Port Talbot: Tata'n cadarnhau cau ffwrneisi, gan golli 2,800 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae Tata Steel wedi cadarnhau y bydd yn cau ffwrneisi chwyth yng ngweithfeydd dur mwya'r DU ym Mhort Talbot.
Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd tua 2,800 o swyddi yn cael eu colli, gyda 2,500 o'r rheiny o fewn y 18 mis nesaf.
Bwriad y cwmni yw symud at ffwrnais drydan sy'n creu llai o lygredd, ond angen llai o weithwyr.
Dywedodd Tata ei fod wedi ystyried cynllun gan undebau i gadw un o ffwrneisi chwyth am gyfnod, ond y byddai'n ceisio "gwyrdroi degawd o golledion" gyda'r ffwrnais newydd.
Bydd troi at ddulliau cynhyrchu llai niweidiol i'r amgylchedd, meddai'r cwmni, yn "diogelu'r rhan fwyaf" o'i waith cynhyrchu yn y DU ac yn helpu'r wlad i fod yn hunangynhaliol.
Ychwanegodd y byddai'n creu 5m o dunelli metrig yn llai o garbon y flwyddyn, sy'n cyfateb i tua 1.5% o allyriadau carbon y DU.
Mae Tata, sydd â phencadlys yn India, yn cyflogi 4,000 o weithwyr ar hyn o bryd ym Mhort Talbot, ac mae'n dweud y bydd yn ceisio sicrhau bod cyn gymaint o'r diswyddiadau yn rhai gwirfoddol.
Mae yna addewid i neilltuo £130m ar gyfer cefnogi'r gweithwyr sy'n cael eu heffeithio, gan gynnwys taliadau diswyddo, rhaglenni cymunedol, hyfforddiant a chynlluniau chwilio am swyddi.
Daeth i'r amlwg ym mis Medi bod Llywodraeth y DU yn trafod cytundeb i roi £500m i Tata ar gyfer datgarboneiddio a diogelu dyfodol safle Port Talbot.
'Mae cynllun arall ar gael'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ar raglen Dros Ginio, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae heddiw yn ddiwrnod trwm a drwg i bobl ym Mhort Talbot, ond mwy na hynny mae'n ddifrifol i bobl ledled Cymru ac yn y Deyrnas Unedig, i golli'r diwydiant dur mewnol yn y Deyrnas Unedig.
"Os bydd cyfle i neud e, dwi eisiau perswadio Rishi Sunak i fynd yn ôl i'r bwrdd gyda Tata ac ailystyried adroddiad yr undebau, sy'n dangos mae ffordd wahanol i greu dyfodol i'r diwydiant dur ym Mhort Talbot, i gadw un o'r ffwrneisi i fynd tan bydd y ffwrnes drydan yn barod i weithio."
Pwysleisiodd ei fod yn cefnogi symud at gynhyrchu dur fwy gwyrdd, ond bod angen "trawsnewid mewn ffordd sy'n deg i bobl sy'n gweithio yno".
"Mae cynllun arall ar gael sy'n dod at yr un pwynt, ond yn neud e mewn ffordd sy'n rhesymol ac ymarferol i'r bobl leol," dywedodd.
"Mae'n rhaid creu llwybr at y dyfodol sy'n cadw'r capasiti i greu dur yma yn y Deyrnas Unedig, nid i ddibynnu bob dydd ar wledydd eraill. Ni wedi dysgu gwersi o'r rhyfel yn Wcráin pa mor fregus yw e i ddibynnu ar gadwyn gyflenwi o wledydd eraill."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dywedodd Rhif 10 nad oedd Mr Sunak ar gael i drafod y mater ddydd Gwener.
'Ergyd fawr i gymuned Port Talbot'
Mewn cyfweliad â'r BBC fe ddisgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies y newyddion fel "ofnadwy" ac "ergyd fawr i gymuned Port Talbot".
Dywedodd: "Ni ddim yn gallu stopio Tata rhag tynnu mas - ni wedi perswadio nhw i aros ac wedi achub 5,000 o swyddi yn y broses".
Er hynny, aeth ymlaen i ddweud y bydd swyddi a chyfleoedd newydd yn cael wrth i'r ffwrnais drydanol gael ei hadeiladu.
"Ni wedi dweud bod Port Talbot yn mynd i fod yn borthladd rhydd, mae hynny'n golygu manteision treth i annog i ddod i'r ardal, ac wrth gwrs mae gennym ni becyn o £100m."
Ychwanegodd mai ei flaenoriaeth yw'r rhai "sy'n cael redunancy. Dwi eisiau sicrhau bod pob un ohonyn nhw yn gallu cael hyfforddiant yn unrhyw beth maen nhw moyn i sicrhau bod nhw'n gallu cael swyddi yn y dyfodol".
'Fandaliaeth ddiwydiannol ar raddfa enfawr'
Mae'r undeb Unite yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu'n syth.
"Mae Unite yn barod i ddefnyddio popeth i amddiffyn gweithwyr dur ac ein diwydiant dur," dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Sharon Graham.
"Mae gyda ni ymchwil manwl yn dangos sut a pham y dylai Tata ehangu cynhyrchu dur yn y DU yn unol â galw cynyddol, nid torri'r gweithlu."
Fe feirniadodd llywodraeth Geidwadol San Steffan am "roi cannoedd o filiynau o bunnau i [Tata] ariannu eu cynllun i dorri swyddi... a rhoi mwy o fusnes i'w ffatrïoedd mewn gwledydd eraill fel India a'r Iseldiroedd".
"Rydym wedi sicrhau arian gan lywodraeth Lafur arfaethedig a allai wneud hynny," ychwanegodd. "Mae cynllun Tata i gau'r ffwrneisi chwyth, yn syml, yn fandaliaeth ddiwydiannol ar raddfa enfawr."
'Methu dychmygu Port Talbot heb ddur'
"Mae'n newyddion ofnadwy," dywedodd Rhidian Mizen, cyn-weithiwr a fu'n gweithio yn y gwaith dur am 38 o flynyddoedd.
"Mae miloedd o bobl o Forgannwg yn y gwaith dur, ond os nad oes cyflog yn dod mewn i'r tŷ, fydd dim byd yn dod mewn i'r dref. Bydd y lle yma fel tref ysbryd - ghost town.
"Dydw i ddim yn gallu dychmygu Port Talbot heb ddur. Dwi'n ofni beth sy'n mynd i ddigwydd yma."
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast: "Mae mor bwysig i gael dur ym Mhrydain o ran diogelwch cenedlaethol. Mae cannoedd o ffwrneisi chwyth allan yn China... bydd raid mewnforio dur nawr."
"Mae heddiw yn ddiwrnod eithriadol o anodd i Gymru," dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, gan gydymdeimlo gyda gweithwyr, is-gontractwyr a'u teuluoedd.
"Rwy' dal heb fy argyhoeddi nad oedd modd cadw un ffwrnais chwyth ar agor tra'n symud at y ffwrneisi arc... gan warchod llawer o swyddi yn y tymor byr i'r tymor canolig - mae angen egluro'n llawn pam na wnaeth y cwmni hynny."
Ond fe fynnodd bod miloedd o swyddi dur wedi eu diogelu yn sgil "y buddsoddiad uchaf erioed" gan lywodraeth Geidwadol y DU a bod "hanes dur Port Talbot ymhell o fod ar ben a'i ddyfodol cynaliadwy wedi ei sicrhau".
'Difodiant llwyr ein diwydiant dur'
Mae penderfyniad i fwrw ymlaen gyda diswyddiadau "yn gatastroffig", medd llefarydd economi Plaid Cymru, Luke Fletcher, sy'n galw am wladoli'r safle ym Mhort Talbot.
"Mae Cymru'n wynebu dyfodiant llwyr ei diwydiant dur," meddai'r AS sy'n cynrychioli'r rhanbarth sy'n cynnwys Port Talbot.
"Mae Llywodraeth San Steffan wedi gadael i'w diwydiant strategol allweddol yma i wywo."
Y DU, meddai, fydd yr unig wlad G20 nad sy'n cynhyrchu ei dur ei hun o ddeunydd crai, a ni ddylai anelu at economi wyrddach "fod ar draul gweithwyr hynod fedrus, ymroddgar".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2024