Drama dairieithog yn taclo'r argyfwng tai
- Cyhoeddwyd
"Be' sy'n clymu'r dair drama ydy problemau ail gartrefi a sut mae o'n effeithio ar ieithoedd lleiafrifol."
Dyna sut mae'r dramodydd Mared Llywelyn Williams o Forfa Nefyn yn disgrifo Taigh/Tŷ/Teach sydd ar daith ar hyn o bryd.
Mared yw un o ddramodwyr y cynhyrchiad tairieithog gan Fishamble: The New Play Company, Theatr Gu Leòr, a Theatr Bara Caws.
Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys tair stori sy'n amlygu effaith ail gartrefi, tai gwag, Airbnb, rhenti uchel a diffyg tai fforddiadwy i'r bobl leol mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban.
'Ysgrifennu am bethau sy'n fy mhoeni'
Pan ofynnodd Theatr Genedlaethol Cymru i Mared a fyddai ganddi ddiddorddeb gweithio ar ddrama am yr argyfwng tai mewn cyd-destun gwledig nôl yn 2021, roedd Mared ynghanol ymgyrchoedd y mudiad Hawl i Fyw Adra ac roedd effaith yr argyfwng ar gymunedau Pen Llŷn yn ei phoeni'n fwy nag erioed.
"Wrth gwrs wnes i gytuno'n syth achos oeddan ni ynghanol ymgyrchu yr adeg yna ac roedd pethau'n waeth ar ôl Covid," eglura.
"Yn byw ym Mhen Llŷn a Morfa Nefyn, mae'r argyfwng ail dai yn effeithio pob rhan o'n bywydau ni.
"'Dan i'n amlwg yn ymwybodol ers degawda', ers erioed, ond wnaeth o wir gydiad ar ôl Covid. Wedyn oedd o'n 'wbath oedd yn dy wynebu di bob dydd bron, yn dy feddiannu di, a mi 'nath o feddiannu lot o'n meddylia' i.
"Oedd o jest yn wbath o'n i'n teimlo'n gryf drosta fo a dwi'n dueddol hefyd o sgwennu am betha' sy'n fy mhoeni i ar y pryd felly mi ddoth o yn eitha' hawdd 'de, y stori."
Ail gartrefi: 'Sefyllfa debyg'
Ymunodd Theatr Bara Caws â'r cynhyrchiad ac aeth Mared ati i ysgrifennu'r stori Gymraeg ar gyfer Taigh/Tŷ/Teach, gyda'r Albanes Mairi Morrison yn ysgrifennu stori am y sefyllfa ar Ynys Lewis mewn Gaeleg yr Alban, a'r Wyddeles Eva O'Connor yn lleoli ei stori Wyddeleg hi yn un o gymunedau sir Kerry.
Er bod y dair wedi ysgrifennu'r dair drama yn annibynnol o'i gilydd, golygodd oriau o drafodaethau dros Zoom ac wythnos o ddatblygu syniadau yn Glasgow, eu bod yn dod i ddeall yr heriau yng nghymunedau ei gilydd.
"'Drwy drafod, nes i ddod i adnabod Mairi ac Eva a mi oedda chdi'n sylweddoli bod y sefyllfa mor debyg yn y dair wlad," meddai Mared.
"Hyd yn oed mewn dinas fel Glasgow, maen nhw'n wynebu problemau ail gartrefi fatha Airbnbs.
"Y cyd-destun gwledig sy'n cael sylw yn y gwaith; mae Mairi yn dod o Ynys Lewis ac mae'r broblam Airbnb yn ddrwg iawn yno.
"Yr un fath hefyd yn Iwerddon, mae'r ail berfformiadau yn mynd i fod yn Dromadda yn Kerry a mae fan'na yn denu lot o ymwelwyr achos yn fan'na wnaethon nhw ffilmio un o'r ffilmiau Star Wars ac felly mae hynna yn denu lot o ymwelwyr."
'Nant Gwrtheyrn yn lleoliad perffaith'
Mae Taigh/Tŷ/Teach eisoes wedi cael ei pherfformio yng nghanolfan Grinneabhat ar Ynys Lewis ddiwedd Ionawr. Bydd modd ei gweld yng nghanolfan gymunedol Ionad Na Dromoda, yn Kerry, Iwerddon rhwng 9-14 Chwefror ac yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn rhwng 21-24 Chwefror.
Theatr Bara Caws ddewisodd Nant Gwrtheyrn fel lleoliad yng Nghymru, ac mae'r ganolfan iaith yn gweddu'n berffaith yn ôl Mared.
"Digwydd bod, dwi'n sôn am stori Luned Bengoch yn fy nrama i ac mae honna wedi cael ei lleoli yn Nant Gwrtheyrn.
"Bara Caws 'nath gynnig Nant Gwrtheyrn ond mae'n berffaith a dweud y gwir oherwydd cynnwys y ddrama, ond hefyd oherwydd y ganolfan iaith, 'de.
"Yn amlwg yn fy mhen i, am Morfa Nefyn dwi wedi 'sgwennu ond do'n i jest ddim isio enwi fo. Dwi'n enwi Nant Gwrtheyrn. Mae 'na gymaint o gymunedau 'run fath does yn wynebu'r un petha'."
'Rhannu dy iaith'
Yn ôl Mared, mae'r dair drama, sydd mewn tair iaith wahanol yn gweithio fel un cyfanwaith.
Gyda phob drama, mi fydd y lleoliad yn newid i dŷ gwahanol yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban. Ond sut fydd y gynulleidfa'n dygymod â'r cyfanwaith tairieithog?
"Be' fydd gen ti ydy lincs rhwng y dair drama lle mae'r actorion o'r gwledydd eraill yn dysgu'r iaith felly fydd yr actorion eraill yn dysgu 'chydig o Gymraeg ac yn arwain y gynulleidfa o un lleoliad i'r llall felly mae y syniad yma o rannu dy iaith yn ganolog hefyd.
"Mae 'na isdeitlau Saesneg ar gyfer y perfformiadau yn Iwerddon a'r Alban, ac mi fyddan nhw yn Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn er mwyn i'r gynulleidfa Gymraeg ddeall y dramâu Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban".
Yr actorion Mirain Fflur, Richard Elfyn a Siôn Emyr sydd yn chwarae rhan y cymeriadau Luned, Richard a Huw yn nrama Mared gyda Betsan Llwyd yn cyfarwyddo.
"Ers cychwyn Ionawr rŵan mae Mirain, Richard, Siôn a Betsan Llwyd wedi bod yn ymarfar yn Glasgow gyda'r actorion eraill am wythnosau. Ti'n trochi dy hun yn yr holl ieithoedd 'de.
"Dwi heb weld o fel cyfanwaith o gwbl eto. Ga i weld o yn Kerry am y tro cynta. Mi oedd y cast Cymraeg yn wych pan welish i nhw'n ymarfar felly dwi'n edrych ymlaen at weld y cyfan fel un sioe."
Gobaith Mared yw y bydd "y gynulleidfa'n mwynhau cael y cyfla i glywad yr ieithoedd eraill 'ma" a bod y ddrama yn rhoi sylweddoliad "o beth sydd gan gymunedau i'w colli a beth sydd angen ei warchod."
Ysgrifennu am gymuned
Nid dyma'r tro cyntaf i Mared ysgrifennu drama am yr argyfwng tai. Ym misoedd cyntaf 2023 aeth ei drama, Croendenau, ar daith o amgylch neuaddau a theatrau Cymru.
Er mai drama-gomedi yn bwrw golwg ar fywyd merch ifanc yng nghefn gwlad Cymru oedd Croendenau, roedd ail gartrefi'n thema oedd yn gweu drwy'r gwaith hefyd.
"Mae'n ddiddorol achos nes i sgwennu'r ddrama i Taigh/Tŷ/Teach cyn ysgrifennu Croendenau. Oedd 'na jest cyffyrddiad o rai o'r themâu yn Croendenau; cymuned, cariad at gymuned a gwreiddiau.
"Yn Taigh/Tŷ/Teach, 'sgwennu am gymuned a'r argyfwng tai oedd y briff. Tu hwnt i hynna wedyn ti'n 'sgwennu am adra dwyt a be' mae adra yn olygu i chdi a be' ydi hiraeth a be' 'di gwreiddia', dyna ydy o a deud y gwir."
A fydd Mared yn parhau i ysgrifennu dramâu am yr argyfwng tai?
"Dwi'n meddwl mai'r ateb ydy 'na'. Mae'n anodd, mae pawb yn deud mai un peth mae bob awdur yn sgwennu am go iawn boed yn alar, cariad neu be' bynnag a dwi'n meddwl falla mai cymuned ydi o i fi bob tro.
"Dwi'n meddwl fod o jest yn gwestiwn o be' mae cynulleidfaoedd isio ei weld ac os ydy cynulleidfa yn diflasu ar y themâu ail dai sy' gen i bob tro, ella ddylwn i stopio. Dwi wedi bod yn meddwl am hynna, dwi'n meddwl amdano fo lot.
"Be' sy'n anodd weithia' ydy pam ti'n 'sgwennu drama neu rwbath creadigol am yr argyfwng, ti angen camu allan ohono fo 'chydig achos darn o waith creadigol ydy o ar ddiwadd y dydd. Ti'n defnyddio dy brofiad dy hun a ti'n trio deud rwbath ond y themâu sy'n bwysig.
"Dydi 'sgwennu amdan yr argyfwng ddim am fy mhrofiadau i, mae o amdan bawb, y gymuned i gyd a chymunedau ledled y wlad. Mae o am be' sydd gynnon ni i'w golli."
Bydd Taigh/Tŷ/Teach i'w gweld yn Nant Gwrtheyrn rhwng 21-24 Chwefror.
Hefyd o ddiddordeb: