Pasio cam cyntaf mesur allai weddnewid Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer ehangu'r Senedd wedi pasio'r cam cyntaf mewn pleidlais nos Fawrth.
Fe wnaeth aelodau o'r Senedd gefnogi deddfwriaeth newydd i ychwanegu 36 o wleidyddion, gyda 39 AS o blaid ac 14 yn erbyn.
Fe wnaeth Llafur Cymru addo diwygio'r system fel rhan o'u maniffesto yn 2021.
Mae'r mesur hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Mick Antoniw y bydd y system newydd o ethol - a elwir yn "rhestr gaëedig" - "yn gwella democratiaeth ac yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif".
Nid dyma'r bleidlais olaf, gyda chamau a thrafodaethau pellach i ddod.
Bydd rhaid i ddwy ran o dair o Senedd Cymru gefnogi'r ddeddfwriaeth er mwyn iddi ddod yn gyfraith - ond mae hynny'n debygol gyda Llafur a Phlaid yn cefnogi'r cynlluniau.
Mwy o wleidyddion
Mae Mesur Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn awgrymu:
Ehangu'r Senedd o 60 i 96 o aelodau;
Bydd 32 etholaeth newydd yn senedd San Steffan yn cael eu paru i ffurfio 16 o etholaethau Senedd Cymru sydd eto i'w pennu;
Fe fydd 6 aelod etholedig ar gyfer pob un o'r 16 etholaeth newydd;
Bydd pob AS yn cael ei ethol drwy'r hyn a elwir yn "rhestr gaëedig". Bydd y pleidiau'n enwebu ymgeiswyr yn eu trefn ddewisiedig a bydd etholwyr yn cael UN bleidlais ar gyfer plaid yn hytrch nag unigolyn;
Bydd y canlyniad yn cael ei benderfynu drwy ffurf o gynrychiolaeth gyfrannol. Ar hyn o bryd mae gan bawb DDWY bleidlais - un i unigolyn ac un i blaid;
Bydd rhaid i ymgeiswyr ac ASau fyw yng Nghymru;
Bydd etholiadau Senedd bob pedair blynedd yn hytrach na bob pump;
Fe fydd adolygiad o'r diwygiadau ar ôl 2026.
Bu BBC Cymru yn siarad gyda phedwar AS am eu barn o blaid neu yn erbyn y cynlluniau.
MICK ANTONIW: AS Llafur Pontypridd a'r Cwnsler Cyffredinol (prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru)
Mae'r achos o blaid yn glir. Mae'r Senedd wedi newid y tu hwnt i bob dirnadaeth ac mae dirfawr angen cynyddu ei maint er mwyn cyflawni ei dyletswyddau.
Does byth amser da i ddweud ein bod angen mwy o wleidyddion, ond mae yna amser i ddweud fod rhaid i ni wneud rhywbeth i warchod democratiaeth a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei "werthu" i'r cyhoedd.
Mae rhestrau caëedig yn gyfaddawd. Ond mae yna ystod eang o farn am sut ddylai'r system fod a does dim unfrydedd.
Bydd hon yn system lawer mwy cynrychioliadol na'r un cyntaf i'r felin ac fe fydd yn dileu'r system ranbarthol fel y bydd bob pleidlais yn cyfri.
DARREN MILLAR: AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd (ac aelod o'r pwyllgor sy'n craffu'r mesur)
Mae hwn yn gam yn ôl go iawn i rym y bobl ac atebolrwydd uniongyrchol. Dyw e'n dangos dim parch i'r cyhoedd ac mae'n rhoi'r grym dros pwy sy'n cael ei ethol i'r Senedd yn nwylo arweinwyr y pleidiau.
Yr hyn gewch chi yw ymgeiswyr ac ASau yn perfformio i'r galeri o'u plaid eu hunain.
Hefyd dyw pobl ddim am gael mwy o wleidyddion - mae'n debyg na fyddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle bydd hynny'n digwydd - ond mae gennym ddyletswydd fel cynrychiolwyr etholedig i barchu'r farn yna, yn wahanol i'r pleidiau eraill.
Mae awgrymu na allwn ni gael craffu effeithiol oherwydd maint y Senedd yn nonsens - edrychwch ar y gyfraith rhoi organau, y gwaharddiad ysmygu a bagiau plastig.
Mae angen refferendwm ar hyn am ei fod yn newid mor sylweddol. Mae dileu'r system cyntaf i'r felin heb gymeradwyaeth glir gan y cyhoedd yn gam erchyll.
Rwy'n cytuno y dylen ni gael etholiad bob pedair blynedd ac y dylai ymgeiswyr fyw yng Nghymru, ond mae angen i'r rheolau fod yn llymach na dibynnu ar y gofrestr etholiadol yn unig.
HELEDD FYCHAN: AS Plaid Cymru Canol De Cymru (ac aelod o'r pwyllgor)
Mae angen mwy o wleidyddion arnom. Roeddwn i'n aelod o Gyngor Rhondda Cynon Taf lle'r oedd gennym 75 o gynghorwyr ac eto dim ond 60 Aelod Senedd sydd yna. Mae'n anodd dros ben i graffu [ar fusnes y Senedd] yn iawn.
Mae maint yr etholaethau newydd yn destun pryder, ond mae gan bawb bum AS ar hyn o bryd - un i'r etholaeth a phedwar rhanbarthol. O leiaf fe fydd pawb yn gyfartal o dan y drefn newydd sy'n gwneud cyfathrebu dipyn haws.
Rwy'n AS rhanbarthol ac mae'n gallu bod yn anodd i bobl ar hyn o bryd i wybod pwy sy'n eu cynrychioli a phwy y dylen nhw ddal i gyfrif. Mae'r adolygiad ar ôl 2026 yn golygu y bydd cyfle i edrych eto ar hyn.
Ar fater y rhestrau caëedig fe fydd yr adolygiad yn ddiddorol i mi. Yn bersonol rwy'n gefnogol i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (lle mae pleidiau'n cyhoeddi rhestr ond pleidleiswyr sy'n penderfynu pa ymgeisydd sydd orau ganddynt). Ond o leia' ry'n ni'n cael gwared â'r system leia' ddemocrataidd, sef y cyntaf i'r felin, a chael mwy o gynrychiolaeth gyfrannol.
MIKE HEDGES: AS Llafur Dwyrain Abertawe
Fedrai ddim gweld unrhyw fantais o'r system sy'n cael ei chynnig. Mae'n mynd i greu etholaethau mawr iawn. Fe allech chi gael un sy'n ymestyn o Frynaman Isaf neu o Wauncaegurwen i'r ffin gyda Lloegr yn Sir Fynwy neu i'r môr yng Ngheredigion - mae hynny bron â bod yn rhy fawr i bobl deimlo'n rhan ohoni.
Rwy'n credu y bydd chwe AS yn drysu pobl. Gallwn i gnocio drws a dweud "Helo... Mike Hedges ydw i a dwi'n eich cynrychioli yn y Senedd," ac fe allai pobl ateb "O na dydych chi ddim... yr wythnos diwethaf fe wnaeth rhywun arall alw yn dweud mai nhw oedd yn fy nghynrychioli yn y Senedd"!
Rwy'n credu y byddai mynd i lawr i dri AS mewn 32 etholaeth yn llawer gwell ac yn gosod pobl yn agosach at y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli.
Rhestrau caëedig? Rwy'n credu eu bod nhw'n rhoi'r grym i gyd i bleidiau gwleidyddol neu arweinwyr pleidiau a fydd yn dewis pa mor uchel ar y rhestr y bydd pob ymgeisydd. Bydd yn hybu 'party-think' a 'group-think'.
Mae angen digon o ASau i graffu ar y ddeddfwriaeth, ond mae'n rhaid i ni werthu hynny i'r cyhoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022