Y Bencampwriaeth: Pwynt i'r Elyrch ond siom i'r Adar Gleision

  • Cyhoeddwyd
Harry Darling yn penio i'r ElyrchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Birmingham 2-2 Abertawe

Roedd hi bron a bod yn gychwyn perffaith i Luke Williams wrth y llyw wrth i'r Elyrch wynebu tîm arall sydd wedi penodi rheolwr newydd.

Ond rhannu'r pwyntiau oedd tynged y ddau dîm wrth i Birmingham - sydd wedi dewis Tony Mowbray i'w harwain - sicrhau gêm gyfartal yn yr eiliadau olaf.

Rhoddodd peniad Harry Darling Abertawe ar y blaen wedi 36 munud, ond roedd Birmingham yn gyfartal dau funud yn ddiweddarach diolch i Siriki Dembele.

Roedd gôl ail hanner Jamal Lowe yn edrych fel pe bai'n ddigon i selio'r triphwynt yng ngêm gynghrair gyntaf Luke Williams.

Ond wedi dod ymlaen fel eilydd llwyddodd y Cymro, Jordan James, i achub pwynt i'w dîm gyda 95 munud wedi ei chwarae.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Caerdydd 0-3 Leeds

Roedd Daniel Jones ymysg y sgorwyr wrth i Leeds sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn y brifddinas.

Roedd y gêm drosodd i bob pwrpas ar yr egwyl yn dilyn goliau Patrick Bamford a James.

Gwnaeth golwr Caerdydd, Jak Alnwick, sawl arbediad i gadw'r sgôr i lawr tra tarodd James y bar yn yr ail hanner a chic rydd Crysencio Summerville yn taro'r postyn.

Ond daeth trydedd gôl hollol haeddianol i Leeds diolch i Georginio Rutter gydag ond dau funud yn weddill.

Mae Leeds yn aros yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth tra fod Caerdydd yn llithro i'r 12fed safle.