Galw am atal arogl 'cwbl ffiaidd' o domen sbwriel

  • Cyhoeddwyd
WithyhedgeFfynhonnell y llun, Colin Burnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gwynion wedi bod am safle Withyhedge yn Hwlffordd ers yr hydref

Mae trigolion sy'n byw yn agos at domen sbwriel yn Sir Benfro wedi galw am weithredu cryfach gan Cyfoeth Naturiol Cymru i atal ogleuon o'r safle, sydd wedi'u disgrifio fel "cwbl ffiaidd".

Mae yna gwynion wedi bod am safle Withyhedge yn Hwlffordd ers yr hydref, er bod y safle wedi gweithredu am ddegawdau cyn hynny, heb broblemau.

Cafodd hysbysiad gorfodi ei roi i'r cwmni sy'n rhedeg y safle cyn y Nadolig, yn galw arnyn nhw i orchuddio gwastraff a oedd yn agored, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef y gallai gymryd tri mis i'r cwmni roi terfyn ar y drewdod.

Mae'r rheolwyr, Resources Management UK Ltd - sy'n eiddo i Grŵp Amgylcheddol Dauson o Gaerdydd - wedi dweud eu bod yn "ymddiheuro'n daer" am yr effaith ar y gymuned leol, a'u bod yn ceisio datrys y mater.

Yn ôl pentrefwyr Spittal, roedd y gwynt cas yn waeth nag erioed dros yr wythnos ddiwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Davies fod yr arogl yn "mynd yn waeth o ddydd i ddydd"

Dywedodd y cyn-filfeddyg Richard Davies, sy'n byw yn Spittal: "Mae'n anodd disgrifio. Mae e fel bod yna gemeg ynddo fe braidd.

"Dwi wedi hen arfer gydag arogl o ffermydd, a di'o ddim byd i wneud gyda'r ffermydd. Mae'n afiach.

"Dydd Sadwrn wnes i benderfynu agor y ffenest cyn mynd i'r gwely, ond dyna'r peth gwaethaf wnes i.

"Erbyn hanner wedi tri y bore o'n i'n effro, ac roeddwn i'n meddwl 'beth ddiawl ydy'r oglau?'

"Erbyn y bore roedd y gwynt wedi newid, ac roedd wedi mynd tu allan, ond roedd yr arogl yn y tŷ - roedd e'n drewi.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni bron ffaelu eistedd mas achos bod y drewdod mor gryf," meddai Barrie Griffiths

Dywedodd Barrie Griffiths, sy'n byw rhyw ddwy filltir i ffwrdd yn Nhrefgarn, ei fod yn "gwynto fe'n aml".

"Ni'n gallu gweld y tip yn gweithio o'n tŷ ni, ond nawr mae'r lorïau sydd yn dod mewn o dde Cymru - rhai mawr, mawr - mae dwsinau ohonyn nhw, bob wythnos, yn cario'r stwff mewn.

"Ni bron ffaelu eistedd mas achos bod y drewdod mor gryf."

'Nid yw'r arogl yn beryglus'

Cafodd y cwmni sy'n rheoli'r safle, Resources Management UK Ltd (RML), ei werthu i Grŵp Amgylcheddol Dauson yn 2022, sy'n berchen am nifer o gwmnïau gwastraff a dymchwel.

Mae hawl gan y cwmni i gladdu 250,000 tunnell o wastraff yn flynyddol ar y safle, yn ôl amodau'r drwydded.

Dywedodd y cwmni taw'r rheswm am y drewdod yw bod yna oedi wedi bod wrth orchuddio cell oedd yn dal gwastraff.

Maen nhw'n dweud "nad yw'r arogl yn beryglus i bobl na'r amgylchedd".

Er hynny, mae'r cwmni yn "ymddiheuro yn daer" am yr effaith ar y gymuned leol, ac maen nhw'n ceisio datrys y mater o fewn wythnosau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn lleol yn erbyn y drewdod

Mae ymgyrchwyr yn pryderu bod un o gyfarwyddwyr RML wedi pleidio'n euog yn y gorffennol i waredu â gwastraff yn anghyfreithlon.

Cafodd David John Neal ddedfryd o garchar wedi'i ohirio a gorchymyn i dalu costau a dirwyon o dros £200,000 ym mis Mai 2013 ar ôl iddo bleidio'n euog yn bersonol i dorri rheolau amgylcheddol, ac ar ran dau gwmni yn ymwneud â chyhuddiadau o waredu â gwastraff allai achosi llygredd yn yr amgylchedd neu niwed i iechyd pobl.

Cafodd gwastraff ei adael ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar Wastadeddau Gwent.

'Pwy a ŵyr beth sydd yna'

Mae'r ymgyrchydd Colin Barnett o Spittal yn dweud bod yna "gynnydd enfawr wedi bod mewn lorïau" yn ymweld gyda'r safle tirlenwi yn Withyhedge yn ystod y misoedd diwethaf.

"Mae hi wedi bod yn ddi-stop. Haen ar ben haen," meddai.

"O ystyried faint o ddeunydd sydd wedi cael ei osod yna, pwy a ŵyr beth sydd yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Susan Lewis a Colin Barnett yn ddau o'r trigolion lleol sydd wedi bod yn ymgyrchu i atal yr arogl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod nhw'n "dal i dderbyn nifer fawr o gwynion am arogl" a'u bod yn "deall rhwystredigaeth a dicter" cymunedau lleol.

Yn ôl y rheoleiddwr, mae Resources Management UK Ltd wedi cydymffurfio gyda hysbysiad gorfodi i orchuddio gwastraff agored ar y safle, ond cyfyng iawn oedd effaith y gorchymyn hwnnw.

Y gred yw bod nwy yn gollwng o gell gafodd ei defnyddio i gladdu gwastraff yn 2023, ac mae dyna'r "ffynhonnell debygol ar gyfer yr arogl".

Mae'r gwastraff ar y gwaelod yn pydru ac yn rhyddhau nwy ac arogl.

Bydd angen "rhoi cap" ar ben y gell a gosod offer i reoli nwyon, ac fe allai'r gwaith gymryd dau i dri mis.

'Rhaid gwneud y gwaith yn iawn'

Dywedodd Huwel Manley o Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn "annog y cwmni i frysio'r gwaith".

"Ni yn dweud wrthyn nhw bod rhaid gwella'r safle, ond yn naturiol mae'n rhaid i'r gwaith gael ei wneud yn iawn," meddai.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cwynion i weld a ydy'r cwmni wedi torri amodau'r drwydded, a bydd yn cymryd camau pellach os ydy hynny yn briodol.

Ffynhonnell y llun, Colin Burnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder wedi bod am hylif yn dianc o'r safle i afonydd cyfagos

Mae yna bryder hefyd am hylif yn dianc o'r safle i afonydd cyfagos, ar ôl i fideo gael ei ffilmio gan ymgyrchwyr.

Dywedodd Ric Cooper, lefarydd ar ran Prosiect Cleddau fod hynny'n "bryder enfawr".

"Mae trwytholchiad yn dianc mewn i'r afonydd, a does dim syniad gyda ni beth sydd yn yr hylif," meddai.

"Mi allai hyn wneud niwed i'n hafonydd am ddegawdau."

Dywedodd RML eu bod yn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i "ymchwilio i'r ffordd mae dŵr ffo wedi cael ei ryddhau."

Mae'r cwmni yn mynnu fod prosesau mewn lle i atal yr un sefyllfa rhag codi eto yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n "ymddiheuro yn daer" am yr effaith ar y gymuned leol, ac yn ceisio datrys y mater o fewn wythnosau

'Camau yn cael eu cymryd'

Yn ôl Cyngor Sir Penfro mi fyddan nhw yn parhau i fonitro arogleuon o'r safle, er taw'r rheoleiddwr swyddogol yw Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Mae gan y cyngor bwerau ychwanegol os ydy arogleuon yn medru cael ei ddiffinio fel niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac fe fydd ein monitro yn parhau o dan y sail hwnnw," meddai llefarydd.

"Mae rheolwr y safle wedi cytuno ar gynllun rheoli, ac mae camau yn cael eu cymryd i leihau'r effaith ar yr ardal gyfagos."

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynnal cyfarfod rhithiol am y sefyllfa ar 31 Ionawr, a bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn lleol ar 25 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig