Costau byw: Cynlluniau ailgylchu i helpu myfyrwyr ymdopi
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfnod lle mae mwy a mwy o bobl yn wynebu heriau ariannol, mae prifysgolion ar hyd Cymru wedi cyflwyno cynlluniau ailgylchu i helpu myfyrwyr a'r cymunedau lleol.
Gyda'r nod o leihau gwastraff a helpu'r rhai sy'n brin o arian i gael nwyddau tŷ am bris rhesymol, mae prifysgolion Bangor a'r Drindod Dewi Sant yn dweud bod eu cynlluniau cymunedol yn helpu'r myfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi.
Mae'r silffoedd yn y cwpwrdd yng nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe yn llawn nwyddau cartref diangen sydd wedi eu cyfrannu fel bod eraill yn gallu eu defnyddio.
Mae Ifan Thomas, Swyddog recriwtio myfyrwyr ym Mhrifysgol Drindod Dewi Sant, yn dweud bod hi'n gyfnod "anodd i fyfyrwyr ar hyn o bryd".
"Mae hwn yn lle i bobol ddod os oes angen blancedi, tywelion neu offer trydanol arnyn nhw. Maen nhw gallu dewis be sy angen arnyn nhw" ychwanegodd.
"Fe ddaeth un myfyriwr i mewn a jyst mynd allan gyda myg .
"Roedd e wedi gallu dod fan hyn, edrych ar y nwyddau ar y silffoedd, heb orfod poeni am y pris, ac yn gallu gadael gyda myg newydd yn rhad ac am ddim."
Mae drysau'r cwpwrdd ar agor i bawb ond yn arbennig unigolion, myfyrwyr a theuluoedd sy'n ei chael hi yn anodd i gael dau ben llinyn ynghyd.
Bydd pob eitem yn cael eu gwirio i wneud yn siŵr eu bod yn lân ac yn saff i'w defnyddio trwy gynnal prawf PAT yn achos nwyddau trydanol.
"Daeth un fenyw i mewn 'ma ac roedd hi wedi dechrau cwmni - roedd y cwpwrdd wedi ei helpu hi i gael y nwyddau oedd angen arni ar gyfer y fenter.
"Roedd ganddi fab ag anghenion arbennig ac roedd hi yn dymuno gweithio ar ei liwt ei hun fel ei bod hi hefyd yn gallu gofalu am ei mab," dywedodd Mr Thomas.
'Mae mwy angen ei neud i helpu'
Mae'r menter yn dilyn cynllun y Llyfrgell Pethau ar draws campysau'r Brifysgol lle cafodd eitemau cegin a gafodd eu gadael ar ôl yn llety'r brifysgol eu rhoi i fyfyrwyr oedd yn dechrau eu bywyd coleg.
Mae'r Cwpwrdd Cymunedol hefyd yn helpu i gefnogi agenda cynaliadwyedd y Brifysgol a lleihau gwastraff trwy ailddefnyddio ac ailgylchu nwyddau cartref.
Dywed Ffion Evans, sydd yn aelod o'r Pwyllgor cynaliadwyedd: "Mae gyda ni dargedau ac mae hyn yn helpu i leihau faint o nwyddau sy yn mynd i safleoedd tirlenwi ac yn arbed ynni.
"Trwy roi'r nwyddau yma mae mwy o bobl yn gallu eu defnyddio, a llai yn mynd i sbwriel."
Hefyd ym Mhrifysgol Bangor mae cynllun caffi trwsio yn cynorthwyo myfyrwyr a'r gymuned sydd yn straffaglu i ymdopi a chostau byw.
"Mae nwyddau yn cael eu trwsio neu eu cyfnewid. Mae'n helpu taclo tlodi ond hefyd yr amgylchedd," dywed Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli gydag Undeb Myfyrwyr Bangor.
"Mae'r caffi ar agor i fyfyrwyr, ond ry ni hefyd yn cyd-weithio a phobol yn y gymuned o ran rhannu sgiliau trwsio a chyfnewid nwyddau. Mae galw mawr.
"Eleni ry' ni wedi rhoi lot mawr o ddillad allan yn y caffi trwsio - roedd dros gant o fyfyrwyr wedi dod i nôl nhw"
Mae trefnwyr y caffi trwsio yn dweud fod costau byw yn effeithio pawb ac mae angen help ar fyfyrwyr i fyw.
Dywed Natasha Sellers o Undeb Myfyrwyr Bangor fod "costau byw wedi gwaethygu ers cofid ac mae myfyrwyr yn stryglo i brynu dillad, bwyd a deunydd academaidd."
"Mae mwy angen ei neud i helpu yn bendant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2024