Gobeithion pobl ifanc o weithio ym maes dur ar ben?

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
Disgrifiad o’r llun,

Bu BBC Cymru yn holi barn disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur am effaith colli swyddi Tata

Mae enw eu hysgol yn adlewyrchu dylanwad gwaith dur Tata ym Mhort Talbot ar brofiadau rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.

Mae'n rhan o hanes teulu Daniel, 17, a'i dad-cu wedi ail-hyfforddi fel athro ar ôl colli ei swydd yn y gwaith dur ddegawdau yn ôl.

Fe wnaeth y cwmni gadarnhau ddydd Gwener y byddai 2,800 o swyddi'n cael eu torri ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl i'r mwyafrif helaeth o'r rheiny fod ym Mhort Talbot.

Yn sgil pryder am gyfleoedd i bobl ifanc yn y dyfodol, fe alwodd cadeirydd Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar y to iau i "lynu gyda ni" wrth iddyn nhw ddatblygu gyrfaoedd eraill yn yr ardal.

Mae Rylee, 17, sy'n aelod o chweched Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, yn poeni y bydd rhai pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal.

"Yn lle cael rhywle yn lleol yn yr ardal gallan nhw fynd," meddai.

"Mae'n rhaid i bobl nawr, o fewn y meysydd mae Tata'n cyflogi - mae'n rhaid i nhw fynd rhywle arall, falle i Loegr, llefydd arall yng Nghymru.

"Mae'n cael effaith fawr ar eu dyfodol nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rylee a Daniel yn poeni y gallai torri swyddi arwain at fwy yn gadael yr ardal

Mae'r safle yn "eiconig" meddai Daniel, a gafodd ei fagu yn Llansawel - dafliad carreg o Bort Talbot.

Mae'r gymuned wedi wynebu sawl ergyd dros y blynyddoedd, a'r gweithlu wedi crebachu'n sylweddol ers i 20,000 weithio yno ar ei anterth.

Roedd sawl ewythr a diweddar dad-cu Daniel wedi gweithio yno.

"Mae nain dal yn cofio yr effaith huge wnaeth e gael ar y gymdeithas ar y pryd," meddai.

I'r rheiny oedd yn obeithiol am yrfa yn y diwydiant, mae'n credu y bydd yna nawr fwy o gystadleuaeth am swyddi tebyg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia a Gwenan yn poeni am yr effaith ar y rheiny sydd eisiau mynd i faes STEM

Mae Gwenan, 17, yn dweud bod yna brinder cyfleoedd ar gyfer gwaith ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), ac yn poeni bydd pobl "ddim yn gallu mynd mewn i'r swyddi yna'n hawdd nawr".

Wrth gau dwy ffwrnais yn Tata, mae yna gynllun i adeiladu un newydd drydan i wneud dur mewn ffordd llai llygredig, ond gyda llai o weithwyr.

Mae Mali, 18, yn cytuno bod colli cymaint o swyddi yn glec sylweddol i'r ardal, ond mae'n gobeithio bydd yna gyfle am "fwy o swyddi gwyrdd".

"Fi'n credu bydd e'n gwella ein hamgylchedd yn yr hir dymor," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali yn gobeithio bydd yna gyfle am "fwy o swyddi gwyrdd"

Ond yn y tymor byr mae Rob Stewart, cadeirydd Dinas-rhanbarth Bae Abertawe ac arweinydd Cyngor Abertawe, yn ei gweld hi'n gyfnod anodd iawn.

Dywedodd bod y newyddion gan Tata yn ergyd drom iawn ac yn tanseilio'r gwaith sydd yn cael ei wneud i ddatblygu'r economi, a'r diwydiant dur yn gonglfaen i'r rheiny.

Pwysleisiodd bod cyfraniad pobl ifanc talentog yr ardal yn bwysig wrth ddatblygu sectorau eraill fel diwydiannau creadigol, digidol a gwyddorau bywyd.

"Wrth i'r cyfleoedd hynny ddod, sticiwch gyda ni, edrychwch ar y gyrfaoedd y gallech chi o bosib eu cael yn yr ardal a byddwn ni'n eich cefnogi i ddilyn y gyrfaoedd hynny yn y rhanbarth hwn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna lot o newidiadau ar y gweill o ran sgiliau gwyrdd," meddai Geraint Jones

Yng ngholegau'r ardal mae prentisiaethau'n cael eu cynnig yn Tata, a nifer o fyfyrwyr yn anelu at gael swydd yno.

Yn ôl Geraint Jones, pennaeth cynorthwyol grŵp colegau NPTC, mae angen i lywodraeth a'r sector addysg a hyfforddiant sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o gyfleoedd eraill.

"Mae yna lot o newidiadau ar y gweill o ran sgiliau gwyrdd," meddai.

"Mae buddsoddiad yn mynd mewn i'r freeport yn yr ardal yma, buddsoddiad yn mynd mewn i ddatblygu ynni gwynt… so gobeithio ni'n gallu helpu'r bobl ifanc i 'neud yn siŵr bod y sgilie 'da nhw i helpu yn y swyddi 'na yn y dyfodol."