chyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug wedi galw am gosbi cyn-benaethiaid Swyddfa'r Post.

Dywedodd Lorraine Williams, cyn-isbostfeistr Llanddaniel-fab ar Ynys Môn, y dylai'r rheiny oedd yn rhedeg Swyddfa'r Post pan gafodd cannoedd o isbostfeistri eu herlyn ar gam oherwydd nam cyfrifiadurol gyda rhaglen Horizon orfod "wynebu achosion llys" a "chael eu hitio yn eu pocedi".

Daw ei sylwadau wedi i gyn-brif weithredwr Swyddfa'r Post, Paula Vennells, gyhoeddi ei bod am ddychwelyd anrhydedd CBE y derbyniodd hi yn 2019 am wasanaeth i Swyddfa'r Post.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Vennells ei bod hi'n parhau i gefnogi a chyd-weithio gyda'r ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn aeth o'i le.

Dywedodd iddi gadw'n dawel hyd yma gan ei bod hi'n teimlo y byddai'n anaddas iddi wneud sylw wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

Gan ymddiheuro am y "dinistr" a achoswyd i fywydau is-bostfeistri a'u teuluoedd gan system Horizon, dywedodd na fyddai hi'n gwneud sylw pellach.

Ffynhonnell y llun, Yui Mok
Disgrifiad o’r llun,

Lorraine Williams gydag is-bostfeistri eraill o flaen y Llys Apêl yn 2021 ar ôl i'w heuogfarnau gael eu dileu

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd Lorraine Williams y dylai camau pellach nawr gael eu cymryd yn erbyn Paula Vennells.

"Pam ddylai hi gael siawns i ddychwelyd o? Dylai rhywun arall fod wedi cymryd o oddi wrthi hi," meddai.

"Mae fel bod hi'n dweud 'na fo, gwrandewch, gewch chi fo nôl rŵan, bob dim yn iawn'.

"Mi ddylia hi orfod mynd i lys fel 'dan ni wedi gorfod gwneud - iddi hi deimlo sut oeddan ni'n ei deimlo.

"Ydi hi'n cael hunllefau dros hyn? Ydi o'n mynd i effeithio ar ei theulu hi? Ydi o'n mynd i effeithio arni'n ariannol? Nadi mae'n siŵr.

"Dyna ddylai ddigwydd iddi - pethau sydd wedi digwydd i bobl gyffredin fel ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lorraine Williams yn credu y dylai camau pellach nawr gael eu cymryd yn erbyn Paula Vennells

Ym mis Mehefin 2011 cafodd Lorraine Williams ei chyhuddo o ddwyn £14,600 o Swyddfa'r Post Llanddaniel-fab.

Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol fe blediodd yn euog yn Llys y Goron Caernarfon yn 2012 i gyhuddiad o gadw cyfrifon ffug.

Llwyddodd i osgoi carchar, ond derbyniodd ddedfryd o 52 wythnos o garchar wedi'i ohirio, ynghyd â gorfod "ad-dalu'r" £14,600 a gwneud 200 awr o waith yn y gymuned.

Mae'n dweud iddi ddioddef yn ddifrifol o ran ei hiechyd yn y blynyddoedd wedi hynny, gan fynd i lefydd tywyll iawn.

Fe wnaeth sawl un droi cefn arni, ond mae'n diolch i'w theulu am fod yn gefn iddi drwy'r profiad.

'Jesd isio fo drosodd'

Wedi i ddrama Mr Bates v The Post Office roi sylw o'r newydd i'r sgandal, mae Ms Williams yn gobeithio y bydd y rhai o fewn Swyddfa'r Post a chwmni Fujitsu - oedd yn gyfrifol am raglen gyfrifiadurol Horizon - yn gorfod ateb am ddioddefaint cyn-isbostfeistri.

"Dwi jesd isio fo drosodd a 'di gorffen hefo unwaith ac am byth, ac i bwy bynnag sydd yn gyfrifol i gael eu cosbi yn iawn," meddai.

Mae Fujitsu wedi ymddiheuro am eu rhan nhw yn nioddefaint cyn-isbostfieistri.