Dŵr Cymru'n cyfaddef gollwng carthion anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Dŵr Cymru wedi cyfaddef ei fod yn gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon o ddwsinau o'i weithfeydd prosesu.
Ymysg y gwaethaf mae'r gwaith trin dŵr gwastraff yn Aberteifi, Ceredigion.
Mae'r safle wedi bod yn torri'r rheolau o ran gollwng i'r afon gerllaw am o leiaf degawd.
Mae Dŵr Cymru'n mynnu nad yw'r effaith ar yr amgylchedd yn sylweddol, a bod cynlluniau i wario £20m ar adeiladu canolfan trin carthion newydd i'r dref.
Ymgyrchydd blaenllaw i wella ansawdd dŵr afonydd y DU - yr Athro Peter Hammond - sy'n gyfrifol am yr ymchwil newydd.
Mae gan safleoedd trin dŵr gwastraff drwyddedau sy'n caniatáu iddyn nhw ollwng carthion pan eu bod yn orlawn - fel sy'n gallu digwydd yn ystod glaw trwm iawn.
Ond ar ôl asesu gwerth blynyddoedd o ddata a gafodd gan Dŵr Cymru, fe allai'r Athro Hammond ddangos bod nifer o'r gweithfeydd yn dal i ollwng hyd yn oed pan nad oedden nhw wedi croesi'r trothwy hynny.
Ar ôl gweld canfyddiadau'r Athro Hammond fe gyfaddefodd y cwmni fod rhwng 40 a 50 o'u safleoedd trin carthion yn gweithredu yn groes i'w trwyddedau.
Dywedodd y rheoleiddiwr amgylcheddol - Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) - ei fod wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi, yn galw ar y cwmni i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn Aberteifi, ond doedd heb gyflwyno'r un ddirwy eto.
Blynyddoedd o ollyngiadau anghyfreithlon
Mae'r broblem yn Aberteifi'n dyddio'n ôl ddegawdau, ac yn ymwneud â'r ffaith bod dŵr hallt weithiau'n llifo i'r safle, yn enwedig pan fo'r llanw'n uchel.
Mae'n effeithio'r bacteria sy'n trin y carthion, gan gynhyrchu ensym sy'n tagu'r bilen, neu membrane, sy'n hidlo'r dŵr gwastraff.
Dyw'r gwaith ddim yn gallu trin digon o garthffosiaeth o ganlyniad, ac felly mae'n gollwng gormod.
"Dy'n ni ddim yn falch o hyn o gwbl," meddai Steve Wilson, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr gwastraff y cwmni, wrth dywys y BBC i weld y safle.
"Mewn gwirionedd, fel rhywun sy'n becso'n ddirfawr am yr amgylchedd mae'n sefyllfa anghyfforddus iawn i ni fod ynddi - ond ry'n ni wedi bod yn trio trwsio hyn."
Dywedodd Dŵr Cymru a CNC eu bod yn ymwybodol o'r broblem ers i ddyfeisiadau monitro gael eu gosod yn 2015.
Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod wedi trio sawl ateb posib - gan gynnwys ceisio atal dŵr môr rhag cyrraedd eu pibellau, ond dyw'r un ymgais wedi gweithio hyd yma.
Gollwng am 2,313 diwrnod
Mae ffigyrau'r Athro Hammond yn dangos bod gweithfeydd Aberteifi wedi gollwng yn anghyfreithlon am 1,146 o ddiwrnodau rhwng 2018 a chanol 2023.
"Dyma'r safle gwaethaf dwi erioed wedi dod ar ei draws o ran gollyngiadau anghyfreithlon," meddai.
Ar ôl ymddeol fel athro mewn bioleg cyfrifiannol [computational biology], mae wedi bod yn defnyddio ei sgiliau fel mathemategydd i egluro graddfa'r broblem gollwng carthion gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Fel aelod o'r grŵp Windrush Against Sewage Pollution yn Sir Rhydychen, bu'n defnyddio ffigyrau sydd wedi'u darparu gan gwmnïau eu hunain i ddarganfod ffaeleddau.
Fe gafodd afael ar ddata 11 o weithfeydd trin carthion drwy Gymru - gan ddangos eu bod wedi bod yn gollwng yn groes i'w trwyddedau am gyfanswm o 2,313 o ddiwrnodau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Carthion Afon Teifi
Mae'r bibell sy'n arwain o'r gwaith trin carthion yn gollwng i aber Afon Teifi, rhyw ddwy filltir a hanner cyn iddo gyrraedd y môr.
Mae'r afon wedi'i dynodi yn safle cadwraeth arbennig, ac yn gartref i rywogaethau prin fel eog, dyfrgwn a llysywod pendwll.
Mae'n llifo hefyd i Fae Ceredigion lle mae modd canfod un o'r poblogaethau mwyaf yn Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel, a nifer o draethau poblogaidd.
Dweud mae Dŵr Cymru bod monitro ansawdd dŵr rheolaidd ar draeth Poppit yn dangos nad yw'r sefyllfa ar hyn o bryd yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
Mae'r dŵr yno'n cael ei brofi 12 waith y flwyddyn ac yn "ardderchog" yn gyson.
Ategu hynny mae CNC, sy'n dweud y bydden nhw ond yn erlyn y cwmni os oedd tystiolaeth bod y llygredd yn cael effaith clir iawn, ac nad yw hynny'n amlwg yn achos Aberteifi.
Ond gwrthod y rhesymeg hynny mae Gail Davies-Walsh o grŵp ymgyrchu Afonydd Cymru.
Mae'n dweud nad oes digon o brofi'n digwydd i ddeall a ydy'r gollyngiadau cyson yn cael effaith.
Mae'r Athro Hammond yn nodi bod 70% o'r gollyngiadau mewn blwyddyn arferol yn cymryd lle y tu allan i'r ffenest rhwng Mai a Medi pan fod profi dŵr yn Poppit yn digwydd.
"Mae'n anodd ofnadwy i ddweud pa fath o effaith sydd 'na ar yr afon achos does 'na ddim monitro'n digwydd ar hyn o bryd i asesu hynny," meddai Ms Davies-Walsh.
"Be' dy'n ni yn gwybod yw bod carthion heb eu trin yn arwain at gyfres o broblemau yn ein hafonydd.
"Mae lefelau uchel o faetholion sy'n dod o garthffosiaeth yn arwain at ordyfiant algâu, a hynny'n arwain at brinhau lefel yr ocsigen mewn afonydd.
"Ma' hynny'n amlwg yn effeithio poblogaethau pysgod a rhywogaethau eraill."
Methiant rheoleiddio?
Mynnu mae Ms Davies-Walsh bod y cwmni dŵr a'r rheoleiddiwr yn methu.
"Yn sylfaenol, mae'r safle yma [yn Aberteifi] wedi bod yn gollwng carthion heb eu trin o bosib am ddegawd a mwy a dim gweithredu wedi digwydd," meddai.
Fe wnaeth CNC ddarparu amserlen i'r BBC o'u hymateb sy'n dangos nifer o hysbysiadau gorfodi, ond dim dirwyon nac erlyniadau.
"Ry'n ni wedi erlyn Dŵr Cymru ar nifer o achosion am ddigwyddiadau llygredd, ond ddim ar gyfer gollyngiadau isel fel hyn," esboniodd Huwel Manley o CNC.
"Ond ry'n ni wedi bod yn gweithio i drio llunio arweiniad cenedlaethol ar y cyd â Lloegr fel bod gyda ni ffordd fwy cyson o ymateb pan ddaw hi at erlyniadau."
Mae CNC yn dweud ei fod bellach yn adolygu data o 100 o safleoedd trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru.
Mae'r cwmni nid-er-elw yn mynnu nad yw dan ymchwiliad ffurfiol, ac mai rhwng 40 a 50 o'i safleoedd sy'n achosi problem.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i gwmnïau dŵr "barhau i wella'n gyson eu gwasanaethau i gwsmeriaid a mynd i'r afael ag unrhyw feysydd sy'n achosi pryder".
"Mae'n sector dŵr ni yn wynebu sialensau digynsail; rhaid i ni sicrhau dadgarboneiddio, addasu i newid hinsawdd a thaclo colledion natur, yn wyneb yr argyfwng costau byw presennol," meddai.
"Mae gan y llywodraeth, busnesau, a chymunedau oll rôl i'w chwarae wrth helpu afonydd Cymru i ffynnu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023