Undeb Rygbi Cymru yn gofyn am saib wrth ad-dalu benthyciad

  • Cyhoeddwyd
Richard Collier KeywoodFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Richard Collier-Keywood yn ymddangos gerbron Pwyllgor Chwaraeon y Senedd fore Mercher

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gyfnod o dair blynedd o saib wrth ad-dalu taliadau ar fenthyciad adferiad Covid.

Dywedodd cadeirydd yr Undeb y gallai newidiadau y mae'r sefydliad yn eu gwneud o ganlyniad i adroddiad annibynnol damniol i'r diwylliant yno olygu toriadau heb y saib.

Bu Richard Collier-Keywood a phrif weithredwr newydd URC, Abi Tierney, yn rhoi tystiolaeth ger bron Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon y Senedd fore Mercher.

Yn dilyn rhaglen ddogfen gan BBC Cymru y llynedd, fe wnaeth adroddiad annibynnol ganfod diwylliant gwenwynig o fewn URC.

Yn 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu benthyciad o £18m (ar delerau masnachol) i'r Undeb, ac fe gafodd hynny ei basio i'r pedwar tîm rhanbarthol.

Dywedodd Mr Collier-Keywood wrth y pwyllgor: "Roedden ni'n cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog [Dawn Bowden] mewn perthynas â'r adroddiad o'r adolygiad annibynnol, ac fe wnes i bwysleisio y byddai'n gymorth aruthrol i'r Undeb pe bydden ni'n cael ychydig o gyfle i gael ein gwynt.

"Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried eu safbwynt mewn perthynas â'r benthyciadau yna.

"Y rhesymeg y tu ôl i hynny yw ein bod yn credu bod angen cyfle i gael strategaeth newydd mewn lle, cael cyfle i osod llifau newydd o incwm ac i gael y budd o ychydig o'r arbenigedd masnachol sydd gennym bellach er mwyn canfod sefyllfa ariannol well i URC.

"Ond mae'n anodd gwneud hynny ar unwaith. Yr unig ffordd i wneud yw torri costau mewn sefydliad fel hyn, ac rwy'n credu y byddai'n drist torri rhai o'r pethau da sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd gan URC."

Pan gafodd y benthyciad ei gytuno, roedd y taliadau llog 2.25% uwchben graddfa sylfaenol Banc Lloegr o 0.5%.

Ond bellach mae'r taliadau 3.25% uwchlaw'r raddfa sylfaenol o 5.25% - cyfanswm o 8.5%.

Ychwanegodd Mr Collier-Keywood bod yr ad-daliadau'n cael "effaith ddifrifol iawn" ar y timau rhanbarthol - y Gweilch, Caerdydd y Scarlets a'r Dreigiau - gyda hyd at £2m y flwyddyn yn cael ei wario ar ad-daliadau a llog.

Mewn datganiad, dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae trafodaeth gychwynnol eisoes wedi digwydd, ac fe fyddwn ni'n ystyried y dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno."