Pum munud gyda Bardd y Mis: Gwenno Gwilym
- Cyhoeddwyd
Gwenno Gwilym o Ddyffryn Ogwen yw Bardd y Mis, Radio Cymru ar gyfer mis Chwefror. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Rydych yn byw yn Nyffryn Ogwen. Ydy'r ardal honno yn eich ysbrydoli?
Ydi'n bendant. Dwi'n caru byw yn Nyffryn Ogwen ac mae aml i gerdd wedi ymddangos ar ôl i mi fod am dro i fyny Moel Faban ben bore.
Rydych yn hoff o ysgrifennu mewn Cymraeg llafar a Wenglish. Dywedwch fwy am hynny.
Mae hynny wedi digwydd yn naturiol a bod yn onest. Dwi'n mwynhau chwarae gyda geiriau ac wrth fy modd yn sylwi ar y geiriau a dywediadau doniol sy'n digwydd pan mae'r ddwy iaith yn plethu. Mae fy mhartner yn siarad Saesneg gyda'r plant a finnau yn siarad Cymraeg, felly mae'r sgwrs dros swper yn neidio rhwng y ddwy iaith a mae'r Wenglish yn aml yn gneud imi chwerthin.
Mae mor greadigol, a dwi'n trio cofio sgwennu'r geiriau i lawr i'w defnyddio mewn cerdd nes ymlaen.
Heblaw am farddoni beth yw eich diddordebau?
Does na'm byd gwell gen i na chychwyn ben bore hefo paned a chacen yn fy mag, a mynd fyny mynydd gyda ffrind da a rhoi'r byd yn ei le. Cerdded a mwydro - be gei di well?
Sut dechreuodd eich taith fel bardd ac oes gennych unrhyw gyngor i rywun sydd eisiau rhoi cynnig ar farddoni?
Mi wnes i astudio gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mangor yn ddiweddar, yn bennaf gan fy mod yn mwynhau ysgrifennu rhyddiaith. Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen i'r modiwl barddoniaeth o gwbl a bod yn onest, ond yn y diwedd y modiwl hwnnw oedd fy fferfryn a mi wnes i gario ymlaen i farddoni.
Dwi'm yn siŵr os fedrai gynnig cyngor i neb, megis cychwyn ydw i a dwi'n dal ddim yn siwr iawn be' dwi'n 'neud!
Beth fyddai eich noson ddelfrydol?
Campio ar ben mynydd neu gig dda. Dibynnu ar fy mood (a'r tywydd!)
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
O, am gwestiwn anodd! Dwi'n mwynhau gwaith Benjamin Zephaniah ac wrthi'n darllen ei hunan-gofiant ar hyn o bryd. Dwi'n stryglo efo perfformio fy ngherddi'n fyw, felly dwi'n meddwl y bysai cael bod yn Benjamin Zephaniah am ddiwrnod yn helpu!
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Dwi wrth fy modd gyda Cactws, cerdd Miriam Elin Jones yn Ffosfforws 2 gan gyhoeddiadau'r Stamp. Mae'r geiriau a'r fformat yn chwareus ond mae'r hyn mai'n drafod yn ddwys. Dwi wedi ei darllen drosodd a throsodd a dwi'n ei mwynhau fwy bob tro.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Dwi wrthi'n gweithio ar nofel a fydd yn cael ei chyoeddi gan Gwasg y Bwthyn yn hwyrach 'leni. Mae'r nofel yn delio gyda rhai o'r themâu dwi'n drafod yn fy ngherddi, felly lot o Wenglish a Chymraeg llafar.
Hefyd o ddiddordeb: