£125m yn fwy i'r trenau oherwydd cwymp 'siomedig' nifer y teithwyr

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf drenau Bae Caerdydd cyn y pandemig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adran sy'n ariannu Trafnidiaeth Cymru wedi cael mwy o arian er bod llai o deithwyr yn defnyddio trenau

Mae cyllid trethdalwyr ar gyfer cwmni rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu tua hanner wrth i werthiant tocynnau ostwng.

Mae gweithio gartref yn golygu bod llai o deithwyr yn cymudo i'r gwaith ar y trenau, gan adael twll yng nghyllideb Trafnidiaeth Cymru.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd eu perchennog, Llywodraeth Cymru £125m yn fwy ar gyfer y cwmni eleni, cynnydd "enfawr", yn ôl un arbenigwr cyllid.

Mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi dweud ei bod yn disgwyl i'r "pwysau ar gyllidebau rheilffyrdd... barhau am beth amser".

Daeth y cyhoeddiad ddydd Mawrth fel rhan o newidiadau cyllidebol eang sydd wedi'u cynllunio i gynnal y cwmni a lleddfu pwysau cynyddol ar y GIG.

Mae toriadau mewn adrannau eraill, arian o gronfeydd ariannol wrth gefn ac arian ychwanegol gan San Steffan wedi rhyddhau mwy na £600m.

Ffynhonnell y llun, SeneddTV
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ddatganiad i'r Senedd ddydd Mawrth

Mae tua £425m yn mynd i mewn i'r GIG, ond mae gweinidogion yn rhybuddio y bydd y gwasanaeth yn dal i wynebu penderfyniadau anodd wrth iddo frwydro gyda diffygion ariannol a rhestrau aros hir.

Roedd cyllid craidd y GIG eisoes yn werth mwy na £9bn.

Daw'r arian ar gyfer y rheilffyrdd ar ben y £205m yr oedd llywodraeth Llafur Cymru yn bwriadu ei roi i Trafnidiaeth Cymru eleni.

Mae'r cwmni'n gwneud llai o arian na'r disgwyl o werthu tocynnau oherwydd bod llai o gymudwyr na'r disgwyl wedi dychwelyd ar ôl y pandemig.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies

Mae newidiadau sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn dal i gyfrif cost Covid.

Gadawodd y cyfnodau clo etifeddiaeth o amseroedd aros cynyddol, chwyddiant uchel a diwylliant newydd o weithio gartref.

Mae'r holl bethau hyn wedi effeithio ar gynlluniau gwariant Llafur.

Roedd angen arian i gadw pen y GIG uwchben y dŵr, ariannu cyflogau uwch yn y sector cyhoeddus a chynyddu'r cymhorthdal rheilffyrdd.

Gallwch feio digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth Mark Drakeford. Ni all ef atal pobl rhag mynd yn sâl nac ychwaith eu gorfodi i ddal y trên.

Ond fe all - ac fe ddylai - gynllunio ymlaen llaw, a'r cwestiwn gan yr wrthblaid yw a allai mwy o gynllunio fod wedi osgoi y toriadau a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans ddydd Mawrth.

Disgrifiodd David Phillips, o felin drafod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, y cynnydd yng nghyllid trenau o fwy na 50% fel "enfawr".

"Er nad ydyw llawer mwy na chwarter yr arian ychwanegol sy'n cael ei ddarparu i'r GIG, mae'r cyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn llawer mwy o'i gymharu â'i gyllideb bresennol - dros 50% o'i gymharu â'r gyllideb a nodir yng nghyllideb atodol mis Mehefin," meddai. "Mae hynny'n enfawr.

"Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at niferoedd is o deithwyr a chostau uwch fel y rheswm pam fod angen yr arian ychwanegol hwn.

"Ond nid yw'n dweud pa gostau sydd wedi cynyddu ers cyllideb Cymru, ac os rhywbeth rwy'n disgwyl y gallai costau tanwydd ac ynni fod yn is na'r hyn yr oedden nhw'n disgwyl bryd hynny, er enghraifft.

"Mae hyn yn awgrymu naill ai bod incwm gan deithwyr yn llawer is na'r disgwyl, neu fod yna gynnydd mawr, sydyn ac annisgwyl mewn costau eraill."

Dywedodd Ms Evans, a gyhoeddodd newidiadau cyllidebol ddydd Mawrth, fod y gostyngiad yn nifer y teithwyr rheilffordd yn "siomedig".

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd darged i annog 30% o bobl i weithio o bell.

Pan ofynnwyd iddi a oedd yn bryd ail-feddwl hynny, dywedodd Ms Evans: "Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig bod pobl yn gwneud gwaith o gartref os gallant, os yw'n iawn iddyn nhw.

"Yn yr un modd, bydd yn iawn i bobl eraill fynd i mewn i'r swyddfa."

'Twll arian?'

Fel rhan o Fetro De Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn uwchraddio'r rhwydwaith yng Nghaerdydd a Chymoedd De Cymru yn sylweddol.

Ym mis Mawrth fe ddaeth i'r amlwg fod cost y cynllun, oedd i fod i gael ei gwblhau yn 2025, wedi cynyddu o fwy na £260m i £1bn.

Yn y Senedd, gofynnodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, a oedd y gwariant ychwanegol yn "gyfaddefiad nad yw'r gwasanaeth yn perfformio fel y dylai ac yn dod yn dipyn o dwll arian?"

Dywed dogfennau'r Llywodraeth: "Er y bydd [Trafnidiaeth Cymru] yn dal i wynebu pwysau sylweddol, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi'r sefydliad wrth iddo barhau i reoli costau cynyddol a gostyngiad yn nifer y teithwyr ar ôl y pandemig".