Cyn-ymgynghorydd Plaid Cymru, 27, yn Arglwydd am oes
- Cyhoeddwyd

Carmen Smith yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yn 2018
Mae cyn-ymgynghorydd i Blaid Cymru yn cael ei hurddo yn Arglwydd am oes - y person ieuengaf ym Mhrydain i wneud hynny.
Mae Carmen Smith o Ynys Môn yn 27 oed ac wedi ei henwebu gan arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth.
Fe fydd hi'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Barwnes.
Roedd ymhlith 13 o unigolion a gafodd eu henwi mewn rhestr o arglwyddi newydd yn hwyr nos Wener, tra bo Senedd San Steffan ar gau.

Charlotte Owen, cyn-ymgynghorydd i Boris Johnson, oedd y person ieuengaf yn y siambr, ond mae Ms Smith dair blynedd yn fengach nag yr oedd hithau pan gafodd ei hurddo
Dywedodd Ms Smith: "Rydw'n edrych ymlaen at ymuno â thîm Plaid Cymru yn San Steffan a gweithio ar ran pobl Cymru. Mae'r dasg honno yn un frys, a rydwi i'n awyddus i chwarae fy rhan.
"Ochr yn ochr ag ein Aelodau Seneddol, byddaf yn brwydro am fargen deg i Gymru ac yn dal llywodraethau'r DU presennol a rhai'r dyfodol i gyfri.
"Byddaf yn eirioli yn ddiedifar am ddyfodol tecach, mwy cynaliadwy ac, yn y pen draw, annibynnol i Gymru.
"Fel dynes ifanc, fe fyddai'n gweithio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i gymryd rhan lawn yn ein cymunedau ac ein gwlad."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: "Llongyfarchiadau mawr, Carmen: bydded i'th lais daranu."

Cafodd Carmen Smith ei henwebu gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
Gan longyfarch Ms Smith, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Fe fydd yn ased i Gymru yn ail siambr San Steffan.
"Rydan ni angen cyn gymaint o leisiau Plaid Cymru â phosib yn San Steffan i fynnu tegwch ac uchelgais ar ran Cymru - mi wn y bydd Carmen yn gwneud hynny ar bob cyfle.
"Rydym yn parhau i wrthwynebu'r ail siambr anetholedig yn gadarn fel mater o egwyddor, ond, tra'i fod yn bodoli, mae Plaid Cymru yn credu bod yna gynrychiolaeth i Gymru ble bynnag mae Cymru yn cael ei thrafod."