O'r Rhyl i LA: Gyrfa Eleri Earnshaw â'r bêl gron

  • Cyhoeddwyd
Eleri EarnshawFfynhonnell y llun, Angel City FC

Chwarae pêl-droed yn America oedd wastad y freuddwyd i Eleri Earnshaw.

Hi bellach yw hyfforddwr cynorthwyol cyntaf tîm Angel City FC, tîm pêl-droed i ferched yn Los Angeles a gafodd ei gyd-sefydlu gan yr actores Hollywood, Natalie Portman.

Yma, mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol o'r Rhyl yn sôn am ei siwrnai o fod yr unig ferch ar y cae, i fod yng nghanol cynnwrf y gamp draw dros yr Iwerydd heddiw, a pham fod y dyfodol yn ddisglair i bêl-droed merched.

Yr unig ferch ar dîm y bechgyn

Roedd John, fy mrawd yn chwarae ac o'dd Dad o hyd 'di coachio, so dwi'n cofio mynd i un o training sessions John a jyst isho chwarae. Wedyn un diwrnod, 'nath Dad adael i fi chwarae yn yr un sesiwn â John.

O'n i'n chwarae efo'r hogiau, a dwi'n meddwl ei fod o wedi bod yn dda i fi; 'nath o ddysgu fi i fod yn gry' a chyflym. O'dd tîm fi yn brilliant, ond o'dd pob tîm o'n i'n chwarae yn erbyn yn deud rhywbeth fel 'you've got a girl playing'... tan i mi sgorio!

Doedd 'na ddim cyfleusterau o gwbl i genod. Pan o'n i'n wyth, naw, 10 oed, doedd 'na ddim role models. Dwi'm yn siŵr os oedd gennai ddiddordeb mewn chwarae'n broffesiynol, achos doedd 'na ddim i edrych fyny at - o'n i jyst yn mwynhau chwarae. Ges i ngofyn i chwarae i Gymru dan 14 pan o'n i'n 11.

Wedyn dwi'n cofio gweld rhywbeth ar y teledu am dîm USA yn 1999, pan 'naethon nhw ennill Cwpan y Byd. Dwi'n cofio gweld y dyrfa, a'r gêm... o'dd o'n hollol wahanol. O'n i tua 13/14, a dyna pryd nes i feddwl 'sa fo'n anhygoel i chwarae yn America!

Ffynhonnell y llun, Stuart MacFarlane
Disgrifiad o’r llun,

Eleri (rhes gefn, ail o'r dde) ar dîm merched Arsenal yn 2003, cyn iddi symud i chwarae yn America

Gwisgo'r crys coch

'Nes i chwarae i Gymru o 17 oed tan tua 25/26 a chael 21 cap. Dwi methu ei ddisgrifio fo rili; mae o reit emosiynol a lot o hwyl.

O'dd 'na gôl 'nes i sgorio yn erbyn Slovenia ar gyfer yr European Qualifyers. O'dd o'n 0-0 ac ar 88 munud, ges i gôl hwyr o tu allan y bocs; game-winning goal, a lot o gynnwrf! Dyna'r un sy'n sticio allan i mi.

Pan dwi'n edrych nôl rŵan, doedd 'na ddim lot o gyfleusterau ar gyfer tîm Cymru. O'dd angen i ni dalu ein ffordd ein hun i gael at y canolfannau hyfforddi. O'dd y cit yn hen... hen cit y dynion dwi'n meddwl. O'dd pawb jyst yn mwynhau chwarae, ond yn sylweddoli 'ddylia ni gael mwy'. O'dd o'n paradocs rili - mwynhau chwarae dros Gymru, ond isho i bethau fod yn well hefyd.

Ffynhonnell y llun, Eleri Earnshaw
Disgrifiad o’r llun,

Cynrychiolodd Eleri dîm Cymru dan 19 oed yn erbyn Estonia yn 2001

Croesi'r Iwerydd

Doedd 'na ddim cynghrair broffesiynol ym Mhrydain ar y pryd. Emma Hayes, coach Chelsea rŵan, oedd coach coleg fi yn America. Roedd hi'n arfer chwarae i Arsenal, a daeth hi drosodd rhywbryd i sesiwn hyfforddi a 'naeth hi gael gair efo fi ar ôl y sesiwn a gofyn 'tisho dod i chwarae yn America?'. Ac o'n i'm yn gwybod lot am y system, jest mod i isho chwarae yn America so 'nes i ddeud 'ia, grêt!'

O'dd hwnna'n brofiad gwych, ond ar ôl i mi raddio, o'n i isho chwarae'n broffesiynol fama, ond 'nath y gynghrair colapsio. O'dd y buddsoddiad wedi bod yn anferthol ond doedd o ddim yn gynaliadwy. O'dd y perchnogion wedi rhoi lot o bres i mewn ond doedd 'na ddim elw achos lot o bethau; odd y timau ddim yn chwarae mewn feniws digon mawr, doedd 'na ddim lot o farchnata, dim tv deals...

Ffynhonnell y llun, Eleri Earnshaw
Disgrifiad o’r llun,

Eleri yn chwarae pêl-droed yn ystod ei chyfnod y Iona College yn Efrog Newydd yn 2004

'Nes i ddechrau hyfforddi. O'n i dal yn chwarae ar y lefel ucha' o'n i'n gallu ei ffeindio, o'dd reit uchel, chos o'n i ar dimau efo'r chwaraewyr proffesiynol, oedd efo nunlla i chwarae.

Mae'r gynghrair broffesiynol yma rŵan wedi bod yma ers tua 10 mlynedd, a mae o'n gynaliadwy; 'neith y gynghrair yma bara'.

Hyfforddi ac Angel City FC

Mi oedd 'na hiraeth [am y chwarae]... i fod yn onest, tan tua dwy flynedd yn ôl, pan 'nes i ddechrau hyfforddi'n broffesiynol. Dwi'n meddwl, yn edrych nôl, jyst gneud rhywbeth efo pêl-droed ar y lefel ucha' yn y byd oedd y nod, so pan 'nes i ddechrau hyfforddi yn y wlad yma mewn cynghrair broffesiynol, doedd yna ddim gymaint o hiraeth ddim mwy.

Mae yna pecking order o ran hyfforddwyr cynorthwyol. Mae'r first assistant fel diprwy i brifathro. Lot o hyfforddi, lot o gynllunio, helpu efo rheoli staff, cynnal perthynas efo'r chwaraewyr a'r staff, recriwtio... mae o reit eang.

Ffynhonnell y llun, Angel City FC
Disgrifiad o’r llun,

Eleri (pumed o'r dde) gydag aelodau eraill o'r staff hyfforddi a rhai o chwaraewyr Angel City FC wedi tymor gyntaf lwyddiannus, yn 2022

O'dd Natalie [Portman], Julie [Uhrman] a Kara [Nortman] - y tri prif fuddsoddwr 'nath ddechrau clwb Angel City FC - isho gneud o'n wahanol i bob clwb arall. O'r dechrau, ethos y clwb ydi bod yn glwb cystadleuol, sy'n gwneud elw, a bod y gymuned yng nghanol popeth 'dan ni'n ei 'neud.

Mae 10% o gyd o elw ni, 'dan ni'n ei roi nôl mewn i'r gymuned. Cyn i ni ddechrau'r clwb, doedd yna ddim lot o elw yn gêm y merched, ond 'dan ni 'di gneud yn siŵr bo' 'na lot fel bod ni'n gallu rhoi yn ôl i'r gymuned yn LA. 'Dan ni'n gneud lot efo women's shelters, 'dan ni'n rhoi lot o brydau bwyd i bobl digartref, lot o bethau efo'r gymuned LGBTQ, a phlant yn yr ardal.

Dyfodol disglair?

Mae'r agwedd tuag at bêl-droed merched yn y wlad yma wedi bod yn positif ers y dechrau, achos eu bod nhw wedi bod yn llwyddiannus. Pan mae'r gêm yn cael mwy o spotlight, mae mwy o bobl yn watsho ac efo diddordeb yn y gêm. Mae 'na fwy o chwaraewyr efo noddwyr a pethau fel'na - so maen nhw ar y teledu ac ar Instagram mwy. Mae pres ac o lle mae pres yn dod yn gwneud gwahaniaeth masif.

O'n i'n ôl yng Nghymru 'Dolig yma, a 'nes i fynd i gêm Cymru v Yr Almaen, ac o'dd hi'n hyfryd gweld tyrfa reit fawr yn Abertawe - a gweld bod agwedd pobl 'di newid lot ers i mi fod yna. Teuluoedd, tadau, hogiau yn gwisgo crysau Cymru... o'dd o'n brilliant.

Ffynhonnell y llun, Angel City FC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri â'i bryd am fod yn brif hyfforddwr rhyw ddydd...

Dwi ar hyn o bryd yn gneud PhD mewn Seicoleg Perfformiad. Gobeithio 'neith o fi yn hyfforddwr gwell, ac ella gneud fi'n fwy appealable i fod yn brif hyfforddwr hefyd.

Dwi'n rili mwynhau fy swydd i ar hyn o bryd fel y cynorthwy-ydd cyntaf, mwy yn y weeds na head coach, a llai o bwysau - sy'n grêt tra dwi'n gneud y PhD. Ond ella prif hyfforddwr unai yn y wlad yma neu ym Mhrydain rhywbryd... A 'swn i'n licio gweithio efo timau Cymru yn y dyfodol.

Dwi'n mwynhau o fama, ond 'sa'n ddiddorol mynd yn ôl.

Hefyd o ddiddordeb: