Sir Gâr: 'Rhaid oedi' tai newydd yn sgil effaith ar y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae angen oedi gyda'r broses o lunio cynllun datblygu lleol newydd yn Sir Gaerfyrddin yn sgil ffigyrau ynghylch yr iaith Gymraeg yng nghyfrifiad 2021, yn ôl aelod seneddol.
Y bwriad yw codi dros 8,800 o dai newydd o dan y cynllun, ond mae yna bryder y gallai gael effaith niweidiol ar y Gymraeg yn sir, ac mae yna alw am leihau nifer y tai yn y cynllun
Mae Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, hefyd yn gofyn am foratoriwm ar gynlluniau tai mawr o dan y cynllun presennol, fel yr un dadleuol gan grŵp Pobl i godi 42 o dai ym mhentref Porthyrhyd.
Dywedodd y cyngor sir y byddan nhw yn ystyried tystiolaeth o'r cyfrifiad fel rhan o'r broses o archwilio'r cynllun datblygu lleol, fydd yn digwydd dan oruchwyliaeth arolygwr cynllunio.
Gostyngiad 4.1% yn siaradwyr Cymraeg Sir Gâr
Dangosodd canlyniadau'r cyfrifiad ostyngiad o 4.1% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Sir Gaerfyrddin - sef y gostyngiad mwyaf o ran canran o blith holl siroedd Cymru.
Sir Gaerfyrddin a welodd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd.
Yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2021, roedd 39.9% o drigolion Sir Gaerfyrddin dros 3 oed yn medru'r iaith.
Yn ôl Jonathan Edwards, mae angen i'r awdurdod bwyllo cyn mabwysiadu'r cynllun datblygu newydd yn llawn - sydd yn anelu at godi 8,822 o dai newydd yn y sir rhwng 2018 a 2033.
Mae hefyd yn galw am foratoriwm ar gynlluniau tai mawr sydd eisoes dan ystyriaeth o dan y cynllun presennol.
Dywedodd: "Ni'n gwybod bod y cyngor yn ymgynghori ar y cynllun oherwydd rheolau Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae hyn yn gyfle felly i gymryd cam 'nôl ac mae hi'n allweddol bod y cyngor yn gwneud asesiad llawn o effaith y cynllun fel mae hi ar yr iaith Gymraeg, ac wedyn gweithredu."
'Does dim dwywaith bydd yna ardrawiad'
Ym mhentref Porthyrhyd yng Nghwm Gwendraeth Fach, mae cynlluniau i godi 42 o dai ar dir fferm Wern Fraith, mewn pentref ble mae yna ychydig dros 80 o dai. Mae disgwyl i'r cais gael ei ystyried cyn diwedd mis Chwefror.
Yn ôl Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd, mae'r safle yn anaddas gan fod llifogydd yna'n rheolaidd, a phroblemau gyda charthffosiaeth. Ond mae'r pentrefwyr hefyd yn pryderu y bydd y Gymraeg yn cael ei boddi gan ddatblygiad mor fawr.
Dywedodd Mair Evans, llefarydd ar ran y grŵp sy'n byw yn lleol fod "42 o dai yn orddatblygiad mewn pentref mor fach".
Aeth ymlaen i ddweud bod "arwyddocâd ieithyddol arbennig i'r pentref yma. Does dim dwywaith bydd yna ardrawiad."
"Man a man ein bod ni yn claddu'r iaith Gymraeg a dweud y gwir yn y fynwent nesaf at y datblygiad arfaethedig neu boddi hi yn y llifogydd sydd yn digwydd yma."
Mae Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd wedi cynnal arolwg o siaradwyr Cymraeg yn y pentref, gan honni bod 64% o oedolion a 68.9% o blant ac oedolion yn medru'r Gymraeg.
Serch hynny, mae data'r ward gyfan ar gyfer ardal Llanddarog yn dangos bod canran y siaradwyr wedi gostwng i 53% yn 2021.Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi gwrthwynebu'r cais.
Yn ôl Wyn Thomas o'r mudiad, mae angen "rhywfaint o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy" ond mae datblygiadau fel yr un Mhorthyrhyd yn "ormodol".
Dywedodd ei fod yn "anfodlon iawn" gyda'r syniad o adeiladu dros 8,800 o dai newydd yn Sir Gaerfyrddin o dan y cynllun datblygu lleol nesaf.
"Am y tro cyntaf erioed, mae llai na 40% o bobl y sir yn siarad Cymraeg mewn lle oedd yn cael ei ystyried yn gadarnle. Gwegian mae'r Gymraeg yn y sir."
Gwrthwynebu hefyd mae Cymdeithas yr Iaith.
Yn ôl Aled Davies o'r Gymdeithas, mae'r datblygiad ym Mhorthyrhyd "yn llawer iawn rhy fawr ar gyfer y pentref a dyw e ddim yn ddatblygiad cynaliadwy, yn gymdeithasol, ac mae'n sicr o gael effaith ar y Gymraeg".
Yn ôl grŵp Pawb, sydd wedi cyflwyno'r cais, fe fydd y datblygiad yn "gymysgedd cynaliadwy" o dai fydd yn cynnwys 13 o dai i'w gwerthu ar y farchnad agored; 10 ar ffurf rhan-berchenogaeth ac 19 i'w rhentu.
"Ry'n ni yn deall pryderon y gymuned am yr effaith ar y Gymraeg. Fe fydd pobl sydd â chysylltiad â'r ardal yn cael blaenoriaeth ar gyfer y tai i'w rhentu, ac rydym yn rhagweld tipyn o alw am y tai gan bobl sydd yn byw yn yr ardal."
Mae'r pentrefwyr wedi mynegi pryder hefyd am lifogydd posib ar y safle, ond yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriad yw codi tai tu allan i'r ardal honno.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn hyderus y gallai'r system garthffosiaeth ddelio gyda llif ychwanegol o'r ystâd "heb effaith niweidiol" i'r amgylchedd neu o ran y perygl o lifogydd.
'Dyfodol yr iaith yn bwysig i ni gyd'
Doedd yr Aelod Cabinet ar Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am Bolisi Cynllunio, y Cynghorydd Ann Davies, ddim yn barod i wneud cyfweliad.
Mewn datganiad, fe ddywedodd: "Er nad oedd data cyfrifiad 2021 ar gael adeg yr ail CDLl Adneuo, bydd y sylfaen dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ers hynny yn cael ei hystyried yn y broses archwilio a gynhelir gan yr Arolygydd Cynllunio ar ran gweinidogion Cymru.
"Mae'r Cyngor hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin; mae dyfodol yr iaith yn bwysig i ni i gyd.
"Lansiwyd Strategaeth Hybu'r Gymraeg y sir y llynedd ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gyflawni'r strategaeth honno."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019