'Adeg cyffrous' i fenywod mewn comedi

  • Cyhoeddwyd
Caryl BurkeFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Caryl Burke

"I fod yn ddynes yn comedi mae'n rhaid i ti gael rhywbeth sy'n neud ti'n wahanol."

Dyma eiriau y comediwraig ifanc Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle, un o nifer o fenywod sy'n newydd i'r sin comedi yng Nghymru ac yn mireinio eu crefft.

Bu Cymru Fyw'n sgwrsio gyda dwy gomediwraig ifanc am eu profiadau nhw yn torri mewn i'r byd standyp:

Mae Caryl Burke o Gaernarfon wedi gwneud dros 100 o gigs standyp ers ei sioe gyntaf yn 2022.

Fel mae Caryl yn esbonio, roedd hi wedi bod yn ystyried rhoi cynnig arni ers blynyddoedd ond digwyddiad sydyn wnaeth newid ei bywyd oedd y sbardun ar gyfer y gig cyntaf: "'Nes i golli Mam yn sydyn yn 2021 ac yng nghefn pen fi o'n i wastad wedi bod isho trio neud standyp - ond mae'n scary.

"'Oedd locdown a bob dim wedi digwydd, 'nes i feddwl mae bywyd rhy fyr, na'i fynd amdani. Oedd genna'i ddim llawer o plan pan nes i gychwyn.

"Mae wedi helpu fi mewn un ffordd i beidio cael gormod o plan - dwi jest 'di bod yn dweud ie i bob cyfle dwi wedi cael heb roi gormod o bwysedd ar fy hun."

Y gig cyntaf yn y Shed yn Felinheli oedd yr anodda', fel mae'n esbonio: "O'n i'n teimlo mor sâl o'n i mor agos i beidio neud o. Unwaith ges i'r laugh cynta 'na nes i ddechrau enjoio fo."

Ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny ac erbyn hyn yn neud nosweithiau open mic ym Manceinion yn ogystal a gigs yng Nghaerdydd ac yng ngogledd Cymru.

Croeso

Yn y dyddiau cynnar roedd y comediwraig Esyllt Sears yn fentor arni ac wedi ei helpu i drefnu'r gigs cyntaf: "Dwi wedi ffeindio pawb yn gefnogol - mae pobl yn cefnogi ti ac isho i bawb arall neud yn dda. Mae'n benefitio pawb os oes 'na fwy o bobl yn neud o, mwy o gigs, mwy o bethau yn mynd ymlaen.

"Yng Nghaernarfon mae llwyth o gigs yn dod o 'nunlle achos mae mwy o bobl wedi cychwyn gwneud.

"Mae lot o wahaniaethau rhwng bod yn ferch a bod yn ddyn yn neud standyp. Yn tyfu fyny on i'n rili gwahanol - oedd enw fi Burke yn unigryw, oedd gen i wallt cyrli, o'n i bach yn chubby ac yn casáu bod yn wahanol i bawb arall. Rŵan mae'r enw unigryw yn sticio ym meddwl pobl - mae'r holl bethau o'n i'n casáu am bod yn wahanol yn helpu fi rŵan."

Mae ei set yn canolbwyntio ar ei theulu ac ar ei phrofiadau gyda dynion: "Dwi ddim yn licio neud neb arall yn punchline y joc - er mae dynion yn punchline a'r pethe hurt mae dynion 'di dweud wrtho fi.

"Dwi'n teimlo 'chydig bach fatha Taylor Swift pan mae pobl yn dweud wrthi, 'ti ddim yn ysgrifennu cân am hyn nag wyt?'. Pan mae pobl yn mynd ar date efo fi maen nhw'n dweud, 'dwi ddim yn mynd i fod yn dy set di ydw i?'"

Ffynhonnell y llun, Caryl Burke

Wedi iddi fod yn brif enw mewn gig yng Nghaerdydd yn Ionawr, mae Caryl yn dweud ei bod hi'n gyfnod cyffrous i gomedi yng Nghymru: "Mae mwy o gigs yn dechrau dod rŵan - mae'n adeg cyffrous.

"O'n i'n cael headlinio yng Nghaerdydd mis diwethaf ond dwi ddim yn gwybod faint o bobl sy'n cael headlinio ar ôl llai na dwy flynedd. Dwi wedi gweld lot o bobl yn Lloegr sy' 'di bod yn trio torri trwodd - dwi newydd gael 100 gig mewn llai na dwy flynedd."

Mae Caryl wedi perfformio ar lwyfannau gyda nifer o enwau adnabyddus erbyn hyn, fel mae'n sôn: "Mae standyps y pobl mwya' insecure dwi wedi cyfarfod - mae mor ddiddorol gweld pa mor wahanol ydy pobl off y llwyfan.

"Dwi wedi bod digon lwcus i neud gigs efo pobl fel Josh Jones a Stephen Bailey ac off llwyfan maen nhw'n rili distaw er bod nhw'n portreadu bod nhw eitha' hyderus ar y llwyfan.

"A dwi 'chydig fel hynny hefyd - pan dwi'n camu ar y llwyfan dwi'n chwarae cymeriad. 'Nes i sylweddoli dwi yn berson eitha awkward ac am hir o'n i'n trio cuddio hynna ond beth sy' 'di gweithio i fi yw leanio mewn i hynna a bod mwy awkward a neud o'n rhan or set."

Cymuned

Mae'n teimlo fod cefnogaeth wedi bod iddi yng Nghymru: "Mae 'na cyn lleied ohono ni 'dan ni'n gallu galw ar ein gilydd a gofyn am gyngor. Mae o'n rhywbeth rili unig so mae'n neis os ti'n cael cyfle i siarad efo pobl eraill a rhannu syniadau."

Beth nesaf i Caryl felly?

Mae wedi trefnu gig ym mis Mawrth ym Mhorthmadog, meddai: "Buasai hi 'di bod yn ben-blwydd Mam yn 60 ym mis Mawrth felly mae'n gig elusennol i elusen Awyr Las gyda nifer o gomediwyr - Gethin Evans, Mel Owen, Katy Gill Williams, Gareth yr Orangutan, Tudur Owen a Caryl Bailey.

"Oedd Mam yn berson oedd yn neud i bobl chwerthin ac oedd hi'n hael iawn ym mhob dim oedd hi'n gwneud."

Ffynhonnell y llun, Fflur Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Fflur Pierce

Perfformiodd Fflur Pierce standyp am y tro cyntaf yn 2022 mewn gig elusennol ar ôl dilyn cwrs yn ysgol gomedi Kiri Pritchard-McLean yn Ynys Môn - a mwynhau'r profiad yn syth.

Meddai: "Hyder 'di lot ohono. Os rhywbeth mae gen i ormod - achos bod fi'n awtistig mae pobl yn meddwl bod fi'n brolio ond fel 'ma ydw i. Dwi'n caru bod ar stage. Dwi'n licio'r sylw!

"'Nes i sgriptio hanner ac improviseio hanner (yn y gig cyntaf) ac oedd o'n lot mwy o hwyl improviseio.

"Dwi'n obsessed efo politics a satire ac mae pawb o gwmpas fi'n gwybod bod fi'n licio comedi a hwnna (y gig elusennol) oedd y cic yn tin o'n i angen."

Mae Fflur wedi cael sawl gig trwy gefnogaeth comediwyr Cymreig eraill: "Fel arfer dwi'n un o ddwy ddynes os hynna ar y lein-yp.

"Achos bod comedi fi am fi'n bod yn awtistig ac yn LGBT dwi efo niche hyd yn oed mwy specific - os 'da chi isho diversity dwi yma am bod fi'n ticio gymaint o focsys!

"Oedd Mam a Dad bob tro yn dweud, 'ti'n ffyni Fflur'. Ond fi oedd y diwethaf i gael y jôc er bod fi'n dweud o'n ffyni - achos bod fi mor awtistig. Rŵan am mai fi sy'n ysgrifennu'r jôcs, fi 'di'r cynta i gael y jôcs.

Ffynhonnell y llun, Fflur Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Fflur yn perfformio

"Fi ydy'r presgripsiwn sbectol ti'n rhoi ar y gynulleidfa a maen nhw gallu gweld mewn i byd fi. Dwi'n cymryd popeth yn literal a mae 'di rhoi penbleth i fi yn tyfu fyny - yn enwedig yn Gymraeg efo idiomau.

"Ffordd o ymdopi ydy comedi achos fod pobl yn sterio arno fi a meddwl bod fi'n weird so dwi'n rhoi rhywbeth iddi nhw chwerthin amdan so dy'n nhw ddim yn chwerthin ar ben fi.

"Mae'n ddiddorol gweld y variety o ferched sy' 'ma (ar y sin gomedi), mae pawb efo eu peth eu hun ond mae'r dynion i gyd yn ddynion strêt gwyn - does 'na ddim llawer o variety. I fod yn ddynes yn comedi mae'n rhaid i ti gael rhywbeth sy'n neud ti'n wahanol.

"Efo comedi Cymraeg mae'r hiwmor yn sych a 'dach chi ddim yn gorfod bwydo'r jôc i gymharu â comediwyr yn Lloegr. Mae'n rhyfedd."

Ydy hi'n haws felly i lwyddo ar y sin yng Nghymru?

Meddai Fflur: "Achos bod 'na llai o bobl mae'n helpu ond mae dynion yng Nghymru lot mwy ffeind i bobl sy'n cychwyn. Dwi'n adnabod comediwyr yn Lloegr ac mae sexism yn rife yna ond dwi erioed wedi clywed dim byd yn y sin Cymraeg.

"Dwi'n falch o fod yn y sin Cymraeg, mae pobl lot mwy chill, maen nhw isho helpu pobl.

"Mae genod yn ffyni jest bod rhai dynion ddim yn licio hynny ond diolch byth dydi hynny ddim yn digwydd yn y Gymraeg."

Pynciau cysylltiedig