William Bush wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf - cwest

  • Cyhoeddwyd
William BushFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Will Bush yn "ffyddlon, yn ddoniol; yn fab, brawd a chariad gofalgar", meddai ei deulu mewn teyrnged

Mae cwest i farwolaeth dyn 23 oed wedi clywed ei fod wedi marw ar Noswyl Nadolig ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith yn ei wddf.

Cafodd William Bush o Aberhonddu ei ganfod ar Stryd y Capel yn Llandaf, Caerdydd tua 11:30 ar 24 Rhagfyr 2023.

Mae Dylan Thomas, 23, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Fe glywodd y cwest fod yr heddlu wedi eu galw i stryd fawr Llandaf ar ôl galwad gan aelod o'r cyhoedd yn dweud bod achos o drywanu wedi bod.

Bu farw Mr Bush ar 24 Rhagfyr ac fe ddaeth yr archwiliad post-mortem a gafodd ei gynnal ar ddydd Nadolig i ganlyniad ei fod wedi marw yn dilyn cael ei drywanu yn ei wddf sawl gwaith.

Dywedodd y crwner yr ardal ei fod yn atal y cwest tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.

Bydd dyddiad ar gyfer cwest pellach yn cael ei bennu yn ddiweddarach, meddai.

Fe gyhoeddodd teulu Mr Bush ddatganiad drwy'r heddlu yn fuan wedi ei farwolaeth, gan ddweud bod eu mab yn "fab, brawd a chariad mor ffyddlon, doniol a gofalgar".

Pynciau cysylltiedig