Lleuwen yn teithio Cymru'n perfformio 'emynau coll y werin'

  • Cyhoeddwyd
Lleuwen Steffan yn ystod ei pherfformiad yn Abernant ddechrau'r wythnosFfynhonnell y llun, Tudur Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lleuwen Steffan yn ystod ei pherfformiad yn Abernant ddechrau'r wythnos

Mynd o gapel i gapel ar hyd a lled Cymru fydd y gantores Lleuwen Steffan yn ystod y misoedd nesaf, wedi iddi gael ei swyno'n annisgwyl gan leisiau o'r gorffennol yn rhannu eu profiad am ddiwygiad crefyddol 1904-05.

Fe ddechreuodd taith 'Emynau Coll y Werin' nos Fawrth yng nghapel Cendy, Abernant, ac ers hynny mae wedi bod yn Aberystwyth, Llanffestiniog, Llangïan a Phenmachno.

Mae ymweliad â dros 20 capel i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda mwy yn nhymor yr hydref.

Dywed Lleuwen ei bod wedi'i chyfareddu'n llwyr gan y recordiadau a glywodd yn archif Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan pan roedd hi'n rhan o brosiect Trac, a oedd yn rhoi cyfle i 10 o gerddorion fynd ar daith drwy Gymru i ddysgu am ganu gwerin Cymraeg.

'Mor ddifyr'

"Ar ôl hynny 'nes i ymchwilio mwy am bregethwyr yn mynd i hwyl, emynau'r diwygiad a phrofiadau pobl ar droad y ganrif ddiwethaf ac mae'r cyfan wedi bod mor ddifyr," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

Yn ystod y perfformiadau mae Lleuwen yn defnyddio'r archif gan gydganu weithiau gyda'r recordiad gwreiddiol a phryd arall mae'n ychwanegu seiniau electronig neu seiniau y mae wedi'u casglu o leoliadau arwyddocaol at y cyfansoddiadau.

Ffynhonnell y llun, Lleuwen Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod yr wythnosau nesaf mae'r gantores Lleuwen Steffan yn teithio ar hyd capeli Cymru yn perfformio "emynau coll y werin" mewn ffordd gwbl unigryw

Dyw cynnwys crefydd a materion ysbrydol ddim yn gwbl ddieithr i'r gantores o Rhiwlas, sydd bellach yn byw yn Llydaw.

Mae yna le blaenllaw i'w ffydd ac emynau yn nifer o'i halbymau, gan gynnwys ei halbwm gyntaf Duw a Ŵyr a'i halbwm ddiweddaraf Gwn Glân Beibl Budr.

'Pawb yn rhan o'r prosiect'

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 cafwyd blas o'r emynau gwerin sydd wedi'i chyfareddu gymaint, ac wedi iddi gael gwahoddiad i gyflwyno gwaith ar yr archif mewn capeli yn Sir Gâr fe benderfynodd fynd ar daith.

"Roedd yr ymateb ges i gan bobl yn rhyfeddol. Roedd pobl yn dod ata'i ar y diwedd i rannu straeon a phenillion, a dyna feddwl yn syth bod yn rhaid i fi fynd ar daith o gwmpas capeli Cymru," meddai.

"Mae'r holl brosiect yma wedi bod yn llawn syrpreisys.

"Mae'n fwy na fi - mae cyfarfod y bobl yma sy'n perthyn i rai o'r lleisiau sydd yn yr archif wedi mynd â fi ar drywydd do'n i ddim wedi disgwyl mynd arno fo - fel y daith capeli.

"Pobl Cymru biau'r prosiect yma, emynau'r Cymry ydi o de. Yn rhan o'r archif mae hen wraig, Ann Evans, sy'n cofio'r diwygiad pan yn hogan fach ac wrth ei gofio mae ei llais hi yn troi'n oslef.

"Wrth i ni sôn am ein hanes mae'r cof gydag emosiwn tydi?

"'Tasan i jyst wedi sgwennu'r petha' 'ma o'dd hi'n ei ddweud ar bapur fydde rhywun yn colli'r emosiwn - dwi am drosglwyddo y profiadau yma i bobl Cymru."

Ffynhonnell y llun, Lleuwen Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lleuwen ei bod wedi'i chyfareddu'n llwyr gan y recordiadau a glywodd yn archif Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan

Mae'r gwaith caled o ymchwilio am flynyddoedd i'r prosiect wedi'i wneud, ychwanega Lleuwen, a braint fydd iddi gael ei gyflwyno i gapeli Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

"Does dim angen tocyn a does na'm tâl. Mae'n teimlo'n od bod yn rhaid talu am fynd i'r capel. Y gynulleidfa sydd wedi creu'r emynau yma neu eu cyn-dadau nhw."

Ychwanegodd ei bod yn ddiolchgar am nawdd y mae hi wedi'i dderbyn gan Undeb Annibynwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Bedyddwyr Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer y daith.

"Does dim angen poeni. Dwi ddim ar ben fy hun. Ni'n 'neud hyn efo'n gilydd - fi a phawb sydd yna. Mae pawb yn rhan o'r prosiect."

Mae cyfweliad llawn Lleuwen Steffan ac ymateb y gynulleidfa yn Aberystwyth i'r perfformiad i'w glywed ar Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig