Storm Isha: Miloedd wedi colli pŵer a Storm Jocelyn ar ei ffordd
- Cyhoeddwyd
Bu dros 20,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan wrth i wyntoedd cryfion a glaw Storm Isha daro Cymru nos Sul.
Cafodd hyrddiadau o 90mya eu cofnodi yng Nghapel Curig ddydd Sul, dros 80mya dros nos yn Aberdaron a 77mya yn Y Mwmbwls ac yn ardal Llyn Efyrnwy.
Dywedodd llefarydd ar ran SP Energy Networks fod y storm wedi effeithio ar 19,500 o'u cwsmeriaid ar draws gogledd a chanolbarth Cymru.
Erbyn 17:00 brynhawn Llun, roedd tua 900 yn parhau heb bŵer, meddai'r llefarydd, gan ychwanegu: "[M]ae ein peirianwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu - mewn amodau heriol - i adfer cyflenwadau'n gyflym ac yn ddiogel."
Daeth rhybudd oren y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion i ben am 06:00 ddydd Llun, ynghyd â rhybudd melyn am law trwm.
Daeth rhybudd melyn ar wahân am wynt, oedd mewn grym ar gyfer y DU gyfan, i ben am 12:00.
Storm Jocelyn i ddod
Ond mae storm fawr nesaf y tymor - Storm Jocelyn - ar ei ffordd ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer y deuddydd nesaf.
Bydd y cyntaf - rhwng 12:00 dydd Mawrth a 15:00 dydd Mercher - yn weithredol ym mhob rhan o Gymru heblaw am chwe sir y gogledd, gan ragweld hyrddiadau rhwng 45-55mya mewn mannau mewndirol - hyd at 65mya mewn ambell fan agored ar yr arfordir.
Fe fydd yr ail - rhwng 16:00 dydd Mawrth a 13:00 prynhawn Mercher - yn berthnasol i'r gogledd a rhannau o Geredigion a Phowys.
Mae disgwyl gwyntoedd cryfach dan y rhybudd yma, sef hyd at rhwng 55-65mya, gyda hyrddiadau hyd at 70mya yn bosib mewn mannau agored.
Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi cael eu galw i sawl digwyddiad, gan gynnwys achosion o lifogydd yn Ystrad Mynach a'r Coed Duon yn Sir Caerffili.
Mae difrod wedi ei achosi i filfeddygfa yn Arberth, yn Sir Benfro a bu'n rhaid anfon criw tân i Glwb y Gweithwyr Llwchwr yng Ngorseinon wedi i geblau trydan gwympo.
Fe dderbyniodd gwasanaeth tân y gogledd alwadau wedi i yrwyr gael eu dal mewn llifogydd yng Nghapel Curig ac yn ardal Padog, ger Betws-y-Coed, ond roedd y cerbydau wedi cael eu symud erbyn i griwiau gyrraedd.
Am 06:00 ddydd Llun roedd dros 40 o rybuddion llifogydd, dolen allanol mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda'r pryder mwyaf yn ardaloedd Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach, Afon Nedd yn Aberdulais, Afon Wysg o Aberhonddu i Langrwyne, ac Afon Conwy ger Ffordd Gwydir rhwng Llanrwst a Threfriw, sydd wedi cau.
Bu'n rhaid canslo sawl fferi rhwng Cymru ac Iwerddon ynghyd ag amryw o wasanaethau trên ac mae Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol yn cynghori teithiwr i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn dechrau ar eu siwrne.
Mae yna oedi i deithwyr trên rhwng Y Barri a Llanilltud Fawr gan fod coeden wedi syrthio ar y lein, ac mae'r lein rhwng Amwythig ac Abertawe, trwy Lanelli, ar gau tan 12:00.
Yn y gogledd mae yna newidiadau byr rybudd i amseroedd teithiau i ac o orsaf Euston yn Llundain, ac i deithiau ar hyd Lein Dyffryn Conwy.
Glanio awyren yn 'frawychus'
Cafodd hediadau o Amsterdam a Chaeredin oedd i fod i lanio ym Maes Awyr Caerdydd nos Sul eu canslo wrth i'r tywydd waethygu.
Roedd y gyflwynwraig Jennifer Jones i fod i lanio ym Mryste wedi gwyliau sgïo gyda ffrindiau yn y Swistir, ond gan fod yr amodau'n rhy beryglus i'r awyren wneud hynny a bu'n rhaid dargyfeirio i faes awyr Caeredin.
"Wrth i ni ddod lawr i lanio ym Mryste o'dd y turbulence yn ofnadwy," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.
'Dwi ddim wedi profi dim byd tebyg. O'dd yr awyren yn symud o ochr i ochr ac i fyny ac i lawr."
Roedd y peilot, meddai, wedi dweud wrth deithwyr bod y gwyntoedd wedi croesi'r ffin gyfreithiol i lanio'r awyren a'u bod wedi cael caniatâd i lanio yng Nghaeredin.
Ond roedd glanio yn fanno "yn eitha anodd hefyd" oherwydd y storm.
"O'n i wedi dechrau meddwl am fy ngŵr a'r plant a meddwl be' dwi yn 'neud ar yr awyren ma'," dywedodd.
"Pan wnaethon ni lanio na'th pawb ar yr awyren ddechrau clapio.
"Dwi hefo pedair ffrind... wnaethon ni edrych ar ein gilydd a dechrau crïo. Ro'n ni mor ddiolchgar bo' ni yn saff ac wedi glanio.
"Roedd neithiwr yn rhyddhad mawr, mae'n rhaid i fi ddweud."
Mae un o brif ffyrdd y gogledd - yr A5 - ar gau oherwydd yr amodau rhwng Bethesda a Chapel Curig.
Mae'r heddlu'n gofyn wrth yrwyr i osgoi'r ffordd ger Turnpike Cottage, Bethesda "am y tro" wedi i goeden syrthio gan dynnu ceblau uwchben i lawr.
Mae sawl ffordd arall wedi bod ar gau wedi i goed syrthio gan gynnwys Ffordd Blaenau'r Cymoedd yng Nghefn Coed - sydd bellach yn glir - a'r B4931, Allt Goch ym Mlaenau Ffestiniog rhwng yr A470 a'r A496.
Roedd Pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn ynghau i holl draffig rhwng 16:00 ddydd Sul a hanner nos oherwydd pryderon am wyntoedd uchel, ond roedd wedi ailagor fore Llun, gyda chyfyngiadau.
Mae Pont Cleddau hefyd wedi ailagor yn Sir Benfro ynghyd â'r M48 dros Bont Hafren rhwng Cymru a Lloegr - yr hen bont.
Roedd yna benderfyniad hefyd i gau dwy ran o draffordd yr M4 am gyfnod nos Sul.
Bu'r draffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 37 y Pîl a chyffordd 38 Margam ger Port Talbot rhwng 19:00 a 01:00. Mae'r rhan hon yn croesi pont Cynffig.
Bu'r ffordd dros bont Llansawel hefyd ar gau rhwng 19:00 nos Sul a 01:00 fore Llun.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd i yrwyr fod yn ofalus os yn mentro allan yn y car nos Sul, ond roedden nhw'n annog pobl i osgoi teithio os nad yw'n angenrheidiol.
Fe wnaeth canolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor hefyd ganslo perfformiad Y Curiad oedd i fod i'w chynnal nos Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2024