Undebau yn anghytuno am ddatgarboneiddio Tata

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 3,000 o weithwyr dur ym Mhort Talbot - sef hanner gweithlu gyfan Tata yn y DU

Mae undebau sy'n cynrychioli gweithwyr dur Port Talbot yn anghytuno ar y cynllun amgen i ddatgarboneiddio safle Tata.

Mae dau undeb wedi dweud y byddai'r cynnig a gafodd ei baratoi gan yr ymgynghorwyr Syndex yn "diogelu dyfodol" y safle heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol.

Ond mae trydydd undeb, Unite, wedi newid ei safiad ac wedi gwrthod y cynllun yn gyhoeddus, gan ei alw'n "strategaeth ar gyfer torri swyddi".

Yn ôl cwmni Tata mae'r trafodaethau yn parhau.

Ddechrau'r mis dywedodd undebau fod Tata yn bwriadu dod â chynhyrchu ffwrnais chwyth i ben ym Mhort Talbot erbyn Ebrill 2024, gan arwain at golli 3,000 o swyddi.

Ond fe wnaeth Tata ganslo cynhadledd i'r wasg lle roedd disgwyl iddynt gyhoeddi'r cynllun.

Y bwriad yw adeiladu ffwrneisi trydan er mwyn cynhyrchu dur mewn ffordd sy'n fwy caredig i'r amgylchedd.

Gwaith dur Port Talbot yw allyrrwr carbon mwyaf Cymru ac mae'r cwmni a'r undebau wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio'r safle, ond yn anghytuno ar sut i gyflawni hyn.

'Osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol'

Roedd y tri undeb wedi gofyn i Syndex baratoi cynllun datgarboneiddio amgen ar gyfer gweithfeydd Tata yn y DU - cynllun a gafodd ei gymeradwyo gan gynrychiolwyr Community, GMB ac Unite.

Cafodd ei gyflwyno i uwch reolwyr y cwmni gan gynrychiolwyr yr undebau yn Llundain ar 17 Tachwedd ac roedd yn ymwneud â chynnal un ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot gyda thua 700 o swyddi'n cael eu colli, gyda'r undebau'n credu fod modd cyflawni hyn drwy ddiswyddiadau gwirfoddol ac adleoli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond y diwrnod wedyn fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham, ei gwrthwynebiad i'r cynllun.

Mae Community a GMB bellach wedi cyhoeddi crynodeb o gynllun Syndex, gan ddatgan y byddai'n "amddiffyn mwy na 2,300 o swyddi dros ddegawd gan osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ym Mhort Talbot".

Ond mae Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru, Peter Hughes, bellach wedi dweud: "Mae cynllun Syndex yn strategaeth ar gyfer torri swyddi ac nid yw Unite mewn unrhyw ffordd yn derbyn unrhyw gynnig sy'n ceisio dinistrio'r diwydiant dur."

Dywedodd Unite fod ganddynt gynllun eu hunain ar gyfer cynhyrchu dur - cynllun a fyddai'n "trawsnewid y DU yn brif ffynhonell dur gwyrdd byd-eang".

Yn dilyn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r tri undeb, ymrwymodd Tata i asesu cynllun Syndex.

Yn ogystal â chynnal un o'r ffwrneisi chwyth tan 2032, mae cynllun Syndex yn cynnwys asesu modelau amgen ar gyfer cynhyrchu dur crai y gellir eu hadeiladu yn ddiweddarach.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Community, Roy Rickhuss, fod eu cynllun amgen "wedi ei gytuno gan yr holl undebau dur, y gall ddiogelu dyfodol gwneud dur ym Mhort Talbot a diogelu'r holl weithfeydd gerllaw a'i fod yn un y gellir ei gyflawni heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae camau ar droed i geisio sicrhau llai o allyriadau wrth gynhyrchu dur

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y GMB, Gary Smith, fod y cynllun yn "cynnig llwybr credadwy" i ddyfodol datgarbonedig i Bort Talbot, gan ei alw'n "gynllun y mae gweithwyr Port Talbot ei eisiau".

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething, fod Llywodraeth Cymru yn glir iawn eu bod am weld y nifer uchaf o swyddi yn cael eu cynnal yn y tymor hir.

Yn ôl llefarydd ar ran Tata mae trefniant ymgynghori aml-undeb wedi'i hen sefydlu - Pwyllgor Dur y DU - a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr cenedlaethol o'r undebau Community, GMB ac Unite ac fe gyfarfu â'r cwmni ar 17 Tachwedd i ddechrau trafodaethau ar y cynigion.

"Fe wnaethon ni gytuno i sgyrsiau manwl pellach ar eitemau penodol o fewn eu cynnig ac mae'r trafodaethau hyn yn parhau," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig