Adran Dau: Buddugoliaethau i Wrecsam a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd
![Gôl Steven Fletcher](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/469F/production/_132297081_shutterstock_editorial_14298663av.jpg)
Wrecsam 2-0 AFC Wimbledon
Tarodd Steven Fletcher a Paul Mullin wrth i Wrecsam gryfhau eu gobeithion o ddyrchafiad awtomatig gyda buddugoliaeth dros AFC Wimbledon.
Cafodd yr ymwelwyr y gorau o'r cyfnod agoriadol, ond daeth y gôl gyntaf wedi awr diolch i foli wych Fletcher o gic gornel James McClean.
McClean oedd hefyd yn gyfrifol am greu'r ail wrth i Mullin sgorio taran o ergyd wedi 69 munud.
Golyga'r canlyniad fod Wrecsam yn codi i'r ail safle.
![Bryn Morris a Billy Waters yn ymladd am y bêl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/43E3/production/_132297371_cdf_130124_doncaster_v_newport_00030.jpg)
Doncaster 0-1 Casnewydd
Gôl hwyr iawn Seb Palmer-Houlden oedd y gwahaniaeth wrth sicrhau buddugoliaeth ddramatig i'r Alltudion yn Doncaster.
Roedd Joe Ironside o Doncaster wedi dod yn agos at sgorio ond arbedwyd ei foli gan Nick Townsend.
Roedd gôl-geidwad Casnewydd hefyd yn brysur wrth rwystro blaenwyr y tim cartref.
Ond gyda 93 munud ar y cloc wnaeth Palmer-Houlden, sydd ar fenthyg o Bristol City, sgoio'r gôl hollbwysig wrth fanteisio ar groesiad Lewis Payne.