Tocynnau trên Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu 4.9%

  • Cyhoeddwyd
Trên Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnydd "yn unol â'r diwydiant rheilffyrdd ehangach" medd Llywodraeth Cymru

Bydd prisiau tocynnau trên yn cynyddu 4.9% o 3 Mawrth 2024 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters bod y cynnydd "er mwyn parhau i allu buddsoddi, fel ein gwasanaethau newydd o Lyn Ebwy i Gasnewydd, ac i dalu costau cynyddol tra'n ceisio lleihau yr effaith ar deithwyr".

Ychwanegodd bod y cynnydd "yn unol â'r diwydiant rheilffyrdd ehangach".

Ond dywedodd llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell "ar adeg pan ddylem fod yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rwy'n pryderu y gallai'r cynnydd hwn niweidio nifer y teithwyr".

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar: "Gan fod niferoedd teithwyr ar drenau wedi gostwng, ni allaf weld sut y bydd codi'r prisiau yn eu hannog yn ôl."

Dywedodd Ruth a Jo Evans, oedd wedi teithio i Gaerdydd o Fangor ar y trên, bod hyn yn gynnydd sylweddol.

"Yn sgil bob dim arall yn mynd i fyny mae hyn yn mynd i fod yn lwmp swm mawr ar ben popeth, ac yn anodd ar bobl.

"Dwi'm yn siŵr sut allai fforddio fo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruth a Jo (chwith) a Katrin (dde) yngweld prisiau tocynnau'n rhy ddrud

Ychwanegodd Katrin, sy'n byw yng Nghaerdydd: "Dwi'n meddwl y dylai fod ychydig yn rhatach er mwyn annog pobl i fynd ar y trên.

"Dim ond dwy orsaf dwi'n mynd yn llythrennol o fan hyn i gartref ac mae'n rhy ddrud a dweud y gwir... hyd yn oed efo tocynnau multiflex."

Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod cyllid trethdalwyr ar gyfer cwmni rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu tua hanner - £125m yn fwy - wrth i werthiant tocynnau ostwng.

Mae gweithio gartref yn golygu bod llai o deithwyr yn cymudo i'r gwaith ar y trenau, gan adael twll yng nghyllideb Trafnidiaeth Cymru.