Tata Port Talbot: 'Disgwyl newyddion drwg' o gyfarfod undebau

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Tata SteelFfynhonnell y llun, Getty

Mae gweithwyr dur Tata yn disgwyl newyddion drwg am eu swyddi wrth i'r cwmni gyhoeddi cynlluniau i droi'r gwaith dur yn fwy gwyrdd.

Y disgwyl yw y bydd cynrychiolwyr o Tata'n cyfarfod â chynrychiolwyr undeb ddydd Iau.

Fis Tachwedd, gohiriodd Tata wneud cyhoeddiad fyddai wedi arwain at gau ffwrneisi chwyth y cwmni ym Mhort Talbot, ac achosi miloedd o ddiswyddiadau gorfodol.

Dywedodd Roy Rickhuss o undeb Community eu bod yn "disgwyl newyddion drwg", ond eu bod yn bwriadu "brwydro i gadw swyddi".

Beth yw bwriad Tata?

Mae Tata wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio a chynhyrchu dur mewn ffyrdd mwy gwyrdd er mwyn gostwng allyriadau ac atal colledion ariannol presennol y cwmni.

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall

Gyda grant gan Lywodraeth y DU, mae disgwyl i'r cwmni adeiladu math newydd o ffwrnais sy'n defnyddio trydan adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil i doddi dur sgrap.

Byddai hynny'n golygu diwedd i'r dull presennol o gynhyrchu dur sy'n gofyn am doddi mwyn haearn ar wres uchel.

Ond roedd gwrthwynebiad chwyrn gan undebau i gynnig gwreiddiol Tata i brysuro i gau'r ffwrneisi.

Tra bod yr undebau'n mynd ati i gyflwyno cynigion eu hunain fyddai'n gostwng yr ergyd i'r gweithlu, dywedodd pennaeth undeb Community, Roy Rickhuss wrth BBC Cymru bod yr undebau'n "benderfynol" o sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau ym Mhort Talbot.

"Os nad yw Tata'n barod i wrando, yna gallen ni fod yn symud tuag at anghydfod diwydiannol sylweddol. Fe fyddwn ni'n brwydro i gadw'r swyddi ym Mhort Talbot."

Mae'r BBC wedi gwneud cais am ymateb gan Tata.

'Plant, tai, morgeisi - a dim lot o waith'

Dyw dyfodol gwaith dur Port Talbot ddim wedi bod ymhell o'r penawdau ers blynyddoedd, ond mae'r misoedd diwethaf yn arbennig wedi bod yn anodd i'r gweithlu.

"Fi'n poeni'n fawr," meddai Shaun Spencer, peiriannydd offer trydanol gyda Tata. "Ma gwraig 'da fi, dau o blant, un ci, tŷ bach."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Shaun Spencer mae'n anodd cynllunio yn y gwaith dur ar hyn o bryd gyda'r ansicrwydd am y dyfodol

"Fi'n mwynhau'r safon o fywyd sy' 'da ni ar y foment, dim byd sbeshal, ond os bydd y swydd hyn yn bennu bydd rhaid dishgwl gweithio yn rhywle fel Caerdydd neu Casnewydd neu hyd yn oed Caerfyrddin. 'Sdim dal.

"Y storie fi'n clywed trwy'r amser yw plant ifanc, tai, morgeisi, a wedyn 'ny 'sdim lot o waith fel hyn ar ôl yn de Cymru.

"Ac ma hwnna'n meddwl lot i bobl - yn enwedig i bobl o Bort Talbot. Mae'r angerdd am y gwaith yn rywbeth arall man hyn."

Tra bod y trafodaethau'n parhau, mae'r gweithiwr 38 oed yn dweud bod bywyd o ddydd i ddydd ar y safle yn llawn ansicrwydd.

"O'n i mewn cyfarfod dim sbel fach yn ôl, o'n ni'n siarad am y budget blwyddyn nesa', le ma'r arian yn mynd i fynd a phopeth, le sy ishe hala'r arian yn yr ardal le y' fi.

"Ma' fe'n beth caled i drial canolbwyntio arno fe pryd ti'n meddwl 'beth yw'r pwynt?'

"Ti'n dodi lot o ymdrech mewn i hwnna a ma' fe'n dod nôl ambell i waith 'o sim dal beth ma'r dyfodol yn mynd i dowlu aton ni felly ni ffili dodi'r arian ato fe'."

Ers siarad â BBC Cymru, ac oherwydd yr ansicrwydd, mae Shaun wedi mynd ati i chwilio am waith arall. Bydd yn gadael ei swydd fis Chwefror.

'Gobeithio'r gorau'

Ers 1992, mae Bartlett Engineering ym Maglan wedi bod yn gweithio gyda'r gwaith dur ym Mhort Talbot.

"Os yw e'n torri, ac mae o fetel, fe ail-wnewn ni fe ac fe gywirwn ni fe," meddai Desnie Hill, rheolwr cyllid y cwmni.

Mae hi'n tybio bod 90% o'u gwaith yn ymwneud â Tata, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

"Ry'n ni'n gobeithio'r gorau," meddai. "Mae lot o ansicrwydd."

Dros y blynyddoedd mae Desnie wedi gweld nifer o berchnogion yn mynd a dod ym Mhort Talbot, o ddyddiau Dur Prydain a Corus, i Tata'n cymryd drosodd yn 2007.

Fel y gwaith dur, os yw Bartlett Engineering ar ei cholled, mae busnesau lleol eraill yn siwr o ddioddef.

"Os chi'n meddwl amdano fe, mae dros 100 o bobl yn darparu i ni felly mae fel tŷ o gardie, yr effaith ddomino."

Beth oedd cynllun gwreiddiol Tata?

Fis Tachwedd 2023 cafodd cyhoeddiad gan Tata ar ddyfodol ei gweithfeydd dur ym Mhrydain ei ohirio ar y funud olaf.

Yn ôl yr undebau, roedd y cwmni'n paratoi i gau'r ddwy ffwrnes chwyth ym Mhort Talbot erbyn gwanwyn 2024, gyda hyd at 3,000 o swyddi ar draws Prydain yn y fantol.

Mae Tata'n cyflogi 8,000 o bobl ar hyn o bryd, gyda 4,000 ar safle dur mwyaf Prydain ym Mhort Talbot.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata eisiau symud i ffwrdd o ddefnyddio ffwrneisi chwyth ar gyfer cynhyrchu dur

Mae'r cynllun posibl yn rhan o ymdrech y cwmni i atal colledion ariannol a symud at ddull o gynhyrchu dur sy'n creu llai o lygredd.

Petai'r cynllun yn digwydd, byddai Tata'n gwario £1.25bn ar ffwrnes drydan ym Mhort Talbot, gyda help grant o £500m gan Lywodraeth y DU.

Beth yw cynnig yr undebau?

Cynigodd yr undebau gynllun amgen, oedd yn argymell cyfnod pontio gydag o leiaf un ffwrnais chwyth yn aros yn weithredol ym Mhort Talot tan bod y ffwrnes drydan yn barod i'w rhoi ar waith.

Roedd y cynllun yn awgrymu byddai 700 o swyddi'n cael eu colli, ond roedd dau o'r undebau'n hyderus y byddai'r swyddi hynny'n diflannu trwy ddiswyddiadau gwirfoddol.

Er bod undeb Unite yn gefnogol i'r cynllun hwn yn wreiddiol, yn ddiweddarach gwnaeth gynnig arall i annog mwy o ddefnydd o ddur o Brydain a buddsoddi mwy yn y gweithfeydd dur sydd ar waith nawr.

Pynciau cysylltiedig