Tân meithrinfa Gymraeg Casnewydd yn 'dorcalonnus' i rieni a staff

  • Cyhoeddwyd
Tân CasnewyddFfynhonnell y llun, Darren Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd unrhyw un ei anfau yn y digwyddiad ond dywedodd Meithrinfa Wibli Wobli fod yr adeilad wedi llosgi'n llwyr

Mae meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd wedi dweud bod tân mawr yn yr adeilad yn "hollol dorcalonnus".

Gydol y nos mae criwiau tân wedi bod yn ceisio diffodd y tân ar stad ddiwydiannol Wern.

Bu'n rhaid i'r rhai oedd ym mar Tiny Rebel drws nesaf yn ardal Tŷ-du (Rogerstone) adael y safle am tua 21:00 nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i fflamau gael eu gweld yn dod o do warws gerllaw.

Ar Facebook dywedodd Meithrinfa Wibli Wobli bod eu hadeilad wedi llosgi'n llwyr.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Wibli Wobli Nursery

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Wibli Wobli Nursery

Dywedodd y cwmni nad oedd unrhyw un wedi cael eu hanafu, ond nad oedd modd agor ddydd Llun.

Mewn datganiad pellach, rhannodd y cwmni lun o'r hyn sydd ar ôl o'r feithrinfa, gan ddweud bod y tân yn "hollol dorcalonnus i'n holl staff, plant a rhieni".

Ychwanegodd y datganiad bod y feithrinfa yn gobeithio sicrhau lleoliad dros dro i gynnig gofal plant cyn gynted â phosib.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Natasha Baker bod y fflamau'n "enfawr"

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd perchennog y feithrinfa, Natasha Baker bod "dim byd ar ôl" yn dilyn y tân.

"Mae'n hollol condemned," meddai.

"Roedd fy ngŵr i wedi gweld ar y camerâu fod y tân wedi dechrau yn yr adeilad felly mi es i yn syth i'r safle. Roedd y fflamau yn enfawr.

"Nawr dwi'n chwilio am adeilad arall i symud pawb achos mae lot o staff, gyda cymorthyddion a lot o rieni a phlant felly 'da ni wedi bod yn siarad efo'r eglwys drws nesa' i weld os allan ni wneud rhywbeth dros dro."

Agorodd Meithrinfa Wibli Wobli yn Ebrill 2023 fel y feithrinfa ddwyieithog gyntaf yn yr ardal.

Ychwanegodd Ms Baker: "Doedd 'na dim byd yn bodoli yn y Gymraeg heblaw am gylchoedd meithrin.

"Mae mwy o rieni wedi meddwl am ddefnyddio addysg Gymraeg oherwydd maen nhw'n hoffi'r feithrinfa ac maen nhw'n gallu gweld y benefits am y Gymraeg, felly mae yn gwneud gwahaniaeth."

Ffynhonnell y llun, Marie Groucott

Dywedodd Marie a Lewis Groucott, sy'n byw ger y stad ac sy'n gweithio mewn swyddfa yn yr adeilad drws nesa i'r feithrinfa, bod y fflamau yn "enfawr".

"Clywais i sŵn yr hyn o'n i'n meddwl oedd yn dân gwyllt, ond do'n i methu gweld dim i ddechrau," meddai Marie.

"Roedd y sŵn yn codi ac yna ar ôl sbïo o gefn y tŷ welais i'r fflamau ac mi wnes i sgrechian. Ro'n i'n meddwl taw adeilad ni oedd e, a chysylltais â'r gwasanaeth tân yn syth.

"Erbyn chwarter wedi naw roedd y fflamau dros ddwywaith maint yr adeilad."

Ychwanegodd Mike Taylor, sy'n weinidog yng Nghapel Faith sydd gyferbyn â'r feithrinfa, ei bod hi'n "syfrdanol" pa mor gyflym wnaeth yr adeilad losgi, ac nad oedd "erioed wedi gweld tân fel yna".

Yn ôl y gwasanaeth tân, roedd dros 75 o ddiffoddwyr a swyddogion wedi eu galw i'r digwyddiad ar un adeg.

Mae'r digwyddiad dan reolaeth bellach, ond fe fydd criwiau'n parhau ar y safle am y tro.

Bydd ymchwiliad ar y cyd â'r heddlu yn dechrau, meddai'r gwasanaeth tân.

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn cynorthwyo Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru drwy sicrhau bod eu cerbydau yn gallu cyrraedd y safle a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran Bragdy Tiny Rebel ar eu tudalen Instagram eu bod yn diolch yn ofnadwy i'r gweithwyr wnaeth hebrwng cwsmeriaid allan o'r bar nos Sul a'u bod yn gwerthfawrogi'r holl negeseuon cefnogol.

"Oherwydd y tân rydyn ni wedi gorfod gohirio archebion ar-lein am y tro, a byddwn mewn cysylltiad â phobl sydd eisoes wedi gwneud archebion i'ch diweddaru ynglŷn â'r sefyllfa."

Ychwanegodd y datganiad nad oes difrod i'w bragdy, a'u bod yn disgwyl agor fel yr arfer ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig