Banc HSBC yn gwrthod siec y 'Parchedig' o Fangor

  • Cyhoeddwyd
Dafydd JobFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dafydd M Job nad yw'n hoff o deitlau ond mae'r gair 'Parch' wedi bod ar ei gyfrif ers blynyddoedd lawer

Mae gweinidog o Fangor yn dweud bod banc HSBC wedi gwrthod derbyn siec i'w gyfrif am ei bod yn cynnwys y gair 'Parchedig'.

Dywedodd y Parchedig Dafydd M Job ei fod wedi arfer talu sieciau drwy ap ffôn yn iawn, ond bod y banc bellach "ddim yn derbyn sieciau â'r gair 'Parchedig' am nad yw hwnnw yn rhan o'r enw swyddogol sydd ar y cyfrif".

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Dwi wedi cael gwybod gan y banc heddiw nad ydyn nhw'n derbyn y siec am nad yw eu cyfrifiaduron yn adnabod y gair Parchedig fel teitl ac maen nhw'n mynnu nad i fi roedd y siec wedi ei thalu."

Mae HSBC wedi cael cais am sylw.

'Rhwystredig'

Ychwanegodd Mr Job: "Dyw hyn ddim wedi digwydd o'r blaen ond mae'n debyg fod yna newid wedi bod yn y ffordd y mae cyfrifiaduron yn adnabod enwau. Mae'r cyfan yn reit rhwystredig i ddweud y gwir.

"Petai'r bobl oedd yn fy nhalu wedi ysgrifennu Parch - fe fyddai hynna wedi bod yn iawn gan mai'r Parch Dafydd M Job sydd ar y cyfrif.

"Cofiwch dwi'n casáu unrhyw deitl ond mae e wedi bod yna ers blynyddoedd pan roedd teitlau yn llawer mwy pwysig a dwi wedi bod gyda'r un banc ers blynyddoedd lawer.

"Yn y gorffennol dwi wedi cael fy ngalw yn 'Parch' gyda'r ynganiad Saesneg ar y ffôn gan mai dyna roedd y person yn credu oedd fy enw i!"

Ffynhonnell y llun, Joe Giddens

Dywedodd Mr Job ei fod wedi mynd i'r banc fore Mawrth i geisio datrys y broblem ac mae'n ymddangos y bydd y banc yn fodlon derbyn 'Parchedig' yn y dyfodol, ond dim ond i'w gyfrif ef yn unig.

"Gan nad yw'r cyfrifiaduron newydd yn adnabod y gair Parchedig fel teitl fe fydd unrhyw weinidog arall na sydd â'r gair Parchedig ar ei gyfrif yn cael trafferth - dyw'r gair 'Parch' ddim yn 'neud y tro."

Dywed Mr Job mai llythyr Saesneg a gafodd i'w hysbysu am fethiant y cyfrifiaduron i sganio'r siec, a'i fod ef fel llawer arall yn siomedig bod llinell Gymraeg y banc wedi dod i ben.

"Dwi'n cydnabod bod dim lot o ddefnydd i'r llinell ond mae'n siom fod banc sy'n gwneud cymaint o elw ddim yn darparu gwasanaeth llawn ar gyfer eu cwsmeriaid," meddai.

Yn y gorffennol mae llefarydd ar ran HSBC wedi dweud eu bod "wedi ymroi i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg" ond bod rhaid cyflwyno newidiadau oherwydd "niferoedd isel iawn" y galwadau i'r gwasanaeth ffôn.