82 o flynyddoedd o ganu organ y capel

  • Cyhoeddwyd
Valerie Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Valerie Ellis yn ymarfer ar yr organ bob dydd

"'Swn i methu ei hanwybyddu hi'n llwyr... fy ffrind mwya' fi 'de! Dwi'n chwarae rhyw ben bob dydd - trio gneud bach o ymarfer ar y scales a'r arpeggios."

Wnaeth rhai ohonon ni fyth feistrioli'r scales ar y piano, na goroesi mwy nag ychydig o flynyddoedd o wersi. Ond mae Valerie Ellis wedi bod yn canu'r organ yn y capel ers 82 o flynyddoedd... a dydi'r cariad tuag at y nodau heb bylu eto.

Er fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio bellach, mae'r noson honno pan chwaraeodd hi'r organ yn y capel am y tro cyntaf dal yn glir iawn yn y cof, meddai:

"Nes i chwarae'r tro cynta' yn y capel pan o'n i'n naw oed. Dyma un o'r blaenoriaid yn codi ac yn edrych o gwmpas a gweld fod yna neb wrth yr organ. A dyma fo'n dechrau enwi pobl a'u gwahodd i ddod i chwarae... ysgwyd pen... dyma 'na saib.

"'Valerie, tyrd ymlaen,' medda fo, 'i ddangos be' fedri di ei wneud' a dyma fi'n codi fel bwled, ac am yr organ. Nid bo' fi isio dangos y medrwn i chwarae, ond bo' fi isio canu 'de, a heb organ, fasa ganddon ni ddim canu! Mae'r noson yna wedi ei serio ar fy nghof i."

Disgrifiad,

Mae Valerie'n ymarfer ar yr organ bob dydd

Gwerthfawrogiad

Syrthio mewn cariad â chanu'r piano a'r organ fu ei hanes wedyn, gan 'ysu' am fynd i chwarae... hyd yn oed y scales! Yn ei thro, daeth yn athrawes gerdd, a gydag un o'i chyn-ddisgyblion o Ysgol Botwnnog y bu'n hel atgofion, sef y cyflwynydd Aled Hughes ar ei raglen ar BBC Radio Cymru.

Mae hi'n sicrhau ei bod yn ymarfer rhyw ben bob dydd, eglurodd wrtho, ac er ei bod hi'n gwneud hyn ers blynyddoedd, mae'r angerdd yn amlwg dal yno, ac amser yn diflannu pan mae ei bysedd ar yr allweddellau...

"Ddoe, o'dd 'na rywbeth yn y popty, a finna wedi dechrau chwarae'r piano, ac o'dd gen i bum munud i aros nes oedd o'n barod, ac mi aeth y pum munud yn chwarter awr... a hwnna wedi llosgi! A ma' hyn yn digwydd yn aml i mi!"

Yn ddiweddar, cafodd Valerie a'i chyd-gyfeilyddion yng Nghapel Emaus ym Mangor - sydd wedi bod yn cyfeilio am gyfanswm o 430 o flynyddoedd - gydnabyddiaeth a diolch gan y gynulleidfa am eu gwasanaeth.

"Gweledigaeth y Parch. Casi Jones oedd hyn, y dyla ni gydnabod y cyfeilyddion a'r organyddion. Mae saith ohonan ni i gyd; fi ydy'r hyna' wrth reswm, a Dafydd y mab ydy'r ieuenga'. O'dd Casi wedi bod yn holi 'pryd naethoch chi ddechra?', a finna'n deud yr hanes, a gofyn i Dafydd yr un cwestiwn.

"O'dden ni i gyd mor falch ein bod ni'n cael ein gwerthfawrogi. Doedden ni ddim wedi cael hynny erioed yn y capel; mae pobl yn tueddu i gymryd y cyfeilydd yn ganiataol."

Ffynhonnell y llun, Eglwys Emaus
Disgrifiad o’r llun,

Valerie (trydydd o'r dde) gyda'i chyd-organyddion yng Nghapel Emaus, yn dangos ers faint o flynyddoedd mae pob un wedi bod yn cyfeilio yn y capel - cyfanswm o 430 o flynyddoedd!

Cadw'r ymennydd yn ifanc

Mae darn o ymchwil diweddar yn awgrymu bod canu offeryn - yn arbennig y piano - yn helpu i gadw'r ymennydd yn iach ac yn ifanc. A hithau newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 92 oed, a dal i fod yn hogi ei chrefft bob dydd, mae hi'n amlwg fod yna elfen o wirionedd i hyn, meddai Valerie:

"Mae o'r union beth dwi wedi bod yn ei 'neud heb wybod dim am unrhyw ymchwil. Pan glywais i, 'Amen', medda fi! 'Carry on, pawb. Gwnewch yr un fath â dwi'n ei 'neud - mae o'n gweithio!' Dwi'n hapus iawn iawn.

"Ac ar wahân i hynny, mae hapusrwydd yn canlyn cerddoriaeth - alli di'm chwarae'n hir heb fod unrhyw boen meddwl yn diflannu."

Ac er yr oedran mawr, does ganddi ddim bwriad o roi'r gorau iddi, eglurodd:

"Os oes ganddoch chi ryw sgil, hwnna ydy'r peth dwytha' i'ch gadael chi. Wedyn mae 'na le i obeithio y bydda i, hyd fy ola' chwyth, yn rhoi rhyw donc!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig