Mwy o bobl ifanc yn ymwrthod rhag yfed alcohol
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Emily Williams, 26, benderfynu rhoi'r gorau i yfed alcohol ddwy flynedd yn ôl.
"O'n i jest yn teimlo fel o'n i 'di diflasu bach ar yfed gymaint," meddai'r cynorthwyydd iechyd ym Mangor.
"Doeddwn i ddim yn ddibynnol arno fe, ond falle yn seicolegol ychydig. O'n i'n ffeindio fe yn haws i gymdeithasu efo alcohol - o'n i'n teimlo yn fwy hyderus".
Yn ôl ffigyrau diweddar gan YouGov dyw bron i 40% o bobl rhwng 18 a 24 oed ddim yn yfed unrhyw alcohol o gwbl, gyda'r genhedlaeth iau yn yfed mwy o gwrw di-alcohol nag unrhyw genhedlaeth arall.
Mae Emily yn mwynhau "deffro efo mwy o egni" ac yn dweud i'r penderfyniad "drawsnewid" ei bywyd.
"I fi y peth gorau yw'r hunan hyder, just o ran unwaith fi'n penderfynu neud rhywbeth nawr dwi'n gwybod 'na i sticio ato fe.
"Pryd o'n i'n yfed, doeddwn i ddim yn 'neud lot o chwaraeon, wedyn nes i ddechrau rhedeg a hyfforddi ar gyfer marathon."
I Emily, sy'n "teimlo bach o anxiety weithiau" ac sydd ag ADHD, ma'r penderfyniad i roi'r gorau i yfed "wedi gwella fy iechyd meddwl".
Mae Cynwal Ap Myrddin yn fyfyriwr ail flwyddyn ym mhrifysgol Caerdydd, ond dywedodd nad yw ef yn bwriadu cefnu ar alcohol.
"I fi a fy ffrindiau, yn bersonol, dwi'm yn meddwl bod yr un ohonan ni wirioneddol wedi meddwl rhoi'r gorau iddi, dim ond ella pan ma'r student loan yn mynd yn brin ddiwedd tymor!" meddai.
Yn ôl Gwenan Jones, sydd hefyd yn fyfyriwr yn ei hail flwyddyn yng Nghaerdydd, mae hi'n "meddwl am dorri lawr trwy'r amser ar ôl noson allan a dweud wrth fy hunan bod fi byth mynd i yfed 'to, ond fi byth wedi".
"Fi'n joio mynd mas a yfed".
Ond er nad yw bywyd cymdeithasol Betsan Elias yn ddim gwahanol i'w chyd-fyfyrwyr, mae'n dweud ei bod "pretty much yn sobor".
"Ma' lot well 'da fi mynd mas heb yfed. Fi'n teimlo lot mwy mewn rheolaeth o siwt fi'n teimlo a be fi'n neud a fi just lot hapusach," meddai.
Mae Bestan Grug Campbell o'r farn "bod pobl yn fwy agored nawr i'r syniad bod pobl ddim isie yfed neu ddim ishe mynd mas" ond "ma' falle dal bach o stigma a ni'n gweld e falle ar rai nosweithiau allan".
Mae nifer y bobl ifanc sydd ddim yn yfed alcohol yn "ddiddorol iawn", yn ôl Andrew Misell, cyfarwyddwr Cymru elusen Alcohol Change UK.
"Mae'n debyg fod pobl ifanc dyddie' hyn yn gwybod mwy am iechyd corff a meddwl ac yn meddwl mwy am hynny," meddai.
Mae hefyd yn credu y gall y ffaith bod mwy a mwy o bobl yn cymdeithasu ar-lein gyfrannu at y newid yma ymysg pobl ifanc.
"Dyw cymdeithasu ar-lein ddim yn dibynnu ar alcohol fel mae cymdeithasu wyneb yn wyneb," meddai.
"Ond hefyd, mae'r gymdeithas yn fwy amrywiol heddiw, felly mae gan bobl wahanol resymau dros beidio yfed, fel crefydd."
Gyda chwrw di-alcohol yn boblogaidd iawn ymysg pobl ifanc, mae Mr Misell am weld tafarnwyr a pherchnogion clybiau nos yn "deall eu cwsmeriaid yn well" a chynnig diodydd di-alcohol "fel eu bod nhw'n aros ar y safle a'n rhoi arian yn y til".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2023