'Pwysig cyfaddef alcoholiaeth,' medd dyn o Dregaron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
HughFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hugh, a oedd yn ŵr busnes, bod y dyfodol yn edrych yn llawer gwell wrth iddo gael triniaeth a rhannu profiad

"Y peth gorau 'wi wedi 'neud erioed yw cyfaddef, o'r diwedd, bod gen i broblem alcohol a 'wi'n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn helpu eraill," medd Hugh o Dregaron.

Dywed ei fod yn awyddus iawn i rannu ei brofiad er lles eraill ac yntau wedi cuddio ei ddibyniaeth ar alcohol am fisoedd.

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 45% o ddynion a 34% o ferched yn yfed mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell, dolen allanol, a bod alcohol yn gyfrifol am oddeutu 1,500 o farwolaethau yng Nghymru y flwyddyn.

"Roeddwn i'n cwato'r cwbl rhag fy nheulu, fy mhartner ar y pryd a fi fy hunan, a fi'n ymddiheuro'n fawr iawn iddyn nhw am bopeth - am y twyllo a'r holl gelwyddau," meddai Hugh.

Mae e bellach yn cael triniaeth yng Nghanolfan Brynawel ger Pen-y-bont ar Ogwr, a dywed bod y therapi yno a siarad am ei brofiadau yn cynnig dyfodol "llawer gwell".

"Doeddwn i byth yn meddwl y byddai gen i broblem alcohol - ie, fi o bawb," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

Ar ddiwedd mis codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion, dywed ei bod yn hynod o bwysig siarad a rhannu baich.

Dywed prif swyddog gweithredol Canolfan Brynawel, Sue Gwyn, fod y galw am eu gwasanaethau ar gynnydd a bod ariannu triniaethau pobl yn holl bwysig.

'Colli cymysgu â phobl'

Drwy gydol ei oes mae Hugh, sy'n 60, wedi bod yn hynod weithgar, ond ar ddechrau 2020 daeth tro ar fyd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Hugh roi'r gorau i'w fusnes llaeth yn ystod y cyfnod clo

"Fuodd Dad farw ddechrau 2020 ac fe effeithiodd hynny yn fawr arna i," meddai.

"Ches i ddim cwnsela gan i Covid ddod, ac yna yn fuan ar ddechrau'r cyfnod clo fe benderfynais ddod â'r rownd laeth i ben - busnes y teulu a busnes ro'n i wedi bod ynghlwm â hi ers dros 40 mlynedd.

"Ro'dd Mam yn cael triniaeth bryd hynny hefyd a doeddwn i ddim am beryglu ei hiechyd hi.

"Yn sydyn ro'dd y swydd o'n i wedi bod yn ei gwneud o 03:00 y bore tan 18:00 ddim yna.

"Ro'n i'n colli cymysgu gyda phobl a do'dd dim lot o gwmni - a dyna ddechrau ar yr alcohol. Wisgi bach i ddechrau ac yn fuan aeth un drinc yn ddau a dau yn dri nes bo' fi'n yfed potel.

"Cwato poteli wedyn, rhaffu celwyddau a becso dim am neb. Mae'r alcoholig yn dda iawn am ddweud celwydd - i fi, y cyfan yn arwain at dor perthynas, colli trwydded yrru yn sgil triniaeth detox ac anghrediniaeth bo fi wedi gallu 'neud y fath beth.

"A'th e'n drech na fi heb i fi feddwl - ac wedyn wrth gwrs mae rhywun yn mynd i'r stage withdrawal pan yn trio rhoi'r gorau i yfed - mae'n deimlad ofnadwy.

"Chi ffaelu byw gydag alcohol na hebddo pan mae hynny'n digwydd."

'Wedi dysgu lot'

Wedi iddo gael dau drawiad ar ei galon yn Ebrill eleni - un ohonyn nhw bron yn angheuol, mae Hugh bellach yn cael cymorth mewn canolfan arbenigol ym Mhen-y-bont a dyw e ddim wedi yfed ers hynny.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Brynawel
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hugh fod canolfan Brynawel yn Llanharan yn ei baratoi'n dda ar gyfer y dyfodol

"Fi wedi dysgu lot, ond y peth pwysicaf yw rhannu profiad a siarad," meddai.

"O'n i'n cwato'r ffaith bo' fi'n ddibynnol ar alcohol - yn dweud celwydd wrth fy nheulu i ddechrau ac yna yn twyllo pobl eraill.

"O'n i'n meddwl nad oedd neb yn sylwi, ond ro'n i'n prynu'r alcohol yn lleol ac yn gwario ffortiwn.

"Pan es i'r ysbyty gyntaf yn ystod y cyfnod o geisio rhoi'r gorau iddi ro'n i'n dweud wrth bawb bo fi wedi cwympo achos y diabetes.

"Mae dod yma i ganolfan rehab Brynawel wedi newid fy mywyd i."

'Y ganolfan wedi fy achub'

Mae lle i ryw 20 o bobl aros ym Mrynawel yn Llanharan, ac ers i'r ganolfan agor yn y 1970au mae wedi rhoi cymorth i ddegau ar ddegau o gleifion - y mwyafrif wedi bod yn ddibynnol ar alcohol ond nifer yn gaeth i gyffuriau.

Mae'r rhan fwyaf yn aros yn y ganolfan am 16 wythnos ac mae'r pwyslais ar therapi ymddygiadol gyda sesiynau grŵp a sesiynau un i un.

Dywed y prif swyddog gweithredol, Sue Gwyn, bod y galw am eu gwasanaethau wedi cynyddu'n ddirfawr wedi'r cyfnod clo a bod pobl yn llawer iawn salach pan maen nhw'n cyrraedd.

"Ni'n delio â rhyw 70 o gleifion y flwyddyn ac mae'r galw am ein gwasanaeth yn llawer mwy - cynlluniau gofal rehab Llywodraeth Cymru ac arian awdurdodau lleol sy'n talu am driniaeth y rhan fwyaf o bobl ac mae'r cyllid yna yn holl bwysig.

"Fe fydden i'n hoffi ehangu ein gwasanaeth drwy sicrhau ôl-gofal gwell i'r rhai na sy'n byw yn agos - pobl fel Hugh."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r masgiau yn dangos gwedd allanol Hugh yn ystod ei gyfnod o yfed, a sut oedd e'n teimlo tu mewn

"Cyn i fi ddod yma ro'n yn meddwl bod rehab yn rhyw fath o garchar - ac yn credu y byddwn yn colli fy rhyddid, fy ffôn a bod dim teledu - ond mae e fel gwesty ac mae wedi fy achub i," meddai Hugh.

"Ro'n i'n pwyso llai na wyth stôn i ddechrau wedi'r yfed trwm.

"Dwi erioed wedi bod yn un i droi at gwnsela - ond mae'r sesiynau meditato sy'n digwydd yma wedi bod o gymorth mawr.

"Mae'n gyfle i fi ddod i 'nabod fy hunan a meddwl shwt berson o'n i pan o'n i'n yfed, ac fel mae'r masgiau yn dangos ro'n i'n ymddangos yn hapus ond yn wir roeddwn yn llawn tristwch ac yn gwbl anniddig tu mewn.

"Fydden i'n argymell y lle 'ma i unrhyw un. Mae 'na weithgareddau o fore gwyn tan nos ac mae'n paratoi rhywun yn dda ar gyfer y camau nesaf.

"Fe fu'n rhaid i fi aros ryw bum mis cyn cael lle yma ac mae'r cyfan wedi'i ariannu.

"Ddechrau Rhagfyr fe fydda i'n gadael - ond dwi wedi cael sicrwydd y bydd cymorth cyson ar-lein.

"Y peth mawr rwy' wedi'i ddysgu yw bod yn rhaid bod yn onest gyda fi'n hunan a phawb arall a dwi am ddiolch am gymorth teulu, cymdogion a ffrindiau - nifer wedi helpu Mam yn ystod fy nghyfnod fan hyn.

"Mae gen i gywilydd o'r hyn sydd wedi digwydd ond wedi bod fan hyn rwy'n berson gwahanol ac yn gweld y byd drwy lens wahanol. Mae hynny'n beth da."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.