Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-3 Southampton

  • Cyhoeddwyd
Che AdamsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Che Adams yn dathlu gôl gyntaf Southampton

Roedd hi'n ymweliad boddhaol yn ôl i Abertawe i'r cyn-reolwr Russell Martin, wrth i'w dîm sy'n ail yn y Bencampwriaeth sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Elyrch.

Daeth y gôl agoriadol ar ôl chwe munud yn unig, Adam Armstrong yn ergydio ond Rushworth yn ei harbed cyn i'r bêl gyrraedd Che Adams. Roedd y dasg yn hawdd iddo fe daro'r bêl i gefn y rhwyd.

Fe ddaeth yr ail gôl ar ôl 20 munud. Fe fethodd Abertawe glirio ac er bod yna ddadl gref bod yna ymosodwr yn camsefyll, fe sgoriodd Smallbone o groesiad isel Stuart Armstrong o'r chwith.

Yn erbyn llif y chwarae fe lwyddodd Abertawe i daro nôl ar ôl 41 munud.

Fe ddaeth croesiad o'r dde gan Ashby tuag at ben Jamal Lowe ond fe gafodd y golgeidwad law iddi hi gan lorio'r ymosodwr. Daeth y bêl i Cullen a darodd y bêl yn gywir at ben Jamie Paterson.

Ond roedd y cefnogwyr cartref yn fud eto ymhen munudau, gyda chyn-chwaraewr yr Elyrch Flynn Downes yn ergydio o ymyl y cwrt. Fe darodd hi Lowe ar ei ffordd heibio i Rushworth.

Roedd yr ymwelwyr yn hapus i gadw'r meddiant yn yr ail hanner ac yn parhau i greu cyfleoedd, ond roedden nhw braidd yn wastraffus o flaen gôl.

Yn y chwarter awr olaf fe ddeffrodd y tîm cartref gyda Patino, Bolasie a Paterson yn mynd yn agos.

Daeth y cyfle gorau i Abertawe sgorio ail wedi 78 o funudau ar ôl i Bazunu glirio yn llac a'r amddiffyn yn gadael i Patino daro'r bêl ar draws y gôl, ond dim ond taro'r postyn wnaeth Paterson o ongl dynn.

Fe ddaeth Bazunu i achub Southampton ddwy funud yn ddiweddarach gydag arbediad o ergyd Bashir Humphreys.

Doedd yna ddim adfywiad i fod i'r tîm cartref. Mae 'na ddigon o waith i'w wneud felly gan y rheolwr newydd Luke Williams os yw'r Elyrch am hedfan yn uwch na hanner isaf y Bencampwriaeth.