Cymro Caersws wnaeth reoli tîm pêl-droed UDA
- Cyhoeddwyd
"Roedd Phil Woosnam yn arloeswr pêl-droed go iawn yn yr Unol Daleithiau ym mhob ystyr o'r gair ac mae ei gyfraniad i'r gamp yn y wlad hon yn anfesuradwy."
Dyna eiriau Comisiynydd y North American Soccer League, Bill Peterson, pan fu farw'r Cymro Phil Woosnam yn 80 oed yn 2013.
Mae Gareth Bale a Jess Fishlock, dau o chwaraewyr mwyaf y gamp o Gymru - sy'n chwarae yn Los Angeles FC a OL Reign - yn sicr wedi codi proffil Cymru yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar.
Ac wrth gwrs, mae enw Cymru bellach tipyn fwy cyfarwydd yn y wlad ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds ddod yn berchnogion ar glwb pêl-droed Wrecsam.
Ond wrth i Gymru a'r Unol Daleithiau herio'i gilydd ar gae pêl-droed am y trydydd tro yn unig ar 21 Tachwedd, mae'n werth rhoi sylw i Gymro o Gaersws wnaeth gyfrannu cymaint i bêl-droed yn y wlad ar draws yr Iwerydd.
Pwy feddyliai y byddai pêl-droediwr o ganolbarth Cymru, a oedd yn gapten ar dîm Prifysgol Bangor wrth astudio ffiseg, wedi rheoli tîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau a'i ei gwneud hi i'r US Soccer Hall of Fame?
Pwy oedd Phil Woosnam?
Cafodd Phil Woosnam ei eni ym mhentref Caersws ym Mhowys yn 1932. Roedd o'n gefnder i'r golffiwr Ian Woosnam ac yn nai i'r pêl-droediwr Max Woosnam. Chwaraeodd dros Gymru pan oedd yn yr ysgol cyn mynd ati i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Bangor lle buodd yn gapten ar y tîm pêl-droed.
Tra'n filwr, chwaraeodd gyda'r enwogion Duncan Edwards a Eddie Colman o Manchester United; enillodd 15 cap amatur i Gymru ac fe chwaraeodd i ail dîm Manchester City.
Gyda'r freuddwyd o gael cytundeb proffesiynol yn teimlo'n uchelgeisiol, symudodd Woosnam i Lundain i ddilyn gyrfa fel athro mathemateg a ffiseg wrth chwarae i Sutton United a Leyton Orient. Yn 1955 cafodd ei bleidleisio yn chwaraewr amatur y flwyddyn yn Lloegr, ond tair blynedd yn ddiweddarach cymrodd pethau dro newydd.
Er na chafodd Phil Woosnam ei enwi yng ngharfan Cwpan y Byd Sweden gan Jimmy Murphy, roedd 1958 yn flwyddyn fawr i'r llanc 26 oed o Gaersws. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ar ddiwedd y flwyddyn a rhoddodd y gorau i fod yn athro yn Ysgol Uwchradd Leyton Orient a mynd i chwarae pêl-droed yn broffesiynol, o'r diwedd, i West Ham United.
Sgoriodd 29 gôl mewn 138 gêm i'r clwb o Lundain cyn gadael am Aston Villa yn 1962, lle sgoriodd 24 mewn 106 gêm. Roedd yn adnabyddus am fwydo goliau i ddau ymosodwr enwog o Loegr: Malcolm Musgrove o West Ham a Tony Hateley yn Aston Villa.
Ond yn 1966 roedd pennod newydd ar y gweill i Phil Woosnam, a hynny ar draws môr yr Iwerydd yn yr Unol Daleithiau.
Y Freuddwyd Americanaidd
Mae Phil Woosnam yn cael ei weld fel ffigwr hynod bwysig yn natblygiad pêl-droed modern yn yr Unol Daleithiau.
Er nad oedd pêl-droed yn boblogaidd yn y wlad yn ystod yr 1960au, mi benderfynodd fynd wedi'r cwbl gan ymuno a'r Atlanta Chiefs fel chwaraewr reolwr. Roedd hi'n gam dewr i Woosnam wrth iddo arwain y clwb mewn cynghrair answyddogol, sef y National Professional Soccer League.
Ond roedd newid ar droed yn yr Unol Daleithiau, fel y gwelodd yntau, ac yn 1968 daeth y gynghrair yn ran o FIFA ac o ganlyniad sefydlwyd y North American Soccer League (NASL). Enillodd yr Atlanta Chiefs y gynghrair yn ei flwyddyn gyntaf a cafodd Woosnam ei enwi yn Hyfforddwr y Flwyddyn.
Yn sgil hynny daeth enw'r Cymro yn un adnabyddus yn y byd pêl-droed yno ac o ganlyniad fe ddaeth yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol yn 1968. Daeth ei gyfnod i ben ar ôl blwyddyn pan, yn 1969, fe gafodd ei apwyntio yn gomisiynydd ar yr NASL.
'Angerdd'
Mi dyfodd y gynghrair yn aruthrol o dan reolaeth Woosnam - o bum tîm i 24 erbyn 1978 - a chroesawyd enwau anferth megis Pelé, Franz Beckenbauer, Johan Cryff, Giorgio Chinaglia, Gerd Müller a Bobby Moore iddi. Daeth y gynghrair yn un hynod boblogaidd ac roedd pêl-droed wedi cyrraedd tir newydd yn y wlad.
"Fe aeth â phêl-droed i ddyfroedd newydd a thrwy ei angerdd, fe gariodd y gêm ar ei ysgwyddau am flynyddoedd," meddai Bill Peterson wrth y BBC yn 2013.
Mae par esgidiau a chrysau Brasil a New York Cosmos oedd yn berchen i Pelé i'w darganfod ar wal Clwb Rygbi Caerfyrddin, wnaeth gyrraedd yno mewn parsel gan Phil Woosnam.
Bu Woosnam yn y swydd am 13 mlynedd tan i bleidlais fynd yn ei erbyn yn 1982 am or-ddatblygu'r gynghrair. Yn 1984 daeth yr NASL i ben ond mi arhosodd y Cymro yn driw i ddatblygiad pêl-droed America.
Fe ddaeth yn ddinesydd Americanaidd ac yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Marchnata US Soccer fe chwaraeodd ran fawr yng nghais llwyddiannus y wlad i gynnal Cwpan y Byd 1994, lle plannwyd yr hadyn ar gyfer creu prif gynghrair pêl-droed y wlad heddiw, y Major Soccer League.
Cymro Caersws ymhlith y goreuon
Yn 1997 rhoddwyd enw Phil Woosnam yn yr US National Soccer Hall of Fame a'r Georgia Soccer Hall of Fame sy'n sicrhau bod cysylltiad pêldroediog Cymru a'r Unol Daleithiau yn dyddio mor bell yn ôl a'r 60au.
Yn wir, nid pawb all dweud eu bod wedi bod yn athro gyda gradd mewn ffiseg, wedi disgwyl tan yn 26 oed i gael cytundeb proffesiynol, wedi rheoli tîm cenedlaethol, ac wedi cael cymaint o ddylanwad ar bêl-droed mewn un wlad.
Pwy a ŵyr, tybed a fyddai Cymru yn chwarae'n erbyn yr Unol Daleithiau yng Nghwpan y Byd Qatar heblaw am y Cymro o Gaersws?